Neidio i'r prif gynnwy

Iaith Bragmatig

Gall rhai pobl ifanc ddehongli iaith yn hynod o lythrennol. Gallai hyn olygu y byddant yn cael eu drysu gan iaith sy'n golygu rhywbeth gwahanol i'w ystyr llythrennol, e.e.

  • Ymadroddion megis "torcha dy lewys", "rho dy law i mi"
  • Agweddau ar hiwmor megis coegni pan fydd rhywun yn dweud rhywbeth penodol ond yn golygu rhywbeth arall
  • Dwysdeimlo pethau a gafodd eu dweud yn ysmala
  • Camddehongli beth oedd rhywun yn ei olygu a chredu eu hunion eiriau, gan beri dryswch

Gall y canlynol fod yn ddefnyddiol:

  • Ceisiwch ddefnyddio brawddegau byr a geiriau syml. Pan fydd pobl yn ei chael hi'n anodd, gall defnyddio geiriau nad ydynt yn eu deall neu ddefnyddio ormod o eiriau wneud iddynt deimlo'n waeth.
  • Ystyriwch beth rydych yn dymuno'i ddweud a cheisiwch gyfleu hynny'n eglur  e.e. mae'n well dweud “mae'n rhaid i ti gerdded” na dweud “paid â rhedeg”.
  • Pan fyddwch chi'n cellwair, efallai bydd angen i chi sicrhau bod hynny'n amlwg ac yn eglur i bawb.
  • Ceisiwch gyfleu gwybodaeth mewn modd mor ffeithiol ag y gallwch chi a pheidiwch â chymryd yn ganiataol y gwnaiff pobl ganfod yr ystyr ym mynegiant eich wyneb neu yn eich ffordd o siarad bob tro.
  • Defnyddiwch stribedi comig i esbonio'n weledol y gall pobl ddweud un peth ond meddwl rhywbeth gwahanol neu er mwyn deall camddealltwriaeth.

Gall unigolion sydd â phroffiliau niwroddatblygiadol hefyd brofi anawsterau o ran dehongli cyfathrebu dieiriau pobl, e.e., mynegiant yr wyneb neu dôn y llais, neu o ran defnyddio'r rhain i gyfathrebu'n effeithiol.

  • Ceisiwch fod yn benodol iawn o ran y geiriau y byddwch yn eu defnyddio oherwydd efallai na wnaiff eich plentyn nodi gwybodaeth ychwanegol sy'n cael ei chyfleu gan dôn eich llais neu fynegiant eich wyneb.
  • Ceisiwch sicrhau y bydd mynegiant yr wyneb yn eglur ac yn amlwg oherwydd gall fod yn anos i'ch plentyn sylwi ar y rhain pan fyddant yn fwy cynnil.
  • Peidiwch â gorfodi'ch plentyn i edrych arnoch chi pan fyddwch chi'n siarad â nhw. Mae rhai plant yn teimlo'n anghyfforddus iawn wrth wneud cyswllt llygad uniongyrchol ac mae'n gallu ei gwneud hi hyd yn oed yn fwy anodd iddynt wrando ar yr hyn rydych yn ei ddweud
  • Ceisiwch beidio â chymryd yn ganiataol bod eich plentyn yn bod yn fwriadol anghwrtais os yw’n ddiflewyn ar dafod wrth gyfathrebu. Efallai mai dyna sut y mae’n ei gweld hi
  • Gwiriwch gyda nhw cyn dod i unrhyw gasgliadau efallai nad ydyn nhw'n ymwybodol o sut maent yn swnio, e.e. “Ga i wneud yn siŵr, oeddet ti'n golygu hynny i swnio yn ……”. Mae hyn yn rhoi cyfle iddynt adfer y sefyllfa ac yn aml, gall atal dadl rhag datblygu.
  • Defnyddiwch stribedi comig (a ddatblygwyd gan Carol Gray Social Stories) e.e. ffigyrau syml, swigod siarad a swigod meddwl, i helpu eich plentyn i ddeall sut y gall reoli sefyllfaoedd yn wahanol y tro nesaf.

Gall sgwrsio, cellwair neu dynnu coes fod yn anodd. Mae rhai pobl ifanc yn ei chael hi'n anodd iawn mynegi diddordeb mewn unrhyw bwnc sydd y tu hwnt i'w diddordebau nhw. Efallai y bydd rhai eraill yn ei chael hi'n anodd gwybod beth i'w ddweud a sut i ddechrau rhyngweithio â chyfoedion. Mae hefyd yn gallu bod yn anodd iddynt aros eu tro neu wybod pryd i roi'r gorau i siarad.

  • Gadewch i'ch plentyn wybod os/pan fydd wedi dweud digon.
  • Gall adnoddau gweledol helpu eich plentyn i ddeall rheolau cymdeithasol e.e. pan fydd hi'n amser i rywun arall siarad.
  • Efallai y bydd 'blwch sgwrsio' yn ddefnyddiol neu gytuno ar amser fel bod eich plentyn yn gwybod pryd y bydd yn gallu siarad am yr hyn sy’n bwysig iddo.
  • Rhowch adborth penodol i'ch plentyn i'w helpu i wybod beth a wnaeth yn dda e.e. "Roedd hwnna'n gwestiwn da iawn - mi wnaeth ddangos i mi dy fod wedi gwrando ar beth roeddwn i'n ei ddweud", "fe wnest ti aros dy dro yn wych, dy dro di rŵan".
  • Mae'n bosibl y bydd hi'n ddefnyddiol ymarfer sut i ddechrau sgwrs - gan gynnig ymadroddion a brawddegau y gallant eu defnyddio os yw hyn yn rhywbeth y maent yn ei chael hi'n anodd ei wneud.
  • Helpwch eich plentyn i ddeall sut mae gadael sgwrs, os yw'n mynd yn rhy anodd ei gynnal e.e. ymadroddion i'w defnyddio yn hytrach na cherdded oddi wrth sgwrs pan fyddant wedi cael digon.
  • Efallai ei bod hi'n bwysig i'ch plentyn eich bod yn cydnabod ei safbwynt yn gyntaf, hyd yn oed os nad ydych chi'n cytuno ag ef. Gall hyn helpu i wneud i'ch plentyn deimlo eich bod yn gwrando arno.