Neidio i'r prif gynnwy

Cyfeillgarwch arbennig rhwng cleifion oedrannus a disgyblion yn ennill gwobr gymunedol

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Ysbyty Cymuned Yr Wyddgrug ac Ysgol Bryn Gwalia wedi gweithio’n galed ac mewn ffyrdd gwreiddiol er mwyn helpu cleifion a disgyblion gadw mewn cysylltiad drwy’r pandemig COVID-19.

Mae’r cyfeillgarwch arbennig sydd wedi datblygu rhwng y ddau sefydliad wedi ennill Gwobr Prosiect Cymunedol Cyngor Tref yr Wyddgrug a hynny am eu hymdrechion i oresgyn anawsterau pan nad oedd hi’n bosibl i blant a chleifion gyfarfod wyneb yn wyneb oherwydd peryglon COVID-19.

Dywedodd Diane Sweeney, Cydlynydd Gweithgareddau a Hyrwyddwr Profiad y Claf yn Ysbyty Cymuned Yr Wyddgrug: “Roedd hi’n fraint mynd i’r seremoni ar ran yr ysbyty. Roeddem wedi’n synnu ein bod wedi ennill. Roedd hwn yn gategori anodd ag ynddo sawl elusen sydd wedi hen ennill eu plwyf fel y banc bwyd lleol a Bryn y Beili.

Rwy’n credu eu bod nhw’n hoffi’r ffordd roedden ni wedi meddwl am wahanol ffyrdd i feithrin y berthynas rhwng y cleifion a’r plant yn ystod y pandemig a sut y gwnaethon ni gadw’r cysylltiad hwnnw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Cyn Covid mi fydden ni wedi trio cael y disgyblion a’r cleifion i gyfarfod wyneb yn wyneb ond rwy’n meddwl bod gennym ni’r cyfeillgarwch erbyn hyn ac rydym ni’n edrych ymlaen at yr amser pan fyddwn ni’n cael cymysgu eto.”

Cysylltodd Diane â Lorraine Dalton, pennaeth newydd Ysgol y Gwalia yn ystod Gwanwyn 2021 gyda’r syniad o feithrin perthynas cleifion yr ysbyty gyda phlant yr ysgol er mwyn iddynt rannu gweithgareddau a phrofiadau gyda’i gilydd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae plant o bob oedran wedi creu lluniau i’r ysbyty, canu i’r cleifion dros Zoom, mynd i weld y goleuadau’n cael eu cynnau ar goeden atgofion Nadolig yr ysbyty a chanu carolau y tu allan i’r ysbyty.

Dywedodd Lorraine: “Rydym wedi llwyddo goresgyn y rhwystrau yn ystod y pandemig. Mae hi’n hawdd cydweithio gydag ysbyty pan nad oes Covid ond rwy’n meddwl bod llawer o lefydd wedi cau a stopio gwneud pethau fel hyn unwaith y daeth Covid. Roedd hi’n anodd meddwl am ffyrdd gwreiddiol i oresgyn hyn, ond fe wnaethom weithio gyda’n gilydd i greu’r berthynas.

“Erbyn hyn, mae’r plant yn gwybod mai’r ysbyty yw eu cyswllt cymunedol. Rwy’n meddwl bod cydweithio rhwng cenedlaethau mor bwysig. O safbwynt y plant, mae angen iddyn nhw weld ei bod hi’n bosibl i bobl yn y gymuned gydweithio, waeth bynnag fo’u hoedran ac mewn gwirionedd, bod ganddyn nhw bethau’n gyffredin a straeon i’w hadrodd. O ran y genhedlaeth hŷn, mae hi’n bwysig iddyn nhw fyfyrio a siarad am eu profiadau er mwyn eu hiechyd a’u lles nhw.”

Ar gyfer dathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines, bydd y plant yn gofyn cwestiynau i’r cleifion ynglŷn â’u profiadau a beth wnaethon nhw ar gyfer coroni’r Frenhines. Yn ddiweddaradch, bydd yr ysgol yn adlewyrchu hynny yn eu gemau, eu bwyd a’u dillad. Mae’r ysbyty hefyd wedi gwneud coronau i’r plant eu lliwio a’u dylunio a’u dychwelyd i’r cleifion gael eu gwisgo ar y diwrnod.

Mae Gwobr Prosiect Cymunedol Cyngor Tref Yr Wyddgrug yn cael ei dyfarnu i’r prosiect neu’r digwyddiad sy’n cefnogi pobl leol neu sydd o fudd iddynt ac sydd hefyd yn gwneud cyfraniad i gymuned yr Wyddgrug. Mae’r enillydd yn cael ei ddewis gan y Maer.

Dywedodd Cyn-faer Yr Wyddgrug, Y Cynghorydd Sarah Taylor: “Eleni derbyniodd Cyngor Tref Yr Wyddgrug dros 200 o enwebiadau gyda 60 o grwpiau, busnesau ac unigolion yn cael eu henwebu,

Rydyn ni’n aml yn clywed am bobl yn dweud nor anodd yw hi i ddewis enillwyr - ond credwch chi fi, roedd hi’n anodd dros ben. Rwy’n falch iawn fy mod yn byw ac yn gweithio mewn tref sydd mor ofalgar a chymunedol â’r Wyddgrug.”