Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi nyrs weithredol newydd gan BIPBC

Mae Angela Wood wedi'i phenodi i rôl Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd Angela yn ymuno â'r Bwrdd ar 1 Awst 2022.

Ar hyn o bryd, mae Angela yn Gyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd ac Arweinyddiaeth yn GIG Lloegr a NHS Improvement ar gyfer Gogledd-ddwyrain Lloegr a Swydd Efrog. Mae gan Angela gefndir eang mewn nyrsio, arweinyddiaeth, a rheoli ac mae hi hefyd wedi cyflawni rolau yn Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Ysbyty Rotherham a Gogledd Swydd Lincoln ac Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Goole. Cyn hyn, bu'n Ddirprwy Gyfarwyddwr Nyrsio yn Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Canolfan Walton rhwng 2013 a 2017.

Dywedodd Angela Wood:

"Mae'n gyffrous iawn i mi gael ymuno â'r tîm yn Betsi ac rydw i'n ddiolchgar iawn am gael y cyfle. Bydd fy mhrofiad blaenorol yn gweithio ym maes gofal acíwt, addysg ac ar lefel ranbarthol a system yn hynod werthfawr a bydd yn caniatáu i mi roi cymorth i'r sefydliad ar ei daith wella. Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at fyw a gweithio yng Ngogledd Cymru ac at gyfarfod cydweithwyr ar draws y sefydliad. Rydw i hefyd yn awyddus i weithio'n agos gyda'n partneriaid a'n cymunedau ar draws y rhanbarth sydd mor bwysig o ran ein helpu i lunio a darparu ein gwasanaethau."

Dywedodd Jo Whitehead, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu Angela i ymuno â'r Tîm Gweithredol. Mae gennym nifer o heriau yr ydym yn cydweithio i'w goresgyn, yn benodol ein hadferiad yn sgil COVID-19 a dychwelyd at gapasiti llawn ar gyfer diagnosis a thriniaeth. Rydym yn parhau i wynebu problemau gyda recriwtio a chadw staff ac, ochr yn ochr â hyn, mae ein gweithlu sydd wedi gweithio'n ddiflino yn ystod y pandemig o dan bwysau aruthrol. Wedi dweud hynny, mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i wella iechyd y boblogaeth a datblygu ac atgyfnerthu ein gwasanaethau ar gyfer y dyfodol. Bydd Angela'n allweddol o ran ein helpu i gyflwyno'r cynlluniau hynny ar gyfer ein cymunedau."

Mae Gaynor Thomason yn cyflawni'r rôl dros dro ar hyn o bryd. Dechreuodd Gill Harris, a fu'n cyflawni rôl Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth yn flaenorol, yn swydd Cyfarwyddwr Gweithredol Darpariaeth Glinigol Integredig ar 1 Awst 2022. Mae Gill Harris hefyd yn Ddirprwy Brif Weithredwr.