Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd yn addo i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog ar draws Gogledd Cymru

24/06/2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi lansio rhaglen newydd heddiw (dydd Gwener, 24 Mehefin) i sicrhau nad yw cymuned y Lluoedd Arfog ar draws Gogledd Cymru o dan anfantais o ran y gofal maent yn ei dderbyn a lle bo’n bosibl, eu bod yn derbyn gofal personol ac yn gwella canlyniadau cleifion.

Mae'r rhaglen, o’r enw Rhaglen Gydweithredol Gofal Iechyd Cyn-filwyr Gogledd Cymru (NWVHC), wedi ei lansio cyn Diwrnod y Lluoedd Arfog i ddangos ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i ddod yn sefydliad Enghreifftiol sy’n Gyfeillgar i’r Lluoedd.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi bod yn llwyddiannus yn ei gais am gyllid i Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog (AFCFT), i gyflwyno'r rhaglen newydd hon i Gymuned y Lluoedd Arfog (Personél sy'n gwasanaethu yn Rheolaidd ac Wrth gefn, Cyn-filwyr a'u teuluoedd).

Penodwyd Cyn-filwr y fyddin Zoe Roberts fel yr arweinydd ymroddedig i'r NWVHC. Gwasanaethodd Zoe yn y fyddin Brydeinig fel Arbenigwr Adnoddau Dynol rhwng 2001-2010, ar draws Gogledd Iwerddon a thir mawr y DU.

Wrth siarad am ei hamcanion ar gyfer ei rôl newydd, dywedodd Zoe: "Rwyf wrth fy modd i gael fy mhenodi i rôl y mae gwir angen amdani o fewn Betsi ac rwy'n falch o arwain y rhaglen hon i gefnogi ein cymuned Lluoedd Arfog yng Ngogledd Cymru. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i adeiladu ar y gwaith gwych a wnaed hyd yma mewn partneriaeth â'n partneriaid milwrol a'n helusennau lleol."

“Rwy'n gyffrous i gynorthwyo mewn gwella profiad cymuned y Lluoedd Arfog drwy helpu'r Bwrdd Iechyd i ddod yn sefydliad sy’n ‘Ymwybodol o Gyn-filwyr’; bydd hyn yn sicrhau bod y rheiny sy'n gwasanaethu, neu sydd wedi gwasanaethu o fewn ein Lluoedd Arfog, yn cynnwys eu teuluoedd, yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n briodol ac yn caniatáu i ni fel Bwrdd Iechyd, gynnig cydnabyddiaeth haeddiannol am eu gwasanaeth i'n gwlad."

Bydd y rhaglen NWVHC yn darparu yn gyntaf wyth safon maniffesto y VCHA i gael eu hachredu, sy'n cynnwys codi ymwybyddiaeth o gyn-filwyr, cynyddu'r nifer o gleifion a nodir fel cyn-filwyr sy’n cael eu cyfeirio ar gyfer triniaeth, a gwella recriwtio a chadw cyn-filwyr o fewn BIPBC.

Mae'r Bwrdd Iechyd eisoes yn dangos ei ymrwymiad gan fod y Prif Weithredwr Jo Whitehead wedi arwyddo addewid newydd Step into Health, sy'n anelu at gefnogi cyfleoedd gyrfaol i aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog drwy gynnig cyfleoedd hyfforddi, lleoliadau gwaith, diwrnodau mewnwelediad, a chynnig cymorth gyda cheisiadau.

Dr Nick Lyons, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a chyn beilot awyren ymladd yn yr Awyrlu Brenhinol yw'r hyrwyddwr gweithredol yn y Bwrdd Iechyd i gymuned y Lluoedd Arfog. Dywedodd "Mae hi'n fraint cefnogi'r fenter hon sy'n cydnabod y rôl

bwysig y gall cyn-filwyr ei chwarae mewn dod a'u sgiliau a'u profiad i wasanaeth cleifion yn y GIG.

“Fel cyn-filwr fy hun rydw i'n falch o fod yn arweinydd gweithredol a hyrwyddwr y rhaglen hon o fewn y Bwrdd Iechyd."

Mae Rhaglen Gydweithredol Gofal Iechyd Cyn-filwyr Gogledd Cymru yn anelu at ennill achrediad i Gynghrair Gofal Iechyd Cyfamod y Cyn-filwyr (VCHA), grŵp o ddarparwyr a gytunodd i fod yn esiamplau o’r gofal a’r cymorth gorau ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog

Mae'r Bwrdd Iechyd eisoes wedi derbyn Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Llywodraeth am gefnogaeth aml-sianel a thalu teyrnged i bersonél lluoedd y gorffennol a'r presennol, ac mae’n dangos ei fod yn esiampl i gyflogwyr mawr eraill a’i fod yn gyflogwr sy’n gyfeillgar i’r lluoedd arfog.

I gael rhagor o wybodaeth, cyngor neu gymorth o ran cael mynediad at wasanaethau BIPBC fel cyn-filwr ewch i’r wefan hon.