Neidio i'r prif gynnwy

Deall pobl ifanc yn eu harddegau

Gall bod â phlentyn yn ei arddegau sydd ag anhwylder niwroddatblygiadol fod yn gyfnod anodd i'r person ifanc, i chi fel gofalwyr ac i'r teulu cyfan.

Gan amlaf, tair blynedd gyntaf ein bywyd yw'r cyfnod pan fydd ein hymennydd yn tyfu fwyaf.

 Yn ystod cyfnod glaslencyndod, bydd pobl ifanc yn eu harddegau yn profi cyfnod arall o ddatblygiad cyflym yn eu hymennydd.

 Fel rhieni, efallai eich bod wedi sylwi ar rywfaint o newidiadau yn ymddygiad eich plentyn yn ei arddegau. Pan fydd cyfnod glaslencyndod yn cychwyn, a bydd pobl ifanc yn ymdopi â newidiadau yn eu cyrff, byddant hefyd yn gorfod ymdopi â newidiadau yn eu hymennydd.

Gall bod â phlentyn yn ei arddegau sydd ag anhwylder niwroddatblygiadol fod yn gyfnod anodd i'r person ifanc, i chi fel gofalwyr ac i'r teulu cyfan.

Diben y pecyn hwn yw cynnig adnoddau i reoli'r cyfnodau hynny a chynnig gwybodaeth ynghylch ble mae mathau eraill o gymorth ar gael. Mae'r pynciau yn cynnwys:

  1. Deall diagnosis
  2. Beth yw Awtistiaeth?
  3. Beth yw ADHD?
  4. Deall ymddygiadau
  5. Mae cyfathrebu yn allweddol
  6. Straen a gorbryder
  7. Glaslencyndod, rhywioldeb a pherthnasoedd rhywiol
  8. Datblygu annibyniaeth