Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Wrecsam Maelor yn troi'r llanw ar blastig

16.06.2022

Mae Ysbyty Maelor Wrecsam wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio poteli dŵr plastig gan arbed 80 tunnell o CO2e, a £75,000 y flwyddyn.

Bu cynnydd mewn llygredd plastig yn ystod y pandemig Covid-19, ac mewn ymdrechion i leihau baich amgylcheddol yr ysbyty, mae Grŵp Gwyrdd Maelor Wrecsam wedi lansio cynllun dŵr yfed diogel o dapiau cegin dynodedig ym mhob ardal glinigol.

Lansiodd Elliw McCance, ysgolor Cynaliadwyedd (Canolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy), a Chofrestrydd Arbenigedd mewn Offthalmoleg, y prosiect fel rhan o Grŵp Gwyrdd yr ysbyty. Roedd Ellie yn bryderus ynghylch y swm cynyddol o wastraff plastig sy'n cael ei gynhyrchu, a chwestiynodd y rhesymeg a chynaliadwyedd y defnydd o boteli dŵr plastig gan staff ysbytai a chleifion.

Eglura Ellie: "Arweiniodd Covid-19 at don o boteli plastig 500ml ar ein safle. Mae ein defnydd wedi dod i gyfanswm o hanner miliwn o boteli dŵr y flwyddyn, yn cael eu hychwanegu at y llif gwastraff yn ddiangen.

"Mae rheolwyr ystadau, a'n grŵp diogelwch dŵr safle wedi cadarnhau bod gan bob ardal fynediad at ddŵr yfed diogel, a bod cynwysyddion yfed cleifion yn cael eu thermo-diheintio yn ganolog i’w hailddefnyddio’n ddiogel.

“Mae Grŵp Gwyrdd Wrecsam wedi bod yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid a rheolwyr, ac rydym wrth ein bodd na fydd gennym y poteli plastig hyn mewn cylchrediad mwyach, o blaid dŵr tap. Mae ein dŵr tap yn cael ei brofi'n rheolaidd, ac fel o'r blaen, mae'n parhau i fod yn ddiogel i'w yfed. Fel rhan o'r cynllun dŵr diogel, bydd labeli’n nodi’n glir y ffynonellau dŵr yfed ym mhob ardal i staff a chleifion eu gweld.

"Fe allwn ni nawr ddathlu troi'r llanw ar y tswnami poteli plastig."

O ganlyniad, bydd hyn yn arbed 80 tunnell o CO2e, yr un faint o garbon a gynhyrchir o 21 o deithiau dwyffordd rhwng Llundain a Hong Kong, a bydd yn arbed £75,000 y flwyddyn i'r ysbyty.

Pe bai gofal iechyd byd-eang yn wlad, honna fydda'r 5ed allyrrydd mwyaf. Mae GIG Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol o sero net erbyn 2030 a ffurfiwyd Grŵp Gwyrdd Maelor Wrecsam fel rhan o rwydwaith Iechyd Gwyrdd Cymru i helpu i gyrraedd y nod hwn.

Mae meysydd prosiect eraill y Grŵp Gwyrdd yn cynnwys clinigol, trafnidiaeth, gwastraff, bioamrywiaeth ac ynni. Mae'r grŵp hefyd ar hyn o bryd yn gweithio ar ei gwrt cyntaf y tu allan i’r ffreutur, er mwyn rhoi rhywle i staff eistedd yn yr awyr agored yn ystod eu gwyliau wrth wella bioamrywiaeth o amgylch safle’r ysbyty.