Neidio i'r prif gynnwy

Deall a thrafod teimladau

Gall llawer o bethau effeithio ar deimladau plentyn neu bobl ifanc, er enghraifft:

  • Pethau sy'n sbarduno'r synhwyrau - er enghraifft, gall bod mewn amgylchedd swnllyd, gorfod gwisgo gwisg ysgol dynn neu lac, bwyta bwyd sy'n annymunol ym marn y plentyn a bod mewn ystafell â goleuadau llachar iawn oll effeithio ar hwyliau person ifanc.
  • Lleoedd penodol - unwaith yn rhagor, mannau swnllyd neu fannau sydd â goleuadau disglair iawn neu dechnoleg (cyfrifiaduron/setiau teledu), mannau gorlawn, mannau ble ceir arogleuon cryf, mannau anghyfarwydd a mannau sydd ag arwyddocâd negyddol i'r person ifanc (ble gallai rhywbeth ingol fod wedi digwydd yn flaenorol).
  •  Newidiadau i'r drefn arferol - gall hyn beri straen a all achosi ymddygiadau negyddol/dig digroeso neu ymddygiadau osgoi. Bydd pobl ifanc sydd â phroffiliau Niwroddatblygiadol yn ymateb yn dda mewn amgylcheddau cyfarwydd a rhagweladwy; mae'r rhain yn cynnig trefn ac yn helpu'r person ifanc i deimlo y gall reoli pethau i ryw raddau. Pan newidir y drefn arferol, gall hyn beri gorbryder (oherwydd ni fydd y personol ifanc yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt) a straen.
  • Siarad a gwrando ar eraill a mynegi eich hun trwy gyfrwng iaith - gall y rhain fod yn anodd i bobl sydd â phroffiliau Niwroddatblygiadol. Byddant yn cael trafferth prosesu'r pethau y bydd pobl eraill yn eu dweud, a gan amlaf, bydd arnynt angen mwy o amser na phobl eraill a gallant gael trafferth cyfleu eu neges oherwydd trafferth o ran canfod geiriau, cyswllt llygaid, mynegiant yr wyneb ac ystumiau. Gall hyn wneud i'r person ifanc deimlo'n rhwystredig, gan achosi ymddygiadau negyddol digroeso.

Awgrymiadau gwych:

  • Ceisiwch beidio siarad â fi na defnyddio llawer o iaith gyda fi pan rwy'n ofidus oherwydd bydd yn anodd i mi ddilyn beth fyddwch yn ei ddweud a gall hynny wneud i mi deimlo'n fwy rhwystredig/gofidus/dig.
  • Gall helpu os byddaf yn teimlo eich bod yn cydnabod fy nheimladau a pham, hyd yn oed os na fyddwch yn cytuno â fi, er enghraifft, "Rwy'n deall dy fod yn teimlo'n ddig, "Buaswn innau'n teimlo'n ofidus hefyd ……”.
  • Gallwch fapio fy nheimladau ar fy mhrofiad o'r sefyllfa i mi, oherwydd gallai hyn fod yn anodd i mi ei wneud fy hun - efallai byddaf yn teimlo'n ddig/ofidus/gorbryderus ond heb ddeall pam ar y pryd e.e., "Rwy'n credu dy fod di'n teimlo'n bryderus oherwydd...".
  • Yn aml iawn, ni fydd dweud y dylwn i "bwyllo" yn ystyrlon i mi, oherwydd ni fydd hynny'n helpu i ddeall beth ddylwn i ei wneud yn lle hynny.
  • Siaradwch yn eglur ac yn benodol â fi.
  • Helpwch fi i ddatblygu dealltwriaeth o'r cysylltiad rhwng cynyrfiadau corfforol a'r teimladau/meddyliau y maent yn eu cynrychioli oherwydd gall hynny beri dryswch i mi e.e., pan fydd eich calon yn curo'n gyflym, efallai byddwch yn teimlo'n bryderus.
  • Helpwch fi i ddatblygu fy 'mhecyn cymorth' personol yn cynnwys 'pethau sy'n llwyddo' i mi ac anogwch fi i wneud pethau sy'n fy lleddfu neu'n gwrthdynnu fy sylw oherwydd efallai na wnaf i hynny fy hun, e.e., mynd i nôl fy mag synhwyraidd, gwisgo fy nghlustffonau, chwarae â fy mhwti, mynd ar y trampolîn ac ati. Bydd rhai strategaethau yn gweithio'n well gartref nag yn yr ysgol ac i'r gwrthwyneb.

Strategaethau a all helpu:

Cysylltu emosiynau â sefyllfaoedd – mae'n hawdd rhagdybio bod eich plentyn yn deall sut y maent yn teimlo a pham, ond efallai na fydd hynny'n wir bob amser. Gall helpu eich plentyn i gysylltu eu hemosiynau â sefyllfaoedd a phrofiadau cyffredin eu helpu i gysylltu'r geiriau y byddwch yn eu defnyddio â'r teimladau y byddant yn eu profi, e.e. "Mae'n amlwg dy fod ti'n hapus iawn am hynny...", "Rwy'n gwybod dy fod ti'n teimlo'n flin oherwydd...".

