Neidio i'r prif gynnwy

Cysgu

Amcangyfrifir y bydd 1 o bob 4 plentyn yn cael anawsterau cysgu ar ryw adeg. Mae problemau cysgu yn fwy cyffredin mewn plant sydd ag anghenion ychwanegol megis ADHD neu Awtistiaeth.

Gellir dosbarthu problemau cysgu yn dri grŵp:

  1. Problemau wrth setlo i gysgu - pan fo eich plentyn yn cymryd amser hir i fynd i gysgu, yn ogystal ag anawsterau â chyd-gysgu (rhannu gwely gyda rhiant/rhieni).
  2. Deffro yn y nos - pan fo eich plentyn yn deffro sawl gwaith yn ystod y nos.
  3. Deffro'n gynnar yn y bore - deffro cyn 06:00.

Arferion o ran cwsg - ymadrodd a ddefnyddir i ddisgrifio cyfres o arferion ymddygiadol ac amgylcheddol sydd naill ai yn ein helpu ni i syrthio i gysgu neu'n achosi trafferthion wrth i ni fynd i gysgu.

Sut i gael arferion da o ran cwsg

Amserlen Cysgu

  • Mae hyn yn golygu cadw at gynllun rheolaidd, gan anelu at gael o leiaf 6-9 awr o gwsg bob nos. Mae hyn yn allweddol i gadw ‘rhythm circadaidd’ rheolaidd (cylch cysgu naturiol ein cyrff). Mae cadw at fynd i'r gwely ar amser rheolaidd bob dydd (gan ddefnyddio larwm ar y penwythnos i sicrhau eich bod yn cadw at hyn drwy'r amser), yn bwysig IAWN.

Trefn cyn mynd i'r gwely

  • Mae cael trefn dda cyn mynd i'r gwely, a’i chadw, yn hanfodol i helpu ymlacio gyda'r nos.
  • Cael cyn lleied â phosibl o oleuadau glas. Mae hyn yn golygu sgrin ffôn, sgrin teledu a chyfrifiadur. Mae golau glas yn gwneud i'n corff feddwl ei bod hi'n dal i fod yn olau dydd ac mae'n ein cadw ni'n effro. Mae diffodd sgrin awr cyn mynd i'r gwely yn helpu'r corff i arafu, ymlacio a theimlo'n flinedig.
  • Gall bath helpu i ymlacio'r corff yn barod i gysgu cyn mynd i'r gwely. Fodd bynnag gall cawod ddeffro'r corff gan ei fod yn annog mwy o lif gwaed o amgylch y corff gan wneud yr hormon cwsg (melatonin) yn llai effeithiol.
  • Gall cuddio neu gael gwared ar annibendod (teganau a gemau er enghraifft) gan wneud yr ystafell wely yn fan tawel a llonydd lle gall eich plentyn ymlacio heb unrhyw beth i dynnu ei sylw, helpu i ymlacio â chysgu.

 

 

Ymarfer corff

  • Gall ymarfer corff chwarae rhan fawr yn eich cynllun cysgu. Dylech anelu at ymarfer corff am tua 30 munud, o leiaf 3 awr cyn eich bod yn cynllunio mynd i gysgu (ymarfer corff yn y bore neu yn ystod y dydd sydd orau). PEIDIWCH ag ymarfer corff yn agos at amser gwely gan y bydd hyn yn atal eich corff rhag tawelu ac ymlacio yn barod ar gyfer cysgu.
  • Gall ymarfer corff yn ystod y dydd fod yn fuddiol iawn, gan helpu gyda chwsg. Mae ymchwil yn dangos bod meddwl iach yn gysylltiedig ag ymarfer corff yn rheolaidd, a gall meddwl iach arwain at gwsg iach.

Bod yn ddoeth wrth fwyta ac yfed

  • Mae'r hyn rydym ni'n ei roi yn ein corff yn effeithio ar y ffordd rydym ni'n cysgu. Mae yfed diodydd pefriog â chaffein yn gallu ein hatal rhag setlo yn y nos, gan effeithio ar ba mor dda yr ydym yn cysgu. Llaeth cynnes, sudd ffrwythau neu ddŵr sydd orau - ceisiwch osgoi siocled poeth gan ei fod yn cynnwys caffein.
  • Gall mynd i gysgu â stumog lawn hefyd ein hatal rhag cysgu'n iawn, a gall mynd i gysgu'n llwglyd ein hatal rhag cael noson dda o gwsg hefyd. Ond, gall swper ysgafn tuag awr cyn mynd i'r gwely fod o gymorth. Mae banana, powlen fach o uwd, llond llaw bach o almonau (ond dim cnau almon os oes gan eich plentyn alergedd i gnau) i gyd yn fwydydd a all helpu gyda chysgu.

Beth ydym ni'n ei gynnig?

Os bydd eich plentyn yn parhau i gael problemau â chwsg, gallwch gael eich cyfeirio at ‘Glinig Cwsg’.

Efallai y byddwn yn gofyn i chi fynychu gweithdy cwsg a/neu apwyntiad clinig wyneb yn wyneb arbenigol.

Yma byddwch yn cwblhau asesiad hanes cwsg gydag ymarferydd arbenigol. Yna gofynnir i chi gadw dyddiadur cysgu am gyfnod o 2 wythnos - bydd hwn yn cael ei ddadansoddi'n drylwyr.

Bydd y data o'r dyddiadur yn rhoi darlun o broffil cwsg eich plentyn a fydd yn pennu'r ymyriad cwsg a chynhyrchu rhaglen gwsg ysgrifenedig.

Os yw'n briodol, gofynnir i'ch plentyn wisgo oriawr cysgu arbenigol (actigraffeg). Mae'r ddyfais hon yn rhoi proffil mwy manwl o gwsg eich plentyn.