Mae ail frechlyn COVID-19 wedi cael sêl bendith a bydd ei gyflwyno ledled Cymru yn dechrau yn y flwyddyn newydd, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd
Mae Adrannau Achosion Brys yng Ngogledd Cymru yn cymryd rhan mewn astudiaeth i asesu effeithiolrwydd profion a all rhoi canlyniadau COVID-19 i feddygon o fewn munudau yn hytrach nag oriau.
Mae Aelodau o Dîm y Theatr a Gofal Dwys wedi prynu bwyd a theganau a’u casglu er mwyn eu rhoi i achosion lleol fel ffordd o ddiolch iddynt am eu cefnogaeth eleni.
Mae gan bob un o’r chwe sir yng Ngogledd Cymru o leiaf un safle profi erbyn hyn, sydd ar agor saith niwrnod yr wythnos a gyda rhai ohonynt ar agor rhwng 8am a 8pm.
Bydd y Bwrdd Iechyd yn defnyddio tair canolfan frechu torfol yr wythnos hon fel bod modd i staff cartrefi gofal ar draws Gogledd Cymru dderbyn y brechlyn.
Mae prosiect newydd yn ceisio mynd i'r afael ag effaith blinder a brofir gan bobl sy'n byw â chanser.
Mae beiciwr a heiciwr brwd nad oedd yn gallu cerdded mwyach oherwydd salwch gwanychol yn ôl ar ei draed yn dilyn llawdriniaeth fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd.
Mae ein Seiciatrydd Ymgynghorol, Dr Alys Cole-King wedi rhannu ei hawgrymiadau am sut mae gofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles dros dymor yr ŵyl.
Bydd prosiect newydd yn helpu i wella amseroedd triniaeth a lleihau'r pwysau ar feddygon teulu a gwasanaethau Gofal Brys y gaeaf hwn.
Mae gwaith ailwampio yn yr ystafelloedd sganio CT yn Ysbyty Glan Clwyd wedi creu cyfleusterau gwell a'r dechnoleg gyntaf o'i bath yng Nghymru
Mae dros 200 o staff risg uchel yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd yn cael eu brechiadau COVID-19
Dechreuodd staff cartrefi gofal ledled Gogledd Cymru dderbyn eu brechiadau rhag COVID-19 yn Ysbyty Enfys Llandudno heddiw.
Mae technoleg newydd bellach yn caniatáu i staff ysbytai fonitro rhai cleifion canser sydd ar gemotherapi adref yn eu cartrefi eu hunain trwy oriawr glyfar (smart watch).
Mae uwch nyrs sy'n arwain Nyrsys Ardal Abergele wedi ennill un o wobrau iechyd gorau’r Deyrnas Unedig gyfan.
Bydd ystafell therapi newydd yn Ysbyty Rhuthun yn helpu pobl yn yr ardal gyfagos i gael mynediad at ofal yn agosach at y cartref.