Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor a Chymorth

Mae ein Gwasanaethau Niwroddatblygiadol yn cynnig asesiad arbenigol i blant a phobl ifanc y mae'n bosibl bod ganddynt gyflwr niwroddatblygiadol. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig ymyriadau a chymorth uniongyrchol cyfyngedig. Rydym yn gobeithio gallu cynyddu'r arlwy hwn yn y dyfodol, oherwydd gwyddom y byddai llawer o deuluoedd yn gwerthfawrogi cael mwy o gymorth ac ymyriadau trwy law ein gwasanaeth.

Mae pob maes yn cynnig cymorth ac ymyriadau gwahanol, ac weithiau, gall mynediad at y rhain newid os bydd unrhyw bryderon o ran cynnydd yn y risg o ddal haint neu gynnydd mewn risgiau sy'n peryglu iechyd corfforol, er enghraifft, yn ystod pandemig. Gall y risgiau cynyddol hyn effeithio ar ein gallu i gynnal sesiynau a gweithdai wyneb yn wyneb ac ati.

Isod, ceir gwybodaeth ac adnoddau dibynadwy a allai gynorthwyo eich teulu. Rydym yn argymell y dylech gysylltu â'ch gwasanaeth lleol os bydd arnoch angen rhagor o gyngor, arweiniad a chymorth.