Neidio i'r prif gynnwy

Cyfleoedd ymgysylltu – dweud eich dweud

Mae cam ymgysylltu terfynol Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn digwydd ym mis Chwefror

Cynhelir trydydd cam ymgysylltu a therfynol Adolygiad y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS), am sut i wella'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru ymhellach, rhwng 01 a 29 Chwefror 2024.

Mae'r ymgysylltu’n rhoi cyfle i'r cyhoedd a rhanddeiliaid ddweud eu dweud ar yr opsiynau ar y rhestr fer i wella gwasanaeth ambiwlans awyr Cymru ymhellach.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ac EMRTS GIG Cymru.

Mae mwy o wybodaeth a dogfennau ategol ar gael ar wefan EASC

Cyfle Ymgysylltu â'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Mae’r cynllun hwn yn amlygu ein hymrwymiad diddiwedd i hyrwyddo a chyflawni cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol ym mhob agwedd ar ein gwaith. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gydraddoldeb o ran mynediad at ofal iechyd a chydraddoldeb o ran canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau, ac fel cyflogwr, i greu gweithle tecach a mwy amrywiol, ble croesewir amrywiaeth a ble caiff pobl eu gwerthfawrogi.  Mae'r Amcanion Cydraddoldeb wedi'u llunio ar y cyd â sefydliadau cymunedol, staff, cleifion, gofalwyr a rhanddeiliaid.

Rydym nawr yn gofyn i chi edrych ar y cynllun. Rhowch adborth erbyn 16 Chwefror - BCU.Equality@wales.nhs.uk

Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Gwasanaeth Ymddaliad a Symudedd

Mae'r gwasanaeth Ymddaliad a Symudedd yn adolygu ac yn gwerthuso'r amgylchedd clinigol a'r cyfleusterau a ddarperir ac fe'ch gwahoddir i gymryd rhan yn y gwaith hwn. Cyn i chi gymryd rhan, mae'n bwysig ein bod yn eich helpu i ddeall pwrpas a natur y gwerthusiad gwasanaeth a beth fydd eich cyfranogiad yn ei olygu, os byddwch yn cymryd rhan.

Bydd yr arolwg hwn ar agor am 6 mis - y dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r holidaur yw 14 Mehefin 2024.

Deall eich barn a'ch profiad o lawdriniaeth orthopedig wedi'i chynllunio (gososd clun a phen-glin newydd)

Rydym yn awyddus i ddeall barn pobl sy'n derbyn gofal yng Ngogledd Cymru, yn benodol ar lawdriniaeth orthopedig wedi'i chynllunio, a elwir hefyd yn ofal dewisol.

Pan fyddwn yn sôn am lawdriniaeth orthopedig, rydym yn aml yn cyfeirio at osod clun a phen-glin newydd.

Rydym yn awyddus i glywed barn pobl sydd â phrofiad o gael diagnosis, aros am ofal a/neu wedi cael llawdriniaeth i osod cymalau newydd o fewn y 18 mis diwethaf yng Ngogledd Cymru, a byddwn yn cynnal cyfres fer o grwpiau trafod bach yn gynnar yn y Blwyddyn Newydd i archwilio profiadau.

Rydym yn chwilio am bobl i wirfoddoli i gymryd rhan yn y trafodaethau yma (hyd at 10 o bobl) i rannu meddyliau a syniadau; a darparu mewnwelediad i'n helpu i ddylunio ein gwasanaethau nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Darllenwch fwy yma. 

Strategaeth Digidol - Arolwg Cleifion ar cyhoedd

Rydym yn adolygu ein Strategaeth Digidol ar hyn o bryd; hwn yw ein cynllun i ddarparu'r hyn sy'n bwysig i gleifion, staff ac i BIPBC mewn perthynas â sut rydyn ni'n defnyddio technoleg i wella gwasanaethau a'r ffordd rydyn ni'n gweithio.

Rydyn ni eisiau i chi allu uniaethu a’r strategaeth a gwybod beth y dylech chi ei brofi gan BIPBC o ran gwasanaethau digidol yn y dyfodol.

Cwbwlhewch yr arolwg yma 

Arolwg cyrsiau Solihull Approach

Yn seiliedig ar lwyddiant cyrsiau Solihull Approach, ac er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o  gyrsiau Solihull Approach hydynoed ymhellach, byddem yn gwerthfawrogi eich adborth. Bydd casglu eich sylwadau yn ein helpu i ddangos gwerth y cyrsiau wrth i ni barhau i gefnogi teuluoedd ar draws Gogledd Cymru. Ni ddylai'r ffurflen yn y ddolen isod gymryd mwy na 5 munud i'w chwblhau a bydd yn ddienw.

Dolen i’r arolwg: Cyrsiau ar lein Solihull Approach