Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli Newid

synhwyraidd. Mae eu sensitifrwydd yn gallu bod yn wahanol a byddant yn amrywio o ran dwyster.  

Rheoli Newid

Mae'r angen i bethau fod yn rhagweladwy ynghyd ag addasu i newid, yn anodd i rai pobl ifanc â phroffiliau niwroddatblygiadol ac ni fydd pawb yn ymateb yn yr un ffordd. Mae newid yn achosi pryder i rai, rhwystredigaeth i eraill ac yn gwneud i eraill golli arni'n llwyr ('chwalfa'). Mae rhai pobl ifanc yn gwrthwynebu'r newidiadau lleiaf i'w harferion bob dydd a gall rhai pobl ifanc reoli rhai newidiadau ond nid rhai eraill. Mae pawb yn wahanol. Dyma rai ffyrdd y gallwch chi helpu:

Amserlenni gweledol

Gellir gwneud y rhain gan ddefnyddio ffotograffau o wrthrychau go iawn, symbolau neu luniau cartŵn. Eu pwrpas yw rhannu amser yn gamau syml, gan ddangos beth sy'n mynd i ddigwydd ac ym mha drefn.

Gall hyn fod mor syml â bwrdd ‘yn gyntaf/ a wedyn’.

Gall yr amserlen gynrychioli dilyniant o wahanol weithgareddau am ran o'r diwrnod neu hyd yn oed y diwrnod cyfan. Mae’n bwysig peidio â gwneud gormod ar unwaith e.e. gall gweld trefniadau diwrnod cyfan fod yn ormod i rai plant/pobl ifanc. Ceisiwch wneud yn siŵr bod y delweddau a ddefnyddiwch yn briodol i anghenion yr unigolyn. Gallwch ddod o hyd i enghreifftiau o amserlenni gweledol yma.

Gellir defnyddio amserlenni gweledol hefyd i atgyfnerthu arferion bob dydd e.e. gwisgo, brwsio dannedd, amser gwely ac ati.

I rai pobl ifanc bydd rhestr pwyntiau bwled yn ddigon i'w hatgoffa o'r hyn sy'n mynd i ddigwydd. I eraill, bydd trafod cynllun ar gyfer y diwrnod yn ddigon i'w helpu i deimlo'n ddigynnwrf/deall beth sy'n mynd i ddigwydd.

I bobl ifanc yn yr ysgol uwchradd, gall fod yn ddefnyddiol gofyn am amserlen weledol  er mwyn helpu i wneud y diwrnod ysgol yn fwy rhagweladwy.

Amser i brosesu

Ceisiwch bob amser, osod cynllun ar gyfer yr hyn sy'n mynd i ddigwydd cyn i chi fynd i unrhyw le, gan gadw'ch iaith yn glir ac yn syml.

Mae angen mwy o amser ar rai pobl ifanc i addasu i newidiadau felly ceisiwch beidio â chyhoeddi newidiadau ‘funud olaf’ a gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu amser ychwanegol iddynt brosesu’r hyn rydych chi wedi’i ddweud.

Cofiwch gydnabod teimladau’r unigolyn ifanc am y newid (e.e. rhwystredigaeth, dicter neu bryder) ac esboniwch y rheswm pam. Efallai na fydd hyn yn amlwg iddynt.

Ymweld â lleoedd newydd

Weithiau gall pobl ifanc wrthod mynd i leoedd newydd neu leoedd gwahanol os nad ydynt yn gallu rhagweld beth sy'n mynd i ddigwydd. Gall pethau newydd deimlo'n frawychus. Os ydych chi'n mynd i rywle newydd, ceisiwch ddychmygu nad ydych chi erioed wedi bod yno o'r blaen. Pa wybodaeth fyddai'n ddefnyddiol i chi? Sut allwch chi roi’r wybodaeth hon i’ch plentyn neu unigolyn ifanc mewn ffordd sy'n gwneud synnwyr iddynt?

  • Gwyliau – edrychwch am y gwesty ar Google, trafodwch beth fydd yn digwydd yn y maes awyr, sut y byddwch chi’n cyrraedd yno, pa mor hir y gallai gymryd ac ati.
  • Apwyntiadau meddygol – siaradwch â’r gwasanaeth ymlaen llaw fel eich bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Mae'n bosibl y bydd gan rai gwasanaethau daflenni defnyddiol y gallwch eu dangos i'ch unigolyn ifanc. Siaradwch am eu pryderon gyda nhw ac atebwch unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.
  • Symud tŷ - ewch i weld y tŷ gyda’ch plentyn cyn i chi symud er mwyn rhoi cyfle iddynt edrych o gwmpas a chael syniad o le bydd yn cysgu ac ati.
  • Symud ysgol – siaradwch â’r ysgol i sicrhau bod cynlluniau pontio priodol yn cael eu rhoi ar waith a bod eich plentyn yn cael ymweliadau ychwanegol os oes angen, yn cyfarfod â staff allweddol ac yn dechrau dod i adnabod cynllun yr ysgol ymlaen llaw.

Straeon cymdeithasol

I rai plant a phobl ifanc, gall Carol Gray Social Stories fod yn ddefnyddiol iawn wrth baratoi ar gyfer newid. Mae yna lawer o straeon cymdeithasol wedi cael eu cyhoeddi a gallwch lle bo'n briodol, eu haddasu, i'w gwneud yn benodol i'ch plentyn a'r sefyllfa chi.

Gall straeon cymdeithasol gynnwys lluniau a geiriau a gellir eu defnyddio i helpu i baratoi ar gyfer sefyllfaoedd newydd neu bethau nad ydynt yn digwydd yn rheolaidd iawn e.e. beth i’w ddisgwyl wrth fynd i barti pen-blwydd, mynd ar drip ysgol, cael mesur eich traed, beth fydd yn digwydd yn y ffair haf ayyb.

Eu pwrpas yw cyflwyno gwybodaeth ffeithiol i’r unigolyn ifanc, disgrifio digwyddiad neu weithiau gallant gynnig rhesymau pam fod pethau’n digwydd – sydd i gyd yn helpu i wneud y sefyllfa’n fwy rhagweladwy i’r unigolyn ifanc.

Newid gweithgareddau

Weithiau, mae plant a phobl ifanc yn ei chael hi'n anodd pan fo gweithgaredd maent yn ei fwynhau yn dod i ben. Mae defnyddio ffordd weledol o rannu amser yn gallu bod yn ddefnyddiol er mwyn ei gwneud yn glir pryd mae'n rhaid i weithgaredd ddod i ben.

Yn aml, os yw unigolyn ifanc wedi ymgolli mewn gweithgaredd maent yn ei fwynhau, ni fyddant yn prosesu sylwadau ar lafar i'w hatgoffa e.e. efallai na fydd dweud "5 munud i fynd" yn ddefnyddiol os na fydd y pum munud hynny hefyd yn cael ei ddangos yn weledol er mwyn iddynt weld faint o amser sy'n weddill. Gall y canlynol fod yn ddefnyddiol:

  • Cyfri i lawr hyd at stop yn hytrach na dweud bod gweithgaredd wedi'i orffen.
  • Ceisiwch gefnogi ‘faint mwy o amser’ mewn ffordd weledol e.e. amserydd wy, stop wats, amserydd ar eich ffôn sy'n dangos yn glir faint o amser sydd ar ôl.
  • Os yw'r gweithgaredd yn rhan o drefn ddyddiol, ceisiwch wneud yr amser a ganiateir mor rhagweladwy â phosibl.
  • Cadwch eich iaith yn glir ac yn syml ac ailadroddwch yr un neges e.e. “pan fydd y larwm yn canu, mae'n amser i ni fynd”.

Pan nad yw gweithgareddau ar gael

Weithiau nid yw'r gweithgaredd neu'r gwrthrych ar gael. Er enghraifft, efallai fod y parc ar gau neu efallai nad oes gennych chi fwy o hoff fyrbryd eich plentyn. Gall hyn fod yn anodd i rai pobl ifanc ei gofio a'i ddeall.

Mae adnoddau gweledol yn gallu bod yn ddefnyddiol i helpu pobl ifanc i wybod nad yw rhywbeth ar gael yr eiliad honno. Mae lluniau'n haws i'w cofio na geiriau a gellir eu defnyddio i atgyfnerthu'r hyn rydych chi'n ei ddweud.

Rheoli newidiadau annisgwyl

Weithiau er gwaethaf ein hymdrechion gorau, mae pethau'n newid ar y funud olaf. Gall y newidiadau annisgwyl hyn fod yn anodd iawn i bobl ifanc ymdopi â nhw. Mae cael ambell i strategaeth wrth gefn yn gallu bod yn ddefnyddiol i gefnogi eich unigolyn ifanc pan fo pethau'n newid yn annisgwyl.

Mae paratoi ar gyfer newidiadau annisgwyl yn gallu bod o gymorth i unigolyn ifanc pan fo'n rhaid i gynlluniau newid. Ffordd dda o wneud hyn yw trwy gynnwys symbol i gynrychioli newid annisgwyl fel rhan o'u hamserlen weledol.

Er enghraifft, os ydych chi'n defnyddio amserlen weledol o weithgareddau ar gyfer eich plentyn, fe allech chi adael bwlch rhwng dau o'r lluniau i ganiatáu i lun arall gael ei roi i mewn yn nes ymlaen. Gallech ddefnyddio ‘marc cwestiwn’ i gynrychioli ‘dirgelwch’ neu ansicrwydd. Os oes gan eich plentyn amserlen ysgrifenedig, fe allech chi adael un llinell wag rhwng dwy o'r tasgau. Yn y bwlch gwnewch rywbeth y mae'r person ifanc yn ei fwynhau'n fawr, gallai fod yn bwyta hoff fyrbryd neu efallai daith i'r parc. Trwy gyflwyno'r symbol 'newid annisgwyl' yn raddol gall y person ifanc ddysgu ymdopi â newidiadau sy'n ddymunol. Bydd hyn wedyn yn eu helpu i reoli newidiadau llai dymunol yn well.

Er enghraifft: defnyddio ‘cerdyn newid’ ar amserlen eich plentyn.

  • Ewch ar wibdaith a gosodwch ‘?’ ar yr amserlen. Gwnewch yn siŵr bod rhywbeth sy’ yn digwydd pan ddaw hi'n amser gwneud ‘?’ ar yr amserlen. Rhowch ganmoliaeth i'ch plentyn am ymdopi a'r annisgwyl. Bydd hyn yn helpu eich plentyn i ddysgu y gall rhywbeth annisgwyl fod yn rhywbeth sy'n hwyl.
  • Mynd ar wibdaith heb ‘?’ ar yr amserlen. Ar ryw adeg, rhowch '?' mewn bwlch ar yr amserlen. Gwnewch y syrpreis sy’n hwyl ar unwaith a chanmol eich plentyn am ymdopi â newid annisgwyl.
  • Mynd ar wibdaith heb ‘?’ ar yr amserlen. Ar ryw adeg gwnewch rywbeth annisgwyl sydd heb ei gynllunio - er enghraifft, mae eich plentyn arall eisiau edrych ar y siop anifeiliaid anwes, ac nid yw ar yr amserlen. Ychwanegwch  ‘?’, gwobrwywch eich plentyn am ymdopi, yna ewch yn ôl at yr amserlen.
  • Mynd ar wibdaith heb ‘?’ ar yr amserlen. Gwnewch rywbeth annisgwyl nad yw eich plentyn yn ei fwynhau fel arfer - er enghraifft, mynd i un siop ychwanegol. Dangoswch hwn ar yr amserlen drwy roi '?' yn y blwch priodol. Ar ôl ei gwblhau, gwobrwywch eich plentyn am ymdopi, ac yna dychwelwch i'r pethau arferol sydd ar yr amserlen.

Unwaith y bydd eich plentyn yn gyfarwydd â ‘?’, gallwch ei ddefnyddio unrhyw bryd y bydd newid annisgwyl i ddangos y bydd newid yn yr amserlen ac yna y byddwch yn dychwelyd ati.