Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Wrecsam

Ar hyn o bryd mae yna alw mawr ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Gogledd Cymru, sydd yn arwain at oedi sylweddol wrth ddarparu gofal ac yn rhoi pwysau ar ein gwasanaethau brys.

Mae ein timau gofal cymdeithasol ac iechyd yn gwneud popeth posibl ac yn defnyddio nifer o wasanaethau i gefnogi pobl sydd yn ddigon da i adael yr ysbyty ond sydd angen gofal parhaus. Rydym yn cydnabod bod yna ddiffyg cenedlaethol yn y nifer o weithwyr gofal ond rydym yn teimlo hyn o ddifrif yng Ngogledd Cymru ac er gwaethaf gwneud popeth o fewn ein gallu i recriwtio, rydym angen rhagor o bobl yn y swyddi hyn, a hynny ar fyrder. Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector gofal i gysylltu â’u Hawdurdod Lleol neu fynd i https://gofalwn.cymru/ i edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael.

Ein blaenoriaeth bob amser yw sicrhau bod pob claf yn cael ei ryddhau o’r ysbyty ar yr adeg iawn. Oherwydd yr heriau presennol mae hyn yn mynd yn anoddach ac yn arwain at gleifion yn aros yn hirach mewn gwelyau mewn ysbytai. Os oes gennych berthynas neu anwyliaid sydd wedi cael eu hasesu ac yn ddigon da i fynd adref, ond sydd yn aros i gael eu rhyddhau efo gofal yn y cartref a chefnogaeth iechyd yn y gymuned, mae’n bosibl y gallech eu helpu i fynd adref yn gynt os ydych chi neu eich teulu mewn sefyllfa i’w cefnogi adref. Os yw eich perthynas yn aros am becyn gofal ffurfiol, efallai y gallwch gynnig cefnogaeth a gofal yn y tymor byr. Os ydych yn teimlo bod hyn yn opsiwn y gallwch ei ystyried, siaradwch â rheolwr y ward neu eich gweithiwr cymdeithasol i edrych ar hyn ymhellach.

Mae’r anhawster i ryddhau cleifion sydd yn ffit yn feddygol o’r ysbyty yn arwain at ddiffyg sylweddol yn y nifer o welyau sydd ar gael yn ein hysbytai. Mae hyn yn cael effaith ar lawdriniaethau wedi eu cynllunio ac ar yr amser y mae ambiwlansys yn gorfod aros y tu allan i Adrannau Achosion Brys, sydd yn golygu nad yw parafeddygon yn gallu ymateb i alwadau brys eraill yn ein cymunedau.

Mae treulio cyn lleied o amser ag sy’n bosibl yn yr ysbyty yn well i gleifion ac yn golygu bod gwelyau'r GIG ar gael i eraill sydd ag anghenion gofal brys. Mae cefnogi cleifion hŷn i fynd adref o’r ysbyty yn effeithlon yn rhan bwysig o’u hadferiad ac mae hefyd yn eu hamddiffyn rhag canlyniadau negyddol o orfod mynd i mewn i’r ysbyty, megis heintiau a gafwyd yn yr ysbyty, codymau a cholli annibyniaeth.

Hefyd mae COVID-19 yn dal yn bodoli ac yn parhau i roi pwysau ychwanegol ar y system iechyd. Mae gennym ar hyn o bryd dros 100 o gleifion gyda COVID-19 yn ein hysbytai, gyda thua 10 ohonynt yn derbyn triniaeth yn ein Hunedau Gofal Dwys. Mae hyn yn ein hatgoffa bod angen i ni barhau i ddilyn y rheolau i amddiffyn ein hunain a’n hanwyliaid ac i helpu lleihau’r risg o ledaenu’r haint yn ein cymunedau.

Mae’r gaeaf bob amser yn gyfnod heriol ac mae’r galw ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy nag erioed yn sgil y pandemig. Byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod gofal wedi’i gynllunio yn parhau drwy’r cyfnod prysur hwn. Gall pawb chwarae eu rhan hefyd drwy gael eu brechiadau COVID a’r ffliw a meddwl am y gwahanol opsiynau i gael y gofal sydd eu hangen arnynt.

Am ragor o wybodaeth am y brechiadau ffliw a COVID ewch I Cwestiynau Cyffredin Brechiadau Cyffredinol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)