Neidio i'r prif gynnwy

Staff Ysbyty Gwynedd yn rhoi rhywbeth yn ôl i'w cymuned

Mae Aelodau o Dîm y Theatr a Gofal Dwys wedi prynu bwyd a theganau a’u casglu er mwyn eu rhoi i achosion lleol fel ffordd o ddiolch iddynt am eu cefnogaeth eleni.

Mae staff o’n holl ysbytai wedi cael cymaint o roddion gan aelodau’r cyhoedd sydd wir yn ddiolchgar am eu hymdrechion yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae'r tîm theatrau wedi prynu eitemau, fel sgrialfyrddau, ar gyfer plant lleol mewn gofal ac wedi rhoi trwy’r Asiant Tai, Dafydd Hardy a drefnodd y casgliad.

Dywedodd Dafydd Pleming, Rheolwr Theatrau: “Daeth y syniad i ddechrau casgliad gan Reolwr Cyffredinol ein Cyfarwyddiaeth Llawfeddygaeth, Dylan Williams.

“Yn ystod yr adeg anodd hon, mae staff yn ymwybodol bod teuluoedd yn ein cymuned sydd angen y gefnogaeth ychwanegol honno oherwydd nifer o resymau.

“Roeddem ni eisiau cefnogi busnes lleol fel Dafydd Hardy ac roeddem ni wir eisiau gwneud gwahaniaeth i’r plant hynny na fydd o bosibl yn cael anrheg y Nadolig hwn.

“Fe wnaethon ni godi tua £500 yn ein hadran ac mae hynny wedi ein galluogi i brynu eitemau fel seinyddion, pêl-droed a pheli rygbi i'r plant.

“Mae’r ymateb gan ein cymuned leol eleni wedi bod yn anhygoel ac roedden ni wir eisiau dweud diolch mewn unrhyw ffordd bosibl.”

Mae'r tîm Gofal Dwys ar Ward Cybi hefyd wedi trefnu casgliad o deganau ar gyfer Elusen Superkids Gogledd Cymru ac eitemau ar gyfer fanc bwyd lleol.

Dywedodd Tracy Jones, Uwch Ymarferydd Gofal Critigol: “Trefnais i, Prif Nyrs Nikki Whiteman a Phrif Nyrs Susie Scudamorie y casgliad o deganau. Trefnwyd y casgliad banc bwyd trwy Jane Williams.

“Fe wnaethom ni ddewis elusen SuperKids Gogledd Cymru gan y byddai'n helpu teuluoedd lleol, roedden ni i gyd yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned leol yn enwedig o ystyried yr haelioni a ddangoswyd i’r Uned Gofal Critigol yn ystod Covid 19, cawsom lawer o anrhegion megis bwyd a'r rhai a wnaeth hyd yn oed ddillad sgrwb i ni.

“Rydyn ni hefyd yn gwybod bod llawer o bobl wedi colli eu swyddi ac yn cael trafferth yn fwy nag erioed eleni eto oherwydd y pandemig, ac roedden ni eisiau helpu.

“Hoffwn ddiolch i Margaret Williams o elusen SuperKids Gogledd Cymru am fod o gymorth mawr a rhannu holl straeon y teuluoedd maen nhw'n eu helpu.

“Cyfrannodd pawb o’r tîm Gofal Critigol a hoffwn ddiolch i’r staff am eu rhoddion hyfryd, Susi am fy helpu i ddidoli’r anrhegion a Nikki am fy helpu i gyflwyno i’r elusen.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd ein rhoddion yn gwneud i’r plant wenu ar Ddydd Nadolig ac rydyn ni am ddiolch i’r gymuned am ein cefnogi a hefyd am gadw at ganllawiau’r llywodraeth sy’n ein helpu ni yn uniongyrchol yma yn yr ysbyty.”