Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan gefnogi canser yn dod i Ogledd Cymru

Bydd partneriaeth elusen newydd sy’n dod i Ogledd Cymru yn helpu i annog pobl sy’n byw gyda chanser i beidio “colli’r llawenydd o fyw o fod ofn marw”.

Mae Maggie’s yn rhoi cefnogaeth am ddim i bobl gyda’r clefyd ar draws y Deyrnas Unedig, yn ogystal â’u teuluoedd a’u ffrindiau, yn eu canolfannau cynnes a chroesawgar.

Nawr mae’r rhanbarth yn mynd i elwa o gael un ei hun, ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fynd i mewn i drafodaethau gyda’r sefydliad i ddarparu canolfan yng Ngogledd Cymru.

Mae Sefydliad Steve Morgan yn garedig iawn wedi cytuno i gefnogi’r prosiect yn ariannol, wedi iddo gyllido’r prosiect cyfalaf ar gyfer Maggie’s y Wirral ar dir Canolfan Ganser Clatterbridge ym mis Medi.

Mae’r canolfannau yn cael eu rhedeg gan staff arbenigol sy’n helpu pobl i fyw’n dda gyda chanser.  Maent yn darparu lle i anadlu i ffwrdd o’r ysbyty lle gall y person sy’n byw gyda’r clefyd gwrdd â phobl sy’n deall beth maen nhw’n mynd drwyddo, neu gymryd ennyd i gasglu eu meddyliau.

Mae Maggie’s yn helpu pobl i gymryd rheolaeth pan fydd canser yn troi bywyd ben i waered, gyda chefnogaeth ar gyfer unrhyw beth o driniaeth i sgîl-effeithiau i bryderon am arian.  

Mae timau proffesiynol y canolfannau yn rhoi cymorth a gwybodaeth ac maen nhw’n rhedeg grwpiau a gweithgareddau, wedi’u cynllunio i wneud ymdopi gyda chanser yn haws.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Therapïau a Gwyddorau Iechyd, Adrian Thomas, ei fod yn croesawu’r bartneriaeth gyda Maggie’s.

Ychwanegodd: “Rydym yn falch y bydd pawb sy’n mynd drwy eu siwrnai canser yng Ngogledd Cymru yn gallu elwa o’r gefnogaeth, sydd wedi ennill gwobrau, y mae Maggie’s yn ei gynnig.

“Mae’n mynd i fod yn ased ar gyfer gwasanaethau canser yn ein rhanbarth – a bydd yn ychwanegu at yr adnoddau a ddarperir eisoes gan gymaint o elusennau gwych.

“Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar i Sefydliad Steve Morgan am gefnogi’r prosiect cyffrous hwn a fydd o fudd i gymaint o’n cleifion a’u teuluoedd.”

Meddai’r Fonesig Laura Lee, Prif Weithredwr Maggie’s, “Mae Maggie’s yn falch o fod yn cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Sefydliad Steve Morgan i ddod â’n cefnogaeth canser proffesiynol i Ogledd Cymru.  

“Mae Maggie’s Abertawe a Maggie’s Caerdydd wedi bod yn cefnogi pobl ar draws Cymru am nifer o flynyddoedd felly rydym yn edrych ymlaen at ddod â mwy o gefnogaeth i’r wlad.”

Sylfaenwyd Maggie’s gan Maggie Keswick Jencks a’i gŵr Charles Jencks ar ôl iddi glywed ym mis Mai 1993 fod ei chanser y fron wedi dychwelyd.  Ar ôl derbyn prognosis o ddim ond tri mis i fyw, eisteddodd y cwpl mewn coridor heb ffenest i brosesu’r newyddion.  

Tra’n eistedd yn y coridor, fe wnaethon nhw drafod yr angen am rywle ‘gwell’ i bobl gyda chanser fynd, y tu allan ond gerllaw’r ysbyty.

Dechreuon nhw gynllunio glasbrint ar gyfer canolfan yn Ysbyty Cyffredinol Gorllewinol Caeredin, lle gallai’r rhai oedd yn cael diagnosis o ganser a’u hanwyliaid dderbyn cyngor a chefnogaeth.

Agorwyd y ganolfan Maggie’s cyntaf yng Nghaeredin ym mis Tachwedd 1996 a byddai canolfan yng Ngogledd Cymru yn ychwanegu at y 24 sydd eisoes yn weithredol ar draws y DU, gyda thri arall wedi’u lleoli yn Hong Kong, Tokyo a Barcelona.

Penderfyniad Maggie oedd na ddylai pobl “golli’r llawenydd o fyw o fod ofn marw” sy’n tanategu gwaith yr holl ganolfannau sydd â’i henw hi ynghlwm wrthynt.

Am fwy o wybodaeth am Maggie’s a sut i gysylltu â’r elusen ewch i: Maggie's – everyone's home of cancer care (maggies.org)

Am wybodaeth ynghylch elusen y bwrdd Iechyd, Awyr Las, ewch i : Awyr Las | Hafan