Mae'r raddfa 5 pwynt yn ddull gweledol o ganfod i ba raddau y gall eich plentyn adnabod eu teimladau a'r pethau sy'n effeithio ar eu teimladau yn feunyddiol. Mae hyn yn golygu cychwyn mapio sefyllfaoedd ar y raddfa o 1 i 5; mae 1 yn gyfystyr â'r pethau y bydd eich plentyn yn eu mwynhau ac yn gwneud iddynt deimlo'n ddiogel neu'n ddigynnwrf, ac mae 5 yn gyfystyr â phethau sy'n achosi 'chwalfa' i'ch plentyn ac yn gwneud iddynt deimlo'n hynod o flin neu'n ofidus. Bydd y profiad o wneud hyn yn wahanol i bob unigolyn. Efallai bydd rhai pobl yn deall beth sy'n achosi teimladau penodol iddynt, ac efallai bydd ar eraill angen cryn dipyn o gymorth i geisio mynd ati i ddeall hyn. Bydd arnoch chi angen dealltwriaeth sylfaenol o'r prif emosiynau, sef hapusrwydd, tristwch, dicter a phryder, cyn mynd ati i ddefnyddio'r raddfa 5 pwynt.

Mae stribedi comig yn adnodd gweledol gwych y gellir eu defnyddio i gynorthwyo person ifanc i ddeall sut oeddent yn teimlo a sut y gallai'r bobl eraill oedd yn rhan o'r rhyngweithio fod wedi teimlo hefyd. Gall defnyddio pobl coesau matsis, swigod sgwrsio a swigod meddwl fod yn ddulliau defnyddiol dros ben i sicrhau bod y broses o drafod teimladau yn symlach ac yn haws. 

Mae 'Teimlomedrau' (Feelometers) yn adnoddau gweledol gwych i helpu i ddangos ac egluro y gall teimladau gynyddu ac y gallant leihau hefyd. Gall 'graddio' emosiwn fod yn anodd i lawer o bobl ifanc, oherwydd efallai fod eu profiad o deimlo emosiwn yn fwy 'du a gwyn'. Er enghraifft, efallai y byddant yn teimlo'n iawn ond yn dod yn ofidus neu'n ddig iawn yn gyflym, heb ddeall sut ddigwyddodd hynny. Yn yr un modd, efallai byddant yn teimlo'n ofidus ond yn teimlo'n iawn unwaith eto ymhen dim, ac ar brydiau, gall hynny beri synod i'r sawl sydd o'u cwmpas.

Trafod teimladau

Os na fyddwch yn gwybod sut byddwch yn teimlo a pham, gall defnyddio geiriau i geisio egluro hyn ymddangos yn dasg amhosibl i rai pobl ifanc, ac yn aml iawn, gall hynny achosi rhagor o rwystredigaeth a gofid.

Hyd yn oed os byddwch yn deall eich teimladau, gall egluro hyn gan ddefnyddio geiriau fod yn anodd iawn, ni waeth pa mor huawdl y byddwch chi mewn sefyllfaoedd eraill. Mae nifer o resymau am hyn:

  • Diffyg geiriau priodol i ddisgrifio eich teimladau;
  • Teimlo'n orbryderus ac yn ei chael hi'n anos cyfathrebu yn sgil hynny;
  • Teimlo eich bod yn cael eich gorlethu yn sgil gorlwytho'r synhwyrau;
  • Methu â rhagweld sut y gallai'r unigolyn arall ymateb.

Bydd ffactorau eraill, megis proffil iaith a dysgu person ifanc, hefyd yn cyfrannu at hyn.

Awgrymiadau gwych:

  • Ceisiwch ganiatáu lle ac amser i mi fel y gallaf geisio dehongli sut rwyf yn teimlo cyn siarad â fi. Pan fyddaf i wedi ymdawelu, efallai y byddaf yn gallu trafod fy nheimladau a'r rhesymau drostynt â chi yn well.
  • Sicrhewch ein bod ni'n siarad 'yr un iaith', e.e. efallai bydd eich dehongliad chi o air sy'n ymwneud â theimladau yn wahanol i fy nheimladau i neu efallai y byddaf yn defnyddio fy ngeiriau fy hun i gyfleu teimladau penodol, e.e. "lanalawr" i roi gwybod i chi nad wyf i'n teimlo'n iawn, "tinselaidd" i roi gwybod i chi fy mod i'n teimlo'n llawn cyffro.
  • Ar brydiau, efallai bydd geiriau yn rhy anodd, a bydd angen i chi fy helpu i ganfod dulliau eraill mwy gweledol i gyfleu fy nheimladau i chi. Cofiwch, os byddaf ar brydiau yn gallu dweud wrthych chi sut rwy'n teimlo, nid yw hynny'n golygu y byddaf yn gallu gwneud hynny pob tro.
  • Ceisiwch fynd ati ymlaen llaw i fapio pethau rydych yn gwybod eu bod yn debygol o fy mhoeni i a nodi a ellir gwneud unrhyw beth i leddfu fy ngorbryder, e.e. "efallai bydd hi'n eithaf swnllyd yno felly gallet ti fynd â dy glustffonau", mynd â 'thegan gwingo' i fy helpu i beidio â chynhyrfu, sicrhau bod y sefyllfa yn rhagweladwy i mi fel y byddaf yn gwybod beth i'w ddisgwyl.

