Neidio i'r prif gynnwy

Deg awgrym da: Gofalu am eich iechyd meddwl y Nadolig hwn

Mae ein Seiciatrydd Ymgynghorol, Dr Alys Cole-King wedi rhannu ei hawgrymiadau am sut mae gofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles dros dymor yr ŵyl.

Ni fydd y Nadolig hwn yn debyg i unrhyw un arall - diolch byth mae gennym ni'r brechlyn erbyn hyn - ond rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus. Mae pob un ohonom wedi cael ein heffeithio gan COVID-19 a gall y Nadolig fod yn gyfnod anodd i nifer ohonom ar y gorau.  Bydd hon yn flwyddyn wahanol iawn ac felly mae'n werth cynllunio sut y gallwn wneud y gorau o bethau.

Y Nadolig hwn, efallai yr hoffech roi cynnig ar rywbeth newydd neu addasu eich dathliadau arferol. Traddodiadau a chadw mewn cysylltiad â'r rhai sy'n annwyl i ni yw beth sy'n gwneud tymor yr ŵyl mor arbennig i nifer ohonom.  Mae'r Nadolig yn gyfnod da i ofyn i bobl sut maen nhw a rhoi clust i wrando ar anghenion pawb. Efallai bod angen i ni addasu sut yr ydym yn cysylltu â phobl a defnyddio galwadau fideo gyda'r rhai na allwn gwrdd â nhw wyneb yn wyneb.

Nid yw'r angen i ofalu am eich iechyd meddwl yn dod i ben yn ystod y Nadolig, a gyda'r straen ychwanegol a all gyrraedd gyda thymor yr ŵyl, mae'n fwy pwysig nag erioed i ofalu am eich lles. Dyma awgrymiadau ar sut i leihau ffactorau a allai achosi straen dros gyfnod y Nadolig:

 

1.    Nid dim ond un diwrnod yw'r Nadolig! Er mor bwysig yw 25 Rhagfyr i nifer o bobl, mae cyfnod y Nadolig yn llawer hirach.  Peidiwch â rhoi gormod o bwysau ar eich hun i gael y 'diwrnod perffaith'.  Bydd nifer ohonom yn gweithio ac felly ceisiwch ledaenu'r hwyl dros gyfnod yr ŵyl.  Hefyd, gyda'r cyfyngiadau COVID-19, ni fyddwn yn gallu gweld pawb ar yr un pryd.

 

2.    Rhowch gynnig ar rywbeth newydd! Os yw meddwl am beidio cael eich diwrnod arferol gyda grŵp mawr o bobl yn rhy anodd, yna rhowch gynnig ar wneud rhywbeth newydd.  Ceisiwch fwyta ar adeg wahanol o'r dydd neu gael pryd bwyd gwahanol megis eich hoff gig neu bryd bwyd llysieuol neu figan.  Drwy osgoi gwneud yr un peth yr ydych yn ei wneud ar bob Nadolig arall, gobeithio y byddwch yn llai tebygol o dreulio'r dydd yn cymharu (ac efallai'n llai ffafriol!).  Beth am gynnal pleidlais gyda'r rhai yr ydych yn bwriadu treulio amser gyda nhw ac efallai cadw tri pheth yr un fath a rhoi cynnig ar wneud tri pheth newydd

 

3.    Ewch allan  Hyd yn oed os yw'n rhewllyd neu'n glawio, gwisgwch yn gynnes ac ewch am dro i gael awyr iach. Gall hyd yn oed gerdded yn fywiog am 10 munud arwain at fuddion iechyd.  Gall mannau gwyrdd gael effaith gadarnhaol bwysig ar ein lles felly ewch am dro i ganol byd natur os yw’n bosib.  Mae hefyd yn gyfle gwych i fynd am dro gyda ffrindiau a theulu, gan gadw pellter cymdeithasol.

 

4.    Mae'n iawn dweud ‘Na’ Mae nifer ohonom yn rhoi pwysau ar ein hunain i wneud pethau nad ydym o reidrwydd eisiau eu gwneud, am ein bod eisiau plesio eraill. Gall hyn roi pwysau ychwanegol ar sefyllfa sydd eisoes yn rhwystredig os ydych chi'n gweld pethau’n anodd. Weithiau, mae'r meddyliau am beth y 'dylem' ei wneud neu'r disgwyliadau afrealistig mae pobl eraill yn eu gosod arnom yn orlethol. Mae hyn yn wir yn enwedig os ydym yn delio â gofynion lluosog y cartref, y gwaith a'r teulu neu os ydym yn sâl.   Os ydym yn teimlo na allwn fodloni’r disgwyliadau hyn, efallai y byddwn yn teimlo'n rhwystredig neu’n euog ac rydym yn anghofio ei bod yn iawn dweud ‘na’ neu ohirio rhywbeth nes ein bod yn teimlo'n barod. Os ydym yn ymateb yn gwrtais a pharchus, dylem deimlo'n hyderus ac yn hapus gyda'n hunain am wneud hyn.  Yr allwedd yw dod o hyd i'r cydbwysedd heb aberthu ein hiechyd neu'n lles. 

