Neidio i'r prif gynnwy

Iaith dderbyngar

Ystyr iaith dderbyngar yw sut rydym ni'n deall y geiriau y mae pobl eraill yn eu defnyddio i gyfathrebu â ni. Gwyliwch ein podlediad am ragor o wybodaeth am ystyr iaith dderbyngar a sut y gallwch chi helpu plant a phobl ifanc sy'n ei chael hi'n anodd deall y geiriau rydych chi'n eu defnyddio, neu edrychwch ar yr awgrymiadau isod a'u hychwanegu at eich pecyn cymorth cyflym!

 

Pecyn Cymorth Cyflym

Mae rhai pobl ifanc yn cael eu llethu os ydych chi’n defnyddio gormod o iaith:

  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael sylw'r unigolyn ifanc cyn siarad â nhw. Galwch eu henw a gofynnwch iddynt roi'r gorau i'r hyn y maent yn ei wneud
  • Ceisiwch dorri cyfarwyddiadau hir yn ddarnau llai a rhowch un darn o wybodaeth ar y tro

Er enghraifft, yn hytrach na dweud: "Dos i fyny'r grisiau i nôl dy siwmper werdd ac yna tyrd yn ôl i lawr a rho dy gôt newydd a dy esgidiau amdanat." Gallech ddweud: "Dos i fyny'r grisiau" ac yna, unwaith y maent wedi cyrraedd yno: "dos i nôl dy siwmper werdd" ac unwaith y bydd wedi gwneud hynny: "tyrd yn ôl i lawr a rho dy gôt amdanat" ac yna, unwaith y bydd hynny wedi'i wneud: "rŵan, rho dy esgidiau".

  • Rhowch ddigon o amser i'r unigolyn ifanc brosesu'r hyn rydych chi wedi'i ddweud. Mae iaith yn gymhleth. Mae unigolion yn elwa ar gael ychydig o amser ychwanegol i feddwl er mwyn eu helpu i brosesu'r hyn rydych chi wedi'i ddweud, ac i benderfynu beth maent eisiau ei ddweud.
  • Peidiwch â bod ofn distawrwydd! Fel canllaw cyffredinol, mae aros am tua 10 eiliad cyn dweud unrhyw beth arall yn ddefnyddiol - ceisiwch gyfrif i 10 yn eich pen cyn ailadrodd neu aralleirio.
  • Cefnogwch yr hyn rydych wedi'i ddweud mewn ffordd weledol. Mae iaith lafar yn gallu bod yn anodd ei dilyn, oherwydd unwaith y mae wedi'i ddweud, mae wedi mynd. Gall defnyddio nodiadau atgoffa gweledol fod yn ddefnyddiol iawn i gefnogi unigolion i ddeall yr hyn a ddywedwyd.

Mae yna lawer o wahanol fathau o ddelweddau y gallwch chi eu defnyddio gan ddibynnu ar yr hyn sy'n gweithio orau i'ch plentyn neu unigolyn ifanc. Dyma rai syniadau:

  • Gallwch bwyntio neu ddefnyddio ystumiau i'ch helpu i ddangos am beth rydych chi'n sôn.
  • Gallwch ddefnyddio lluniau fel rhan o amserlen i ddangos beth sy'n digwydd yn ystod y dydd. Yn aml, fe elwir y rhain yn 'amserlenni gweledol'. Gall fersiynau syml helpu unigolion i ddeall beth sy'n digwydd rŵan a beth sy'n mynd i ddigwydd nesaf.
  • Gall ysgrifennu pethau fod yn ddefnyddiol i rai unigolion. Mae rhai unigolion yn hoffi ysgrifennu rhestrau i'w helpu nhw i gofio beth sy'n rhaid iddynt ei wneud. Efallai y bydd yn well gan eraill neges destun neu nodyn atgoffa am ddigwyddiad ar eu ffôn.