Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys 2022

Heddiw fe wnaethon ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys (12 Mai) ar draws ein holl safleoedd yng Ngogledd Cymru.

I nodi’r diwrnod rydym wedi arddangos rhai o straeon ein nyrsys i dynnu sylw at eu gwaith anhygoel, trwy’r fideos hyn.

Mae ysbytai ar draws y bwrdd iechyd wedi cynnal digwyddiadau a gweithgareddau amrywiol i ddathlu’r achlysur, gan gynnwys stondinau cacennau, cwisiau, gwisgo i fyny mewn gwisgoedd nyrsys traddodiadol, yn ogystal â rhai Metronau yn gwisgo gwisgoedd myfyrwyr nyrsio i ddathlu nyrsys y dyfodol.

Thema eleni ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys yw’r buddsoddiad mewn nyrsio a’r hawl i sicrhau iechyd byd-eang, mae hefyd yn gyfle i ddathlu ein Nyrsys, yn ogystal â chyfle i ddweud diolch.

 

Mae Gill Harris, dirprwy brif weithredwr y Bwrdd Iechyd a Chyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaeth Clinigol Integredig, wedi rhannu ei chanmoliaeth wrth gydnabod gwaith rhagorol ein cydweithwyr nyrsio.

Wrth siarad â staff dywedodd Gill: “Rwy’n estyn allan at ein staff ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys i ddiolch i chi am bopeth rydych chi’n ei wneud, bob diwrnod o’r flwyddyn. Rydym wedi gweithio trwy ddwy flynedd hynod heriol, ac mae’r heriau hynny’n parhau. Yn ystod y pandemig, rydych wedi codi i bob her, rydych chi wedi darparu gofal mewn amgylcheddau yr ydych yn anghyfarwydd â nhw, rydych wedi symud o wasanaethau yr ydych yn gyffyrddus â nhw, i gefnogi rhai rydych chi efallai’n llai cyfforddus â nhw, rydych chi wedi arloesi, rydych chi wedi camu ymlaen, rydych chi wedi camu i fyny, er mwyn darparu’r gofal gorau posib i’n cleifion, ein cyhoedd, ac i’r rhai sy’n eu caru.

“Rydych chi’n dirprwyo dros fylchau yn ein gweithlu ac yn parhau i ddarparu’r gofal rhagorol hwnnw ac rydych chi’n parhau i arloesi. Rydw i’n hynod o falch o bopeth rydych chi’n ei wneud, bob dydd. Rwy’n hynod falch o’r ffordd rydych chi’n darparu gofal i’n cleifion yn garedig ac yn dosturiol ac i’n cymunedau. Rwy’n hynod falch o alw fy hun yn nyrs ac i weithio ochr yn ochr â chi. Diolch.”