 

5.    Trefnwch rywbeth i'w fwynhau ar ôl cyfnod yr ŵyl. Trefnwch rywbeth arbennig i chi edrych ymlaen ato ar ôl cyfnod yr ŵyl.  Gall hyn gynnwys cwrdd â ffrindiau a theulu pan fydd COVID-19 yn caniatáu neu dreulio amser ar eich pen eich hun.  Gallwch gynllunio hanner diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol neu ddiwrnod ar y penwythnos wedi ei gynllunio ar eich cyfer chi a beth yr hoffech ei wneud - gall gynnwys treulio amser yn gofalu am eich hun, yr addewid o brynhawn i ddarllen eich llyfr, rhoi trefn ar eich hoff luniau, plannu hadau yn barod at y gwanwyn, trwsio'r tap hwnnw sy'n diferu neu roi trefn ar y cwpwrdd - beth bynnag sy'n gwneud i chi deimlo'n dda!

 

6.    Peidiwch â phoeni am anrhegion.  Os yw arian yn brin neu os nad ydych wedi gallu prynu anrhegion, beth am roi cynnig ar wneud talebau cartref am 'garedigrwydd' neu ar wneud gwaith tŷ pobl eraill yn ystod 2021.  Byddwch yn greadigol gyda'ch syniadau, gyda phethau megis: rhoi trefn ar y sbwriel, smwddio, rhoi trefn ar yr ail-gylchu, gwylio eu hoff raglen teledu gyda nhw heb gwyno, gwneud pryd o fwyd neu bicnic ar gyfer diwrnod o grwydro, mae'r rhain yn syniadau poblogaidd iawn.

 

7.    Gwneud Bocs Hunanofal Mae bocs hunanofal yn rhywbeth i'w lenwi gyda dim ond pethau sy'n gwneud i chi deimlo'n hapus, sy'n eich helpu i deimlo'n dda, tawelu eich meddwl a’ch helpu i fod yn fwy egnïol.  Y syniad yw gwneud y bocs o flaen llaw fel ei fod gennych pan fydd ei angen arnoch - bydd ganddo bopeth yr ydych yn gwybod sy'n eich helpu i wella pan fyddwch yn teimlo'n llawn straen neu wedi'ch gorlethu.  Gallai gynnwys llyfr, te llysieuol, eich hoff fisged, pos swdocw, croesair, cannwyll bersawrus, pecyn o gardiau, DVD, hufen dwylo, lluniau, cofroddion, cardiau datganiadau positif, hylif bath swigod, jig-so, posau, a phêl straen, gwybodaeth am deithio, cardiau post arbennig, cardiau neu lythyrau.  Gallwch ddewis unrhyw beth! Mae rhai pobl yn hoffi gwneud bocs 'go iawn' - gydag eraill yn hoffi gwneud bocs rhithwir a chynnwys cerddoriaeth neu ffilmiau.  Llenwch eich bocs o flaen llaw a'i roi yn rhywle diogel a hygyrch er mwyn cael gafael arno pan fyddwch angen hwb ychwanegol.  

 

8.    Nid oes dim yn berffaith - peidiwch â disgwyl gormod! Fel arfer, mae'n siŵr y bydd o leiaf un broblem yn codi dros yr ŵyl.  Peidiwch â rhoi gormod o bwysau ar eich hun i bopeth fod yn berffaith.  Mae’n arferol cael gwahanol safbwyntiau ac os ydych yn anghytuno am rywbeth, ceisiwch fod yn ystyrlon a maddau’n gyflym - mae pawb wedi bod dan bwysau, felly nid yw’n syndod bod ambell un yn colli tymer yn gyflym.  Dylai pob un ohonom geisio bod yn garedig a deall safbwynt y llall a dod o hyd i'r tir canol hwnnw os gallwn.

