Neidio i'r prif gynnwy

Clinig diagnosis cyflym o ganser 'safon aur' i'w lansio yr haf hwn

19.05.2022

Mae clinig diagnosis cyflym, a wnaiff gwtogi amseroedd gwneud diagnosis i bobl y mae'n bosibl fod ganddynt ganser i lai na phythefnos, wedi cael ei alw yn wasanaeth "Safon Aur".

Bydd y clinig lympiau yn y gwddf newydd, a fydd yn gwasanaethu poblogaeth gyfan Gogledd Cymru, yn cychwyn yr haf hwn yn Ysbyty Glan Clwyd, ac mae'n addo diagnosis ar yr un diwrnod.

Mae'n glinig newydd sy'n rhan o'r gwasanaeth clust, trwyn a gwddf (ENT), radioleg a'r ên a'r wyneb sy'n darparu asesiadau cyflym o gyflyrau cleifion yr amheuir bod canser arnynt sydd â lwmp amheus yn y gwddf.

Ni yw pob lwmp yng nghyffiniau’r gwddf yn amheus, ond gallant fod yn arwydd cyntaf i ddangos fod canser wedi cyrraedd nodau lymff claf. Felly, gall sicrhau triniaeth brydlon i bobl wella canlyniadau.

O dan y system newydd, gall clinigydd gyfeirio claf i'r clinig newydd a chânt eu gweld yr wythnos ganlynol, cyn cael mynediad at yr holl adrannau sy'n ofynnol i wneud diagnosis interim - â'r cyfan ar yr un diwrnod.

Lwmp yn y gwyddf PET CT

Cyn pen pythefnos, bydd y tîm amlddisgyblaethol wedi llunio cynllun triniaeth ac wedi hysbysu'r claf am hyn.

Mae'r system newydd yn disodli tri chlinig ar wahân i gynnal ymgynghoriad, sgan uwchsain/allsugno drwy nodwydd fân a rhoi'r canlyniadau.

Mae un o eiriolwyr Fforwm Cleifion Canser Gogledd Cymru, sydd hefyd wedi goroesi canser y thyroid, wedi galw'r system yn wasanaeth "Safon Aur".

Fe wnaeth Cheryl Lockyer, un o gynrychiolwyr cleifion canser y thyroid ar y fforwm a gafodd ddiagnosis chwe blynedd yn ôl, ganu clodydd y gwasanaeth i'r cymylau.

Dywedodd: "Fel arfer, byddai'n cymryd wythnosau i gael diagnosis, felly mae hwn yn wasanaeth safon aur yn fy marn i.

“Er nad yw'r rhan fwyaf o lympiau yn ddrwg, byddwch yn pryderu'n ddiddiwedd, felly gall hynny daflu cysgod drosoch chi. Hyd yn oed os na fydd yn newyddion da, byddwch yn gwybod o leiaf - peidio â gwybod yw'r peth gwaethaf.

"Credaf ei bod hi'n anodd disgrifio pa mor bryderus fydd pobl yn teimlo pan fydd ganddynt lwmp ac yn gorfod mynd i'r ysbyty.

"Mantais fawr y clinig mynediad cyflym yw'r ffaith y gallwch chi fynd i'r ysbyty a chael diagnosis cychwynnol ar yr un diwrnod."

Dan amgylchiadau arferol, gall gymryd chwe wythnos neu ragor i wneud diagnosis a chynllunio triniaeth, felly mae'r tair adran wedi gweithio'n galed i gydweithredu i ddatblygu'r cynllun.

Cheryl Lockyer a Dr Muhammad Aslam

Cafwyd eglurhad ynghylch sut byddai'r clinig newydd yn gweithredu gan Dr Muhammad Aslam, patholegydd ymgynghorol a chyfarwyddwr clinigol gwasanaethau cymorth clinigol a reolir Gogledd Cymru:

Dywedodd: "Fel arfer, bydd eich meddyg teulu yn ysgrifennu at ein hadran ENT, ac os bydd angen sgan uwchsain, trefnir apwyntiad arall gyda'r gwasanaeth radioleg. Yna, byddant yn penderfynu a fydd angen allsugno drwy nodwydd fân (FNA) neu fiopsi.

“Bydd rhai cleifion yn cael eu hanfon yn ôl i gael apwyntiad arall. Felly, gallem ni golli tair neu bedair wythnos yn eu taith.”

I ddechrau, cynhelir y clinig unwaith bob wythnos yn Ysbyty Glan Clwyd, ar gyfer cleifion o bob cwr o'r rhanbarth. Fodd bynnag, gobeithir y caiff ei gynyddu i ddau glinig bob wythnos.

Mae'r clinig diagnosis cyflym yn dilyn arbrawf llwyddiannus pan ofynnwyd i gleifion optio i mewn i'r gwasanaeth newydd.

Os ceir diagnosis o ganser, bydd nyrs arbenigol canser y pen a'r gwddf ar gael yn ddi-oed i gefnogi'r claf.

“O safbwynt yr ysbyty, bydd yn arbed llawer iawn o amser” meddai Dr Aslam. "Bydd y clinig hefyd yn effeithio ar amrywiaeth o ganserau y daw eu symptomau i'r amlwg trwy lympiau yn y gwddf. Gallant fod yn ganserau ymosodol iawn, oherwydd gallent fod wedi cyrraedd y nodau lymff.

Lymp yn y gwyddf MRI

“Gelwir hyn yn llwybr poeth, sy'n golygu fod amheuon cryf mai canser sy'n achosi hynny. Felly mae amser yn hanfodol.”

Dywedodd Dr Aslam fod llawer o waith wedi digwydd yn y cefndir i ddod ag adrannau gwahanol ynghyd i sefydlu'r clinig arbennig, a chafwyd cyllid gan y Bwrdd Iechyd i gefnogi'r gwaith.

Ychwanegodd: "Mae hyn oll yn golygu y caiff cleifion wybod beth fydd llwybr eu triniaeth yn gyflym oherwydd bydd tîm amlddisgyblaethol wedi dod ynghyd ac wedi pennu hyn.

"Pe bawn i'n cael lwmp amheus yn y gwddf, buaswn i'n dymuno cael y broses hon, yn hytrach nag un a allai bara chwech neu wyth wythnos."