Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun i gefnogi cleifion sydd â dementia yn cael ei adfer yng ngogledd Cymru.

13/06/22

Mae cynllun sy’n caniatáu i deuluoedd a gofalwyr gefnogi unigolion sydd â dementia tra eu bod nhw mewn lleoliadau gofal iechyd, yn cael ei ailgyflwyno yng ngogledd Cymru.

Mae Ymgyrch John yn ymgyrch genedlaethol sy’n cydnabod rôl bwysig aelodau teulu sy’n gofalu am unigolion sy’n byw â dementia ac unigolion sydd ag anghenion cymhleth. Mae hyn yn cynnwys anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

Cafodd mynediad i deuluoedd a gofalwyr ei atal dros dro yn ystod pandemig Covid-19 oherwydd y cyfyngiadau ymweld a roddwyd ar waith i amddiffyn cleifion a staff. Erbyn hyn a chyda’r cyfyngiadau wedi’u codi, mae mynediad i deuluoedd a gofalwyr yn cael ei ailgyflwyno, gan ddechrau gyda wardiau Bonney ac Onnen yn Ysbyty Maelor Wrecsam a Ward 7 yn Ysbyty Glan Clwyd.

Dywedodd Gaynor Thomason, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Nyrsio a Bydwreigiaeth: “Rydym yn cydnabod rôl bwysig teuluoedd a gofalwyr sy’n cefnogi unigolion sydd â dementia neu anghenion cymhleth. Nid yn unig y dylem eu caniatáu i ddod i leoliadau iechyd, dylem eu croesawu.

“Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd i bobl, yn enwedig i’r rhai sydd ag anwyliaid yn yr ysbyty nad ydyn nhw wedi gallu eu helpu, heb sôn am ymweld â nhw. Roedd hyn yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn ein cleifion, ein staff a gwasanaethau’r GIG.

“Gan fod y cyfyngiadau wedi’u codi a’i bod hi bellach yn ddiogel i ni wneud hynny, rydym yn falch iawn ein bod yn gallu dechrau ailgyflwyno mynediad i deuluoedd a gofalwyr.

“Rydym ni’n gwybod bod nifer o gleifion sydd â dementia ac anghenion cymhleth eraill yn gallu bod yn bryderus, yn ddryslyd ac yn unig. Mae hi’n bwysig felly, ein bod yn cynnig ymweliadau diogel ac agored i deuluoedd a gofalwyr ddod i’r ysbyty y tu allan i oriau ymweld arferol.”

I drefnu ymweliad, cysylltwch â’r ward neu’r adran yn uniongyrchol.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i ymuno ag Ymgyrch John yn 2016. Mae’n caniatáu i ofalwyr neu aelodau o’r teulu fod gyda’r claf yn ystod amser gofal a bwyd a thu hwnt i oriau ymweld arferol, gan eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau.

Yn gynharach eleni, ymrwymodd y Bwrdd Iechyd i’r Siarter Ysbytai sy’n Deall Dementia Cymru. Y Siarter yw’r diweddaraf mewn cyfres o gyhoeddiadau sydd â’r nod o godi safonau gofal dementia ledled lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r Siarter yn cynnwys egwyddorion  y dylai ysbytai eu harddel os ydynt am fod yn ystyriol o ddementia. Daw rhagor o wybodaeth ynglŷn â hyn dros y misoedd nesaf.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Ymgyrch John yma