Neidio i'r prif gynnwy

Claf awdioleg yn dweud bod troi mewnblaniad ymlaen yn "debyg i gael ei rhoi mewn gêm fideo"

31.05.22

Dywedodd dynes a dderbyniodd 500fed mewnblaniad cochlea adran awdioleg ysbyty ei bod yn teimlo fel pe bai wedi cael ei thaflu i mewn i "gêm fideo" pan gafodd ei actifadu.

Derbyniodd Nicole Milton, 47 oed, lawdriniaeth i osod mewnblaniad clywedol ar 21 Ebrill yn Ysbyty Glan Clwyd.

Cafodd y mewnblaniad ei droi ymlaen ddydd Mawrth, 17 Mai, ac roedd y sŵn bron yn ddigon i orlethu Nicole, yr oedd ei chlyw wedi dirywio'n raddol ers iddi fod yn blentyn.

Dywedodd: "Roedd fel petawn i wedi cael fy rhoi mewn gêm fideo, dim ond trwy bwyso botwm. Dim ond pan oeddwn yn y car yn mynd adref, y dechreuodd fod yn oddefadwy.

"Erbyn i mi gyrraedd adref, roedd mor rhyfedd - ni allwn i gofio clywed mor dda o'r blaen. Mae gen i gof o'r rhan fwyaf o synau ond roedd y rhan honno o'm hymennydd wedi bod yn segur ers blynyddoedd."

Mae'r uned yn Ysbyty Glan Clwyd o dan gontract i osod y mewnblaniadau ac i fonitro cynnydd cleifion ar draws Glannau Mersi, Gorllewin Swydd Gaer a Chanolbarth Cymru - yn ogystal â gwasanaethu poblogaeth Gogledd Cymru.

Roedd Nicole, y 500fed claf i fanteisio ar y gwasanaeth chwyldroadol, wedi cael ei geni gyda nam ar y clyw ond llwyddodd i gwblhau'r ysgol heb i'w ffrindiau sylweddoli hynny - oherwydd ei sgiliau ardderchog yn darllen gwefusau.

Fodd bynnag, wrth iddi droi'n oedolyn, gwnaeth ei chlyw ddirywio a chafodd ei theclyn cymorth clyw cyntaf ei osod pan oedd yn 26 oed. Erbyn iddi gyrraedd 36 oed, roedd pethau wedi dirywio fel y gwnaeth roi'r gorau i ddefnyddio'r ffôn.

Eglurodd: "Roedd lleisiau wedi mynd yn eithaf aneglur felly rhoddais y gorau iddi. Dyna rywbeth yr ydw i wir wedi ei golli."

Datgelodd Shanelle Canavan, gwyddonydd clinigol yn y gwasanaeth awdioleg, fod gwneud penderfyniad o'r fath yn dangos bod nam ar y clyw wedi cyrraedd pwynt critigol.

Dywedodd: "Mae peidio gallu clywed sgyrsiau ar y ffôn yn arwydd da bod angen mewnblaniad cochlea ar bobl.

"Cyn troi'r mewnblaniad ymlaen, ni allai Nicole glywed dim o gwbl heb ddarllen gwefusau. Gobeithio na fydd yn rhaid iddi ddibynnu ar ddarllen gwefusau ond dyddiau cynnar yw hi."

Mae'r arwyddion cynnar hynny ers iddi dderbyn y mewnblaniad wedi bod yn bositif, heblaw am ymddangosiad cymeriad cartŵn adnabyddus.

"Fe allwn i glywed pethau o amgylch y tŷ, fel y stêm o'r haearn smwddio mewn ystafell arall," meddai Nicole. "Roedd popeth yn swnio mor uchel.

"Roeddem ni'n gwylio'r golff ar y teledu ac fe allwn i glywed sŵn y ffon golff yn taro'r bêl. Nid oeddwn i wedi clywed hynny o'r blaen.

