Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwasanaeth Niwroddatblygiadol

Nid yw'r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol yn wasanaeth sy'n ymyrryd mewn argyfwng. Gwybodaeth am ein Gwasanaethau Lleol gan gynnwys GIG 111 Cymru.

Beth yw Niwroddatblygiad?

Datblygiad yr ymennydd yw ystyr Niwroddatblygiad. Mae llawer o elfennau a all effeithio ar ddatblygiad ein hymennydd. Gall geneteg chwarae rôl allweddol yn hyn, ond weithiau gall elfennau amgylcheddol gael effaith hefyd. 

Fel pobl, mae pawb ohonom ni'n amrywio a bydd ein hymennydd yn datblygu'n wahanol. Bydd llawer ohonom yn rhannu nodweddion cyffredin sy'n gysylltiedig â chyflyrau niwroddatblygiadol penodol, ond ni fydd hynny'n golygu bob amser fod arnom ni angen asesiad a/neu gymorth. Efallai bydd angen asesiad pan fydd hi'n amlwg fod effaith sylweddol ar ein dysgu, ein perthnasoedd, ein hiechyd emosiynol a chorfforol, a/neu ein cyfleoedd mewn bywyd.

Mae'n bwysig nodi y ceir llawer o resymau dros ddathlu'r rhain ohonom ni sy'n dehongli'r byd yn wahanol, sy'n cynnig safbwynt gwahanol, sydd â set wahanol o sgiliau ac sy'n defnyddio dulliau cyfathrebu gwahanol. Nid yw bod yn niwroamrywiol yn rhywbeth negyddol. Yr elfen bwysicaf yw sicrhau bod y sawl sy'n agos atoch chi yn oddefgar ac yn gefnogol ac yn eich derbyn chi, a'ch bod yn gweld gwerth ynoch chi eich hun gan wybod beth allwch ei gyflawni! 

 

Cysylltwch â ni 

Cysylltwch â'ch gwasanaeth lleol i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal.

Ardal y Canol: Conwy a Sir Ddinbych Rhif ffôn: 03000 850 031

Ardal y Dwyrain: Wrecsam a Sir y Fflint Rhif ffôn: Wrecsam- 03000 848 152 a Sir y Fflint - 03000 859 112

Ardal y Gorllewin: Gwynedd ac Ynys Môn Rhif ffôn: 03000 851 641

Os ydych wedi cael apwyntiad rhithwir, ewch i'n tudalennau Clinig Rhithwir Niwroddatblygiadol

Ein Hamseroedd Aros 

Mae'n bwysig i chi wybod fod ein hamseroedd aros yn hir iawn, yn anffodus. Efallai bydd angen aros hyd at 3 blynedd cyn gall eich plentyn gael ei apwyntiad cyntaf. Rydym ni'n gweithio'n galed i leihau hyn, ond dyna'r sefyllfa bresennol yn achos ein Bwrdd Iechyd.

Eich Profiad

Os hoffech sgwrsio â'n Tîm Profiadau Cleifion am y gwasanaeth rydych wedi'i gael (boed yn gadarnhaol neu negyddol), rydym yn awyddus iawn i gael adborth gennych chi, oherwydd fe wnaiff eich safbwyntiau, eich barn a'ch profiadau ein cynorthwyo i wella ein gwasanaethau.

Cysylltwch â:

BCU.CAMHSNeuroPEQueries@wales.nhs.uk

Sylwer mai cyfeiriad e-bost i gysylltu â'r Arweinwyr Profiadau Cleifion yw hwn; nid yw'n ddull o gysylltu'n uniongyrchol â'r Timau Niwroddatblygiadol. Peidiwch ag anfon gwybodaeth am gyfeiriadau neu achosion i'r cyfeiriad hwn, oherwydd ni chaiff hynny ei ailgyfeirio at wasanaethau eraill. Os dymunwch gysylltu â'ch Gwasanaeth Niwroddatblygiadol, ffoniwch y gwasanaeth gan ddefnyddio'r manylion cysylltu yn adran cysylltiadau'r dudalen we.

Eich Adborth

Yn dilyn yr asesiad, a fyddech cystal â threulio ychydig funudau'n rhoi eich adborth am eich profiad? 

Sir y Fflint a Wrecsam
Conwy a Sir Dinbych
Gwynedd a Mon