Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i drefniadau ar gyfer ymweliadau mamolaeth, newydd-anedig a pediatreg yng Ngogledd Cymru

23 Mai 2022

Mae newidiadau wedi cael eu gwneud i drefniadau ar gyfer ymweliadau mamolaeth, newydd-anedig a pediatreg ar draws Gogledd Cymru yn dilyn diweddariad i arweiniad cenedlaethol ar atal a rheoli heintiau COVID-19.

Mae'r newidiadau hyn yn berthnasol i fynychu apwyntiadau cynenedigol ac ôl-enedigol mewn clinigau cymunedol ac ysbytai, sganiau uwchsain yn ystod beichiogrwydd ac ymweld â wardiau/adrannau mamolaeth mewn ysbytai.

Dylid trefnu'r holl ymweliadau trwy apwyntiad yn unig ac wrth gyrraedd, caiff yr ymwelydd a enwebir ei asesu am arwyddion a symptomau COVID-19. Mae hyn er mwyn cadw ein cleifion, babanod, staff ac ymwelwyr yn ddiogel.

Gan fod risg gyson y bydd cyfraddau heintio'n newid yn y gymuned, caiff y trefniadau hyn eu hadolygu bob wythnos felly cynghorir pobl i holi'r ward neu'r adran cyn ymweld.

Gallwch gael manylion llawn am y trefniadau ymweld diwygiedig ar ein gwefan.

I ofyn am ragor o wybodaeth am sut rydym yn asesu trefniadau ymweld ar gyfer mamolaeth, gallwch gysylltu â'n Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS) drwy ein gwefan.