 

9.    Trefnwch amser i ganolbwyntio ar eich hun a gofalu am eich hun  Gall dod o hyd i amser i dreulio ar eich hun fod yn anodd ar y gorau felly pan ddaw tymor yr ŵyl, mae'n hawdd anghofio blaenoriaethu ein hunain. Gall cynllunio o flaen llaw a nodi ffyrdd syml o ganolbwyntio ar eich hun gryfhau eich lles.  Yn ddelfrydol, mae'n rhaid i ni fuddsoddi yn ein lles bob dydd. Os nad ydym yn gofalu am ein hunain, sut allwn ni ofalu am eraill? Ni ddylem deimlo'n euog am dreulio amser yn gofalu amdanom ein hunain. Nid dim ond 'rhywbeth neis i'w wneud' yw hyn - mae'n hanfodol.  Mae trefnu'n bwysig oherwydd yn aml rydym yn meddwl y gallwn ni fachu amser pryd bynnag y gallwn yn ystod y dydd, ond y gwirionedd yw bod yr holl weithgareddau arferol o fywyd bob dydd a gwneud pethau i bobl eraill yn cymryd amser a chyn i ni sylwi, mae'n amser gwely.  Gall trefnu ein helpu i nodi beth sydd wir angen ei wneud yn y dydd cyn cael yr amser hwnnw i ganolbwyntio ar eich hun.  Os nad ydych yn siŵr sut y byddech yn treulio amser arnoch eich hun, ceisiwch ysgrifennu'r holl bethau yr ydych yn eu mwynhau.  Drwy gael rhestr o'r pethau yr ydych yn eu mwynhau, gallwch osgoi'r demtasiwn i ohirio gofalu am eich hun.  Hyd yn oed os mai dim ond paned heb i neb dorri ar draws yn y bore am 10 munud pan fyddwch chi'n deffro yr ydych chi eisiau.

 

10. Byddwch yn agored Yn aml, mae'r Nadolig yn gyfnod llawn straen ar gyfer llawer o bobl ac mae gallu rhannu eich pryderon yn ogystal â'ch amcanion a'ch nodau gyda rhywun yn ffordd dda o helpu i deimlo eich bod yn rhoi llais i'ch teimladau.  Yn aml, drwy rannu ein pryderon gyda gwrandäwr da, gall fod yn help i godi'r pwysau sydd arnom a chael safbwynt ffres ar y pethau sy'n ein poeni.

 

Mae nifer o asiantaethau y gallwch gysylltu â nhw os ydych yn teimlo wedi'ch llethu y Nadolig hwn ac angen â rhywun.  Dyma'r manylion:

 

Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru C.A.L.L. 24/7

Gwefan | Ffôn: 0800 132 737

Gwasanaeth 24/7 yn cynnig cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig i unigolion yng Nghymru, am ddim. Tecstiwch 'Help' i 81066.

 

Samariaid: 24/7 - Rhadffôn: 116 123

Ebost: jo@samaritans.org (amser ymateb yn 24 awr)

Llinell Ffôn Gymraeg y Samariaid: rhadffôn 0808 1640123 ar agor rhwng 7pm-11pm bob dydd

 

Llinell Wybodaeth Mind Cymru:
Am wybodaeth ar y mathau o broblemau iechyd meddwl, ble i gael cymorth, meddyginiaeth, triniaethau amgen ac eiriolaeth. Ffoniwch 0300 123 3393, ebostiwch info@mind.org.uk neu anfonwch neges destun i 86463.

 

Papyrus. Mae Cynghorwyr Atal Hunanladdiad HopelineUK yn darparu cefnogaeth a chyngor i bobl ifanc dan 35 oed sy’n cael anawsterau gyda meddyliau am hunanladdiad, neu i unrhyw un sy’n pryderu bod person ifanc yn meddwl am hunanladdiad. Maen nhw’n darparu lle diogel i siarad drwy unrhyw beth sy’n digwydd mewn bywyd a allai gael effaith ar gadw’n ddiogel. Ar agor: 10am-10pm yn ystod yr wythnos, 2pm - 10pm (penwythnosau a gwyliau banc).

Galwch am ddim: 0800 068 4141 Tecstiwch: 07786 209697 E-bost: pat@papyrus-uk.org  Wefan: www.papyrus-uk.org/hopelineuk  

 

Childline. Mae Childline yn cynnig lle diogel i blant a phobl ifanc hyd at 19 oed yn y DU fod yn nhw eu hunain a lle gallant deimlo’n ddiogel i siarad am unrhyw beth. Mae cwnselwyr sydd wedi eu hyfforddi wrth law i wrando a chynnig help a chefnogaeth gydag unrhyw fater neu bryder, bach neu fawr, 24 awr y dydd.

Galwch am ddim: 0800 1111 Sgwrs un i un gyda chwnselydd ac e-bost (mynediad drwy www.childline.org neu Ap ‘For Me’)