Strategaethau a all helpu:

Gall 'teimlomedrau' (feelometers) fod yn ffordd dda o ganfod sut bydd person ifanc yn dehongli ystyron geiriau amrywiol i gyfleu teimladau, e.e. ar raddfa o 1 i 10, ag 1 yn golygu 'iawn' a 10 yn golygu 'cynddeiriog', efallai bydd person ifanc yn defnyddio'r gair 'rhwystredig' ond yn golygu "Dwi'n ddig dros ben".

Mae datblygu cyd-ddealltwriaeth o'r geiriau y bydd y person ifanc yn eu defnyddio i gyfleu eu teimladau yn bwysig iawn, fel y byddwch yn gwybod beth yw'r ystyr y byddant yn ei gyfleu a dehongli eu dull o gyfathrebu yn gywir.

Nodwch y geiriau y byddant yn eu defnyddio a mapiwch nhw ar 'deimlomedr' fel y gallwch ddeall beth yw ystyr y geiriau hynny iddynt.

Ceir dulliau eraill mwy gweledol o gyfleu sut neu beth y bydd person ifanc yn ei deimlo sydd ddim yn dibynnu'n llwyr ar eiriau:

  • Gallent ddefnyddio'r raddfa 5 pwynt a dweud "Dwi'n 4", ac efallai fod hynny'n golygu "Dwi ar fin cael chwalfa".
  • Gallent ddefnyddio lliwiau penodol sy'n rhoi gwybod eu bod wedi cael diwrnod da/gwael.
  • Gallent ddefnyddio lluniau sy'n cyfleu eu teimladau i chi, a gallai hynny eich helpu i ddadansoddi beth sydd wedi digwydd. 

Nid oes yn rhaid i hynny ddigwydd ar lafar – weithiau, efallai bydd person ifanc yn gallu cyfleu eu teimladau ar bapur heb allu esbonio hynny wyneb yn wyneb wrthych chi. Ceir nifer o ddulliau y gallwch eu defnyddio i gynorthwyo eich person ifanc i wneud hynny, yn dibynnu ar eu hoedran. Er enghraifft:

Llyfr pryderon y gallant ei ddefnyddio i nodi pethau sydd wedi digwydd yn ystod y dydd sydd wedi peri gofid iddynt, y gallwch ddarllen amdanynt a'u trafod â'r person ifanc.

Gallent anfon neges testun atoch chi i gyfleu eu teimladau neu ddefnyddio'r ap nodiadau ar eu ffôn.

Dim ond ychydig o syniadau yw'r rhain; bydd angen i chi ganfod beth sy'n fwyaf llwyddiannus i'ch person ifanc.

Defnyddiwch stribedi comig fel dull gweledol o ddehongli teimladau mewn sefyllfaoedd penodol. Weithiau, bydd hyn yn haws i bobl ifanc sydd â phroffiliau Niwroddatbygiadol, oherwydd ceir llai o bwyslais ar sgwrs wyneb yn wyneb (a all olygu mwy o bwysau o ran cyfathrebu i'r person ifanc) a mwy o bwyslais ar symleiddio cyfathrebu ar bapaur.  Bydd hynny hefyd yn eich galluogi i amlygu y gall pobl ar brydiau ddweud rhywbeth sydd fel pe bai'n cyfleu un emosiwn penodol er eu bod yn teimlo neu'n meddwl am emosiwn gwahanol. Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn o ran datblygu dirnadaeth y person ifanc o'u dull o gyfathrebu a'r rhesymau pam, e.e., "Roedd hi'n rhy swnllyd yno ac roeddet ti'n dymuno mynd allan, felly fe wnest ti weiddi". Ar ôl sicrhau cyd-ddealltwriaeth, gallwch ddefnyddio'r sylfaen honno i ddatblygu'r defnydd o strategaethau eraill y gellir eu defnyddio y tro nesaf, e.e., "Y tro nesaf y bydd pethau'n mynd yn rhy swnllyd wrth y bwrdd, gelli di adael a mynd i'r lolfa am 5 munud".