"Mae'n rhaid i mi gael gwared ar y cloc yn y gegin. Roedd yn rhaid i mi ganolbwyntio arno i'w glywed yn y lle cyntaf ond mae'n niwsans erbyn hyn. Erbyn hyn, y cwbl rydw i eisiau ei wybod yw pa bryd y bydd Donald Duck yn hel pac ac yn mynd oddi yma."

Esboniodd Shanelle sut y gall y lleferydd swnio ychydig bach fel cymeriad comedi o droi'r sain yn uwch, wrth i'r ymennydd ddod i'r arfer o brosesu'r wybodaeth newydd.

Dywedodd: "Bydd popeth yn swnio'n eithaf uchel (yn y lle cyntaf) ond byddwch yn dechrau hidlo'r synau a byddwch yn clywed mwy o leferydd wrth i amser fynd yn ei flaen."

Argymhellir mewnblaniadau cochlea ar gyfer cleifion sydd â nam difrifol a dwys ar y ddwy glust ac mae asesu'n cynnwys profion clyw, prawf lleferydd, cwnsela disgwyliadau ac archwiliadau radiolegol.

Mae i fewnblaniad cochlea ddwy ran, mewnblaniad mewnol a phrosesydd allanol. Caiff y mewnblaniad mewnol ei osod yn llawfeddygol gyda gwifrau bach sy'n cael eu rhoi yn y cochlea (organ y clyw), sydd yna'n trosglwyddo'r cerrynt trydanol i ganolbwynt y clyw yn yr ymennydd trwy nerf y clyw. Mae hyn yn osgoi rhannau anweithredol o'r glust.

Mae'r ysgogiadau trydanol hynny'n atgynhyrchu synwyriadau sŵn sydd ar goll ac mae'r ymennydd yn dysgu sut i'w dehongli fel synau a lleferydd o ddydd i ddydd.

Un o agweddau dyfeisgar y prosesydd allanol, sy'n cael ei atodi i'r mewnblaniad trwy fagnet, yw y gall dderbyn lleferydd dros y ffôn trwy ei ffrydio'n uniongyrchol ato o ap ar ffôn clyfar y claf.

Gellir rhaglennu'r prosesydd gyda gosodiadau amrywiol fel lleihau sŵn cefndir yn awtomatig, i ganolbwyntio ar y lleferydd ac yn llai ar synau parhaus. Gellir ychwanegu gosodiad arall i helpu'r sawl sy'n gwisgo'r prosesydd i glywed cerddoriaeth yn gliriach.

Roedd cerddoriaeth yn rhywbeth yr oedd darpar ŵr Nicole, Steve Garner wedi dweud eu bod wedi'i golli dros y ddwy flynedd diwethaf, gan fod Nicole yn gweld ei bod yn ymyrryd â'i chlyw fwyfwy.

Gan chwerthin a chodi ei llygaid, dywedodd Nicole: "Fe fydda' i'n mynd am wersi canu cyn bob hir, gewch chi weld."

Gan siarad am yr effaith y mae'r mewnblaniad wedi'i chael ar ei bywyd, dim ond wythnos ar ôl iddo gael ei osod, dywedodd: "Mae fy ngorbryder wedi diflannu. Ni fyddaf yn torri ar draws mewn sgyrsiau bellach. Nid oeddwn yn gwybod pa bryd i siarad fyth a byddwn i'n cadw draw o sgyrsiau grŵp.

"Fel arfer, fe fyddwn i'n sefyll yn ôl ac yn gadael i Steve siarad."

Bydd angen i Nicole ddod i weld Shanelle a'i chydweithwyr am beth amser eto wrth iddynt geisio dod o hyd i'r lefelau cywir ar gyfer ei dyfais, wedi'u teilwra iddi hi.

Ar ôl helpu eu 500fed claf trwy'r weithred hon, mae tîm awdioleg yn gyfiawn falch o'r gwahaniaeth y maent yn ei wneud i fywydau pobl.

Mae Nicole yn cytuno iddo fod yn brofiad sydd wedi newid ei bywyd. Dywedodd: "Mae'r gwahaniaeth erbyn hyn yn anhygoel."

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaeth awdioleg, ewch i: Awdioleg - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (nhs.wales)