Neidio i'r prif gynnwy

Bydd camera gama newydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn helpu i gyflymu diagnosis

Bydd cleifion yn elwa ar sganiwr cyflymach a manylach y mae disgwylir iddo gael ei osod yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn ddiweddarach eleni.

Mae'r camera gama yn ddyfais ddelweddu sy'n sganio rhannau o'r corff, yn cynnwys y rhan fwyaf o’r organau mawr fel yr ymennydd, yr ysgyfaint a'r esgyrn. Mae'r camera newydd sydd o'r radd flaenaf, sy'n cymryd lle'r hen ddyfais ddelweddu, yn sganio'n gyflymach, yn creu delweddau mwy eglur, ac yn cynnig dos is o ymbelydredd, a fydd yn helpu i gyflymu diagnosisau cleifion yn y pen draw

Fel arfer, caiff y camera gama ei ddefnyddio i helpu radiograffwyr i ymchwilio a monitro ystod o afiechydon, ar ôl eu trin, gan gynnwys cyflyrau fel canser, arthritis, clotiau yn yr ysgyfaint a gweithrediad yr arennau ac ati, ac mae'n ddull hynod sensitif o gynnig delweddu diagnostig.

Cyn cael eu sganio, caiff cleifion eu chwistrellu gydag isotop ymbelydrol, a gadewir iddo deithio trwy'r corff, cyn cyrraedd y rhan o'r archwiliad y bydd y sganiwr yn ei amlygu.

David Jones, Dywedodd y Prif Radiograffydd, Meddygaeth Niwclear a PET-CT: "Mae gennym dair adran Meddygaeth Niwclear yn y Bwrdd Iechyd gydag un ymhob ysbyty cyffredinol, ac ar hyn o bryd yr adran radioleg yn Ysbyty Maelor Wrecsam, sy'n cael ei huwchraddio ar raddfa fawr.

"Mae Meddygaeth Niwclear yn fath penodol o ddelweddu meddygol, lle caiff pigiadau ymbelydrol eu dilyn hyd at organau penodol yn y corff, gan ddefnyddio sganiwr arbennig o'r enw SPECT-CT (camera gama). Er bod ein sganiwr blaenorol wedi bod o gymorth mawr i ni dros flynyddoedd lawer, rydym wedi bod yn ffodus i gael cyllid i brynu offer modern newydd, sy'n cynnwys uwchraddio'r ddarpariaeth bresennol.

"Pan fydd y sganiwr newydd yn weithredol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, bydd cleifion yn elwa ar gael sganiau'n gyflymach, delweddau manylach, dos is o ymbelydredd, gwell dibynadwyedd ac amgylchedd mwy pleserus.

"Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, bu oedi cyn gosod y camera gama newydd, ond mae ein sganwyr eraill yn Ysbyty Glan Clwyd ac yn Ysbyty Gwynedd wedi gallu parhau i gynnig gwasanaethau i gleifion o ardal Wrecsam, wrth i staff o Wrecsam roi cymorth i'r adrannau eraill. Felly, rydym yn annog unrhyw un sydd wedi cael gwahoddiad i sgan yn un o'r ysbytai hyn i ddod atom fel y gallwn sicrhau bod y rhestr aros mor fyr â phosibl, ac i symud ymlaen gyda gofal a thriniaeth."

Mae'r sganiwr newydd yn rhan o raglen gwerth sawl miliwn o bunnau i brynu offer newydd y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei chynnal yn y gwasanaeth Radioleg ar draws Gogledd Cymru, sy'n cynnwys ystafelloedd Pelydr-X, sganwyr a pheiriannau uwchsain.