Neidio i'r prif gynnwy

Sensitifrwydd synhwyraidd

Beth yw prosesu synhwyraidd?

Prosesu synhwyraidd yw gallu'r ymennydd i ddehongli, trefnu ac ymateb yn briodol i'r wybodaeth a dderbynnir o'r wyth system synhwyraidd sydd yn y corff. Mae'n ymateb awtomatig sy'n ein helpu i ymdopi â holl ofynion ein hamgylchedd bob dydd. Mae'r holl wybodaeth a gawn ni am y byd yn dod drwy'r synhwyrau, h.y. blas, arogl, golwg, sain a hefyd drwy gyffwrdd, symud, grym disgyrchiant a safle'r corff. 

Mae gan bob un o'n synhwyrau dderbynyddion sy'n casglu gwybodaeth a gaiff ei hanfon at ein hymennydd i'w rhoi at ei gilydd a'i deall. Mae celloedd yn ein croen yn anfon gwybodaeth am gyffyrddiad ysgafn, poen, tymheredd a phwysau. Mae ein clust fewnol yn canfod symudiad a newidiadau yn safle ein pen. Mae derbynyddion yn ein cyhyrau, tendonau a chymalau yn rhoi ymwybyddiaeth i ni o safle ein corff. Mae gan ein horganau mewnol dderbynyddion sy'n ein galluogi i adnabod ein cyflwr mewnol e.e. pan fyddwn yn sychedig, yn newynog neu'n llawn, pan fydd angen i ni ddefnyddio'r toiled, pan fyddwn wedi blino, yn teimlo'n sâl, yn teimlo'n boeth neu'n oer.

Mae'r wyth system synhwyraidd yn cynnwys:

  • Gweledol (golau, tywyllwch, lliw, symudiad)
  • Clywedol (sain, traw, faint o sŵn)
  • Cyffyrddol (synwyriadau cyffwrdd)
  • Arogleuol (arogl)
  • Blasol (blas)
  • Festibwlar (symudiad a chydbwysedd)
  • Propriodderbyniaeth (sy'n ein galluogi i adnabod lleoliad ein corff mewn perthynas â'r gofod o'i amgylch, a'n haelodau heb orfod edrych)
  • Rhyngdderbyniaeth (synhwyrau mewnol sy'n ein galluogi i adnabod ein cyflwr mewnol e.e. pan fyddwn yn sychedig, yn llwglyd neu angen mynd i'r toiled)

Modiwleiddio synhwyraidd

Modiwleiddio synhwyraidd yw gallu’r ymennydd i brosesu a chydbwyso gwybodaeth synhwyraidd yn effeithiol a chynhyrchu ymateb sy’n briodol i ddwysedd y mewnbwn synhwyraidd a’r amgylchedd. Mae'n rhaid i'r systemau synhwyraidd i gyd weithio gyda'i gilydd er mwyn i brosesu synhwyraidd fod yn effeithiol. Mae modiwleiddio synhwyraidd yn ein galluogi i benderfynu pa wybodaeth synhwyraidd sy'n bwysig, ac ymateb iddi, ac i hidlo'r wybodaeth ddibwys. Mae'n helpu unigolion i fod yn effro, ac i allu dysgu a rheoli ymddygiad.

Anawsterau prosesu synhwyraidd

Anawsterau prosesu synhwyraidd neu Anhwylder Prosesu Synhwyraidd (SPD) yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio’r sefyllfa pan nad yw'r ymennydd yn gallu prosesu a chydbwyso gwybodaeth synhwyraidd ac ymateb yn briodol iddi e.e. efallai nad yw'r plentyn yn ymateb yn ddigonol, mae'n gorymateb, yn chwilio am fewnbwn synhwyraidd arall, neu gymysgedd o'r rhain.

Mae plant ag anawsterau prosesu synhwyraidd yn profi teimladau'n wahanol i unigolion eraill. Mae plant sy’n gorymateb i synhwyrau penodol e.e. golau, cyffyrddiad, synau, yn gallu cael eu llethu'n hawdd gan y synhwyrau hyn. Gallant brofi rhai teimladau anghyfforddus neu boenus. Bydd plant nad ydynt yn ymateb yn ddigonol i synhwyrau yn ceisio mewnbwn synhwyraidd e.e. gallant siglo neu droelli i gael mewnbwn festibwlar, neu chwilio am arwynebau garw neu â gwead.

Gall anawsterau prosesu synhwyraidd effeithio ar bob rhan o fywyd plentyn gan gynnwys pethau bob dydd fel tasgau hunanofal, dysgu, a’u gallu i ymdopi mewn gwahanol amgylcheddau. 

Mae plant ag anhwylderau niwroddatblygiadol fel ASD, ADHD yn aml yn profi anawsterau prosesu synhwyraidd. Mae eu sensitifrwydd yn gallu bod yn wahanol a byddant yn amrywio o ran dwyster.