Neidio i'r prif gynnwy

Gwahodd nyrs o Ysbyty Gwynedd i Barti Gardd y Frenhines i anrhydeddu ei gwaith

01.06.22

Mae nyrs sydd â mwy na 40 mlynedd o wasanaeth yn y GIG wedi cael ei chydnabod am ei gwaith caled a'i hymroddiad gyda gwahoddiad i fynd i Barti Gardd y Frenhines ym Mhalas Buckingham.

Dechreuodd Sonya Edwards ei gyrfa ym 1979 fel myfyrwraig nyrsio yn Ysgol Nyrsio Dewi Sant ac yn Ysbyty  Môn ac Arfon cyn ymuno ag Ysbyty Gwynedd. Cafodd ei phenodi fel yr Uwch Nyrs gyntaf yn yr Uned Gofal Dwys ac yn ddiweddarach, fel y Nyrs Arbenigol gyntaf mewn Poen Acíwt yn yr ysbyty yn 2000.

Aeth Soyna i'r Parti Gardd yn ddiweddar gyda'i gŵr ar ôl cael ei henwebu gan un o'i chydweithwyr o'r ysbyty. 

Dywedodd: "Roedd yn brofiad anhygoel ac yn gymaint o anrhydedd a braint i dderbyn gwahoddiad.

"Yn y lle cyntaf, roeddwn i'n meddwl mai camgymeriad oedd y gwahoddiad ac mai sgam oedd y gwahoddiad a gefais! Ffoniais y rhif ar y gwahoddiad ac nid oeddwn i'n credu mai un go iawn ydoedd nes iddyn nhw fy ffonio'n ôl am yr ail waith.

Dywedodd Sonya, a ymddeolodd o'r proffesiwn nyrsio yn gynharach eleni, ei bod yn teimlo'n lwcus i fod wedi cael gweithio gyda chydweithwyr mor ymroddedig dros y blynyddoedd.

Dywedodd: "Rydw i wedi cael cyfleoedd gwych trwy gydol fy ngyrfa i astudio'n academaidd yn ogystal ag ar lefel glinigol. Rydw i wedi bod wrth fy modd gyda phob agwedd ar fy ngwaith, o fod yr uwch nyrs gyntaf ar yr Uned Gofal Dewis, i newid arbenigedd i ddarparu gwasanaeth newydd i reoli poen acíwt gyda Dr Ian Johnson yn Ysbyty Gwynedd.

"Roeddwn i'n gallu astudio ar gyfer MSc mewn Rheoli Poen yn 2006 ac rydw i wedi cael y fraint o weithio gyda chydweithwyr anhygoel sy'n barod iawn eu cymorth. Yn bennaf, rydw i wedi mwynhau gallu helpu i ddatblygu gwasanaeth hanfodol newydd sy'n fuddiol i'r gofal y mae cleifion yn ei dderbyn ac yn ei wella yn ogystal â chefnogi'r timau clinigol.

"Mae gwaith tîm, parch a chydweithio'n hanfodol ar gyfer llwyddiant a'r diwylliant cynhwysol rydw i wedi'u profi ym maes Anaestheteg ac Ysbyty Gwynedd, sy'n bwysig iawn i mi."

Yn ogystal â datblygu gwasanaethau yn yr ysbyty, roedd Sonya hefyd yn hollbwysig yn y gymuned ac yn ei hamser hamdden, gwnaeth helpu timau Achub y Mynydd Gogledd Cymru i ddatblygu analgesia mewndrwynol i drin cleifion ag anafiadau difrifol mewn amgylchedd heriol iawn.

Dywedodd Dr Johnson, Anesthetydd Ymgynghorol a Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Ysbyty Gwynedd, sy'n gweithio gyda Sonya ers dros 20 mlynedd: "Mae Sonya wedi darparu addysg a hyfforddiant rhagorol dros y blynyddoedd i ystod eang o nyrsys, meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ar draws yr ysbyty er mwyn sicrhau bod modd i'w safonau uchel barhau hyd yn oed pan nad yw hi yno.

"Mae'n gadael gwasanaeth dan arweiniad nyrsys clodwiw ac uchel ei barch ar draws yr ysbyty a'r gymuned ehangach sy'n cael ei ystyried yn wasanaeth sy'n darparu gofal ac ymagwedd broffesiynol o safon aur ar gyfer y cleifion mwyaf heriol sydd mewn poen.

"Yn ogystal â'r gwasanaeth poen acíwt, ei chymynrodd yn yr ysbyty fydd y staff nyrsio lawer sydd wedi gweithio gyda hi neu sydd wedi cael ei haddysgu gan Sonya ac sydd wedi bod yn fodd i'w hangerdd, ymroddiad, brwdfrydedd a phroffesiynoldeb cytbwys ddangos yn eu harferion o ddydd i ddydd."

Ychwanegodd  Sandra Robinson-Clarke, Metron Lawfeddygol yn Ysbyty Gwynedd: "Mae Sonya wedi bod yn ddelfryd ymddwyn yng ngwir ystyr y gair ym maes nyrsio ac i nyrsys trwy gydol ei gyrfa; ac mae staff a chleifion fel ei gilydd yn ei pharchu.

"Mae hi wedi bod yn ysbrydoliaeth i bawb sydd wedi gweithio gyda hi. Mae rhannu ei gwybodaeth, ei phrofiad a'i doethineb gyda chydweithwyr nyrsio, ynghyd â’i brwdfrydedd a'i hangerdd dros nyrsio wedi bod yn heintus.

"Mae ei harweinyddiaeth drugarog wedi bod yn amlwg trwy'r swyddi uchel y mae hi wedi'u cyflawni ym maes Gofal Critigol, Uned Llawdriniaeth Ddydd Endosgopi ac yn ddiweddar yn y tîm Poen Acíwt.

"Yn ganolog i gyflawni ei rolau uwch, gwnaeth Sonya ymdrechu i ddatblygu a gwella'r gwasanaeth er mwyn mireinio gofal cleifion, gan sicrhau bod modd cyflawni a chynnal safonau uchel o ran nyrsio.

“Bydd colled fawr ar ei hôl yn Ysbyty Gwynedd. Dymunwn ymddeoliad hir a hapus iddi!"