Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n iach cyn eich llawdriniaeth neu'ch triniaeth wedi'i chynllunio

Os oes disgwyl i chi gael llawdriniaeth neu driniaeth wedi'i chynllunio, mae'n bwysig cymryd camau syml bach er mwyn helpu i roi'r siawns orau bosibl i'ch triniaeth yn ogystal â chynorthwyo gyda'ch adferiad.

Fodd bynnag, mae'n bwysig dilyn unrhyw gyngor y gallech fod wedi'i gael yn uniongyrchol gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol fel eich meddyg ymgynghorol, sy'n unigryw i'ch cyflwr neu'ch triniaeth wedi'i chynllunio.

Isod, rydym wedi cynnwys amrywiaeth o wybodaeth gyffredinol am y canlynol:

  • Cadw'n Actif
  • Rhoi'r gorau i ysmygu neu leihau ysmygu
  • Bwyta’n iach
  • Gostwng eich cymeriant o alcohol neu roi'r gorau i yfed
  • Iechyd Meddwl a Lles