Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect newydd i wella cefnogaeth i gleifion canser Gogledd Cymru sy'n byw gyda blinder

Mae prosiect newydd yn ceisio mynd i'r afael ag effaith blinder a brofir gan bobl sy'n byw â chanser.

Diolch i gyllideb gan Rwydwaith Canser Cymru, mae adnoddau ychwanegol yn cael eu datblygu i helpu i wella dealltwriaeth a thriniaeth o ran Blinder Cysylltiedig â Chanser (CRF), y mae nifer o bobl yn cael profiad ohono yn dilyn diagnosis o ganser.

Bydd y prosiect yn dechrau gydag arolwg i helpu i gael dealltwriaeth o CRF ymysg staff gwasanaethau canser y GIG yng Ngogledd Cymru.

Bydd y clinigwyr y tu ôl i'r prosiect hefyd yn cynnal peilot llinell gymorth dros y ffôn i gynnig cymorth uniongyrchol i bobl sy'n cael eu heffeithio er gwaeth gan flinder, sy'n byw gyda chanser y brostad a'r fron.

Mae Blinder Cysylltiedig â Chanser (CRF) yn cyfeirio at deimlad o flinder drwy'r adeg neu'r rhan fwyaf o'r amser.  Mae'n wahanol i flinder o ddydd i ddydd ac nid yw'n cael ei wella drwy orffwys a gall effeithio ar bobl yn gorfforol ac yn emosiynol.

Mae CRF yn gyffredin ac wedi ei gofnodi mewn hyd at 99 y cant o bobl sydd â chanser. Mae hyd at 66 y cant o gleifion canser yn adrodd CRF cymedrol i ddifrifol.

Fe'i nodir yn gyson fel y symptom mwyaf heriol a adroddir gan gleifion ag ystod o ganserau gwahanol ar yr offeryn Asesu Anghenion Cyfannol, a ddefnyddir i nodi pryderon cleifion canser.

Bydd gwasanaethau Seicoleg Glinigol a Therapi Galwedigaethol yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu amrywiaeth o adnoddau a deunyddiau a fydd yn cael eu dosbarthu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol perthnasol i'w defnyddio yn eu gwaith yn gofalu am bobl sy'n byw gyda chanser.

Bydd Jackie Pottle, Arweinydd Therapi Proffesiynol Perthynol Iechyd Macmillan ar gyfer gwasanaethau Canser, a’r Seicolegydd Ymgynghorol Clinigol, Lisa Heaton-Brown, yn goruchwylio’r rhaglen.

Dywedodd Jackie: "Dros y chwe mis diwethaf, cyn COVID, CRF oedd y symptom a raddiwyd uchaf ymysg pobl gydag ystod o wahanol ganserau.

"Mae'r effaith mae'n ei gael ar fywydau cleifion canser yn enfawr.  Mae'n effeithio ar allu pobl i weithio, a'u cyfrifoldebau gyrfa. Mae'n cael effaith negyddol ar bob rhan o fywydau pobl.

"Nid dim ond sgîl-effeithiau corfforol neu effaith cael canser hefyd, ond y blinder meddwl y mae'n ei achosi.

"Rwy'n credu bod llawer un yn gweld CRF fel rhywbeth anochel. Maen nhw’n gweld bod rhywun yn cael cemotherapi, ac yn meddwl wrth gwrs bydd yn blino.

"Mae yna deimlad bod hyn yn rhywbeth i’w ddisgwyl, yn hytrach na rhywbeth y gallwn ni ei wella. Gall CRF fod yn orlethol, ac rydym yn gwybod bod mwy y gallwn fod yn ei wneud i helpu pobl â chanser i fyw gydag ef."

Ar ôl ymgynghori a gwrando ar ystod o staff y GIG sy'n gweithio ar draws Gogledd Cymru, mae Jackie a Lisa yn gobeithio datblygu cefnogaeth ymarferol ac adnoddau addysgol i wella gwybodaeth a dealltwriaeth o CRF.

Dywedodd Lisa: "Y gobaith yw ymchwilio'r rhwystrau lleol i reolaeth CRF effeithiol, a gwella'r cymorth addysgol i ddarparwyr gofal iechyd, fel y gallant gynnig cymorth pellach i gleifion. 

"P'un a yw'n ddiffyg amser, neu'n wybodaeth am beth yw blinder a sut y gellir ei leddfu, neu ddiffyg hyder ar sut i helpu, ein nod yw gwneud mwy i gefnogi gweithiwyr proffesiynol gofal iechyd a chleifion."

Ariennir y prosiect diolch i gefnogaeth gan Rwydwaith Canser Cymru, fel un o ddau brosiect canser a gefnogir yng Ngogledd Cymru.