Neidio i'r prif gynnwy

Venue Cymru yn agor ei Ddrysau i Staff Cartrefi Gofal ar gyfer Brechiadau COVID-19

Venue Cymru yn agor ei Ddrysau i Staff Cartrefi Gofal ar gyfer Brechiadau COVID-19

Dechreuodd staff cartrefi gofal ledled Gogledd Cymru dderbyn eu brechiadau rhag COVID-19 yn Ysbyty Enfys Llandudno heddiw.

Hon yw ail wythnos y rhaglen frechu ac mae rhyw 1,000 o staff cartrefi gofal wedi cael eu gwahodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i dderbyn y pigiad yn ei ganolfan frechu torfol gyntaf.

Dywedodd Alison Cowell, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ardal y Canol (Plant): "Trwy gydol y broses gynllunio, y brif ystyriaeth fu cynnig y brechlyn yn ddiogel i'r rheiny sydd â'r angen mwyaf amdano mor gyflym ac effeithlon â phosibl. Mae staff cartrefi gofal yn un o'r grwpiau blaenoriaeth cychwynnol ar gyfer brechu rhag COVID-19, felly mae heddiw'n ddiwrnod arall i'w gofio yma yn Llandudno."

Dywedodd Sandra Mayhew, gweithiwr cartref gofal o Sir Ddinbych: “Rhyddhad o'r mwyaf oedd cael y brechlyn, rwy'n meddwl y bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Dros y misoedd diwethaf, bu'n rhaid ceisio cadw oddi wrth bobl eraill fel na fyddech yn mynd â COVID-19 i'r cartref gofal. 

“Mae wir wedi cyfyngu ar fywyd. Bydd yn wych pan fydd pawb wedi cael y brechlyn a phan fydd modd i ni gael ein rhyddid eto."

Mae staff gofal iechyd y rheng flaen hefyd yn cael eu brechu yr wythnos hon yn Ysbyty Glan Clwyd a bydd y preswylwyr cyntaf mewn cartref gofal yn derbyn eu brechlyn fel rhan o gynllun peilot yng ngogledd Cymru yfory.

I gael rhagor o wybodaeth am gymhwyster a’r cwestiynau cyffredin diweddaraf, ewch i https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/