Os yw eich sefydliad neu gwmni eisiau cefnogi ei staff i gael cyngor ar iechyd a lles efallai y gallwn ni eich helpu gyda'n menter Cnoi Cil ar Iechyd.
Rydym ar hyn o bryd yn cynnig rhaglenni Cnoi Cil ar Iechyd yn y gweithle a'r gymuned.
Beth yw Cnoi Cil ar Iechyd?
Mae sesiynau Cnoi Cil ar Iechyd yn darparu cefnogaeth a gwybodaeth gan gynnwys:
- Gwiriadau pwysedd gwaed
- Iechyd meddwl a lles
- Prawf sgrinio Iechyd
- Rhoi’r gorau i ysmygu
- Alcohol a Chamddefnyddio Sylweddau
- Gwybodaeth i ofalwyr
- Ffordd o fyw actif
- Bwyta’n iach
Pam cymryd rhan mewn rhaglen Cnoi Cil ar Iechyd?
Gall y digwyddiadau gefnogi pobl i:
- Gwella eu hiechyd a'u lles
- Dynodi cyfleoedd i gymryd camau cyn i broblemau iechyd waethygu, neu drwy atal problemau iechyd rhag digwydd yn y lle cyntaf
- Siarad â phobl am ei hiechyd ei hunain nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu â gwasanaethau iechyd
- Darganfod ffyrdd i leihau lefelau iselder a phryder all helpu cyflogwyr i leihau diwrnodau sy'n cael eu colli i salwch
Sut i drefnu digwyddiadau Cnoi Cil ar Iechyd
Os oes gan eich cwmni neu sefydliad ddiddordeb cynnal digwyddiad cysylltwch ag aelod o'r tîm ymgysylltu neu e-bostiwch bcu.getinvolved@wales.nhs.uk