Neidio i'r prif gynnwy

Effeithiolrwydd a phrofiad cleifion gwell yn yr Ystafelloedd CT cyntaf o'u bath yng Nghymru yn Ysbyty Glan Clwyd

Mae gwaith ailwampio yn yr ystafelloedd sganio CT yn Ysbyty Glