Neidio i'r prif gynnwy

Strategaethau Ymddygiad Cadarnhaol

Mae pob ymddygiad yn fodd o gyfathrebu. Mae ein hymddygiad yn cyflawni un o bedwar prif swyddogaeth:

  1. Modd o gael rhywbeth corfforol (e.e. tegan neu fisged)
  2. Dihangfa
  3. Mynnu sylw
  4. Chwilio am ysgogiad synhwyraidd

Mae rhieni/gofalwyr yn arbenigwyr ar ymddygiad eu plant ac felly, y nhw yw'r bobl orau i adnabod pa swyddogaeth sydd wrth wraidd ymddygiad y plentyn. Unwaith y bydd y swyddogaeth yn cael ei hadnabod, gellir rhoi ymyriadau ar waith i gefnogi'r ymddygiad. Mae hyn yn golygu bod yn rhagweithiol cyn i'r ymddygiad waethygu a chyrraedd pwynt argyfwng.

Mae bod yn ymwybodol o arwyddion a sbardunau eich plentyn o fudd wrth gefnogi ymddygiad heriol.

Arwyddion

Dyma’r arwyddion rhybudd cynnar – arwyddion corfforol neu ymddygiadau sy’n newid, sy’n arwydd bod ymddygiad heriol ar y ffordd.

Er enghraifft: efallai y bydd eich plentyn yn camu yn ôl a blaen neu efallai y bydd ei wyneb yn mynd yn goch. Mae'n bosibl y bydd tôn ei lais yn newid neu y bydd yn cynhyrfu. Mae ailadrodd geiriau neu ymddygiadau, a defnyddio ystumiau yn gyffredin hefyd.

Mae hi'n werth nodi pa arwyddion y bydd eich plentyn chi'n eu harddangos fel eich bod yn ymwybodol ei bod yn bosibl y bydd angen defnyddio technegau tawelu (gweler yr adran ganlynol) er mwyn lleihau eu pryder cyn iddynt 'ffrwydro'.

Sbardunau

Y rhain sy'n achosi'r ymddygiad heriol. Mae'r ffordd rydym ni'n teimlo a'r pethau sy'n digwydd i ni ac o'n cwmpas ni, yn gallu newid y ffordd rydym ni'n ymddwyn. Gallwn rannu’r digwyddiadau hyn yn sbardunau araf neu sbardunau cyflym.

Sbardunau araf - dyma'r pethau sy'n digwydd yn y cefndir ac yn aml, maent wedi dechrau ymhell cyn i’r ymddygiad heriol ddechrau. Mae sbardunau araf yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y bydd ymddygiad heriol yn digwydd oherwydd eu bod yn achosi i bobl beidio â theimlo ar eu gorau. Mae bod yn ymwybodol o sbardunau araf yn gallu ein helpu i ddeall ei bod hi'n bosibl y bydd ein hunigolyn ifanc yn gweld pethau'n anodd heddiw, a'i fod yn fwy tebygol o gyfathrebu hynny drwy ymddygiad y byddwn ni'n ei weld yn heriol.

Mae sbardunau araf yn cynnwys:

  • Teimlo'n sâl
  • Teimlo'n flinedig neu ddim yn cysgu'n dda
  • Heb gael unrhyw beth i'w wneud am gyfnod hir
  • Teimlo'n llwglyd
  • Dim digon o sylw

Sbardunau cyflym - fel y gallwch chi ddychmygu, y rhain yw'r sbardunau sy'n cael effaith ar unwaith ac sy'n digwydd yn llawer agosach mewn amser at yr ymddygiad heriol.

Mae sbardunau cyflym yn cynnwys:

  • Cael eich anwybyddu
  • Rhywun yn gofyn i chi wneud rhywbeth nad ydych chi’n gwybod sut i'w wneud
  • Digwyddiad yn cael ei ganslo
  • Rhywbeth annisgwyl yn digwydd
  • Rhywun yn dweud 'na'

Mae sbardunau araf a sbardunau cyflym yn gallu cyfuno ac maent yn achosi ymddygiad heriol.

Er enghraifft, os yw eich plentyn yn teimlo'n sâl, heb gysgu'n dda ac yn teimlo'n llwglyd, mae’n fwy tebygol o ymateb i sbardun cyflym fel cael gwybod nad yw ei ginio'n barod, na phan fo'n hapus ac wedi cael digon o gwsg.

Ymdopi â'r sefyllfa ar ôl y storm

Mae'n bwysig ystyried pryd yw'r amser gorau i helpu eich plentyn i dawelu.

Yn llawer rhy aml, pan fo'r foment wedi pasio a phethau'n dychwelyd i fod yn normal, gallwn  waethygu'r sefyllfa'n anfwriadol drwy siarad am yr hyn ddigwyddodd neu ofyn cwestiynau fel:

  • Wyt ti wedi tawelu rŵan?
  • Be oedd hynny?
  • Pam wnest ti hynny?

Er ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n mynd i'r afael â'r ymddygiad, mae'n well gwneud hynny ar ôl i'ch plentyn dawelu'n llwyr.

Fel arfer, mae'n cymryd tua 90 munud i gorff a synhwyrau eich plentyn ddychwelyd i fod yn ‘normal’ ar ôl digwyddiad. Efallai y bydd angen mwy o amser ar rai plant/pobl ifanc cyn iddynt deimlo'n gwbl ddigynnwrf.

Yn aml, mae ceisio trafod/gwneud synnwyr o'r sefyllfa cyn i'ch plentyn dawelu'n llwyr yn arwain at ymddygiad sy’n gwaethygu eto.

Tawelu yn gyntaf, canlyniadau wedyn

Meddyliwch am thermomedr. Pan fydd eich plentyn ar frig y thermomedr, gall gymryd 90 munud iddo ddychwelyd i'r gwaelod. Yn ystod yr amser hwn, gall pethau sy'n ymddangos yn bethau bach, fynd a'ch plentyn yn ôl at y brig.

Pethau y gallwch roi cynnig arnynt:

Mae rhai strategaethau syml y gallwch roi cynnig arnynt yn y cartref wedi eu rhestru isod. Mae pethau gwahanol yn gweithio i bawb. Ni fydd pob strategaeth yn gweithio i'ch teulu chi. Gall gymryd amser i addasu i strategaethau newydd, felly rhowch gynnig arnyn nhw am gyfnod, cyn symud at strategaeth arall.

  • Tynnu sylw ac ailgyfeirio: strategaeth yw hon, a ddefnyddir cyn i'r plentyn/unigolyn ifanc gyrraedd berwbwynt. O’u defnyddio ar yr adeg briodol, gall technegau tynnu sylw helpu’r plentyn/unigolyn ifanc i anghofio am bethau sy’n peri gofid iddynt a gallant helpu i osgoi rhai o’r sbardunau cyflym hynny fel clywed 'na'. Mae hon yn strategaeth wych er mwyn lleddfu sefyllfaoedd cyn iddynt ddechrau.
  • Canmolwch yr ymddygiad yr hoffech chi weld mwy ohono: mae llawer o blant/pobl ifanc yn teimlo bod unrhyw sylw yn well na dim sylw o gwbl. Y ffordd orau i annog eich plentyn i ymddwyn yn y ffordd yr hoffem ni, yw canmol yr ymddygiad cadarnhaol ac anwybyddu'r ymddygiad heriol. Gall hyn fod yn arbennig o anodd yn enwedig ag ymddygiadau rydych chi'n teimlo na allwch chi eu hanwybyddu. Os yw'r plentyn/unigolyn ifanc yn rhoi ei hun neu eraill mewn perygl, yna yn ofalus ac yn dawel, cefnogwch nhw i symud o'r sefyllfa honno gan roi cyn lleied o sylw â phosibl iddynt. Fe all gymryd peth amser, ond mae patrwm ailadroddus o ganmol y cadarnhaol ac anwybyddu'r negyddol yn gallu bod yn llwyddiannus iawn ar gyfer atgyfnerthu'r ymddygiadau yr ydym am weld mwy ohonynt.
  • Parth tawel: bydd annog eich plentyn/unigolyn ifanc pan nad yw wedi cynhyrfu, i ddefnyddio gofod tawel a gweithgareddau sy'n ymlaciol, yn ei helpu i deimlo y gall ddefnyddio'r strategaethau hyn pan fydd yn teimlo emosiynau mawr. Ni ddylid drysu rhwng hyn â chosb (‘gris camfihafio’) a dylid gwneud yn siŵr eich bod yn ei ddefnyddio mewn ffordd gadarnhaol. Gall parth tawel fod yn sedd bag ffa, yn babell, neu'n rhan benodol o ystafell gyda blancedi, llyfrau, swigod neu unrhyw dechneg mae eich plentyn chi'n ei ddefnyddio er mwyn tawelu. Mae helpu eich plentyn i ddefnyddio'r technegau hyn pan na fydd wedi cynhyrfu, yn fuddiol ar gyfer gweithredu'r strategaeth hon mewn cyfnodau mwy heriol.
  • Defnyddiwch iaith syml a byddwch yn ymwybodol o dôn eich llais: pan fydd rhywun yn teimlo wedi'i lethu, mae ei ymennydd yn cael trafferth prosesu ei feddyliau a'i emosiynau (hyd yn oed yn fwy nag arfer!). Mae hi'n bwysig defnyddio iaith syml a thôn addfwyn er mwyn helpu eich plentyn i ddeall beth rydych chi'n ei olygu. Rhowch negeseuon byr, syml yn hytrach na gofyn llawer o gwestiynau sy'n gofyn am esbonio sut maen nhw'n teimlo a pham. Mae defnyddio iaith i egluro eich hun yn llawer mwy anodd pan fyddwch chi'n teimlo emosiwn mawr. Mae cydnabod teimladau'r plentyn/unigolyn ifanc yn bwysig a gall ei helpu i deimlo'n dawelach e.e. yn hytrach na dweud "Be sy'n bod? Pam wnest ti hynny? Pam wyt ti'n gweiddi?" efallai y bydd hi'n fwy defnyddiol dweud "Dwi'n gwrando, dwi'n gweld dy fod yn teimlo'n flin...".

 

10 awgrym ar gyfer amser bwyd

Dyma ddeg strategaeth y gallwch eu defnyddio yn y cartref i helpu ar amser bwyd:

  1. Ym mhob pryd bwyd a byrbryd, cynigiwch brotein (cig, amnewidyn cig, cnau), llysiau neu ffrwythau, a starts (tatws, pasta, bara, grawnfwydydd) ynghyd ag ychydig bach o'r hoff fyrbryd .
  2. Gwnewch fwyd yn hwyl! 
  3. Adolygwch eich arferion amser bwyd. 
  4. Peidiwch ag aros i'r plentyn fynd yn llwglyd.
  5. Cynigiwch bryd o fwyd neu fyrbryd pob 2.5 awr.
  6. Cyflwynwch amserlen weledol.
  7. Rhowch gynnig ar symud cyn prydau. 
  8. Peidiwch â gadael i hwyliau drwg ymyrryd â'r bwyd.
  9. Bwytewch fel teulu. 
  10. Cynigiwch yr un bwyd i'ch plentyn ag y mae gweddill y teulu'n ei fwyta, hyd yn oed os tybiwch chi y bydd yn ei wrthod.