Neidio i'r prif gynnwy

Iaith Fynegiannol

Mae iaith fynegiannol yn golygu ein dull o gyfuno geiriau a brawddegau i sgwrsio. Gwyliwch ein podlediad i gael gwybodaeth fanylach am ystyr iaith fynegiannol a sut gallwch chi helpu plant a phobl ifanc sy'n profi anawsterau â hynny i ddefnyddio geiriau a brawddegau i rannu eu meddyliau a'u syniadau. Gallwch hefyd fwrw golwg dros y cynghorion doeth isod a'u hychwanegu at eich pecyn cymorth!

 

Pecyn Cymorth Cyflym

  • Pan fyddwch yn gofyn rhywbeth i'ch plentyn, caniatewch amser iddynt ymateb i hynny. Gallai hynny deimlo fel rhyw dawelwch rhyfedd i chi, ond bydd arnynt angen yr amser hwn i ganfod sut i'ch ateb n briodol.
  • Ceisiwch ddefnyddio cwestiynau ysgogol penodol i helpu eich plentyn i gynnig gwybodaeth fanylach e.e. yn lle gofyn “sut oedd amser chwarae?”, ceisiwch ofyn  “efo pwy wnest ti chwarae?”, “pa gêm wnest ti ei chwarae?” yn lle hynny.
  • Defnyddiwch gymhorthion gweledol! Weithiau, bydd geiriau yn teimlo'n rhy anodd i'ch plentyn ac efallai bydd angen iddynt ganfod dulliau eraill mwy gweledol i'w galluogi i gyfleu eu teimladau, e.e. tynnu lluniau, stribedi comig, symbolau, lluniau.