Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau i oedolion yng Ngogledd Cymru sydd angen colli pwysau am resymau iechyd. Byddwn yn rhoi'r offer a'r gefnogaeth sydd ei angen arnoch i golli pwysau yn gynaliadwy a llwyddiannus gyda phwyslais ar hybu iechyd a lles. Byddwch yn derbyn llyfryn ac adnoddau defnyddiol a byddwn yn eich cefnogi i weithio at beth sy'n bwysig i chi.
Gallwch ymuno â’n rhaglenni naill ai trwy ddolen fideo o’ch cartref eich hun neu mewn lleoliadau wyneb yn wyneb ar draws Gogledd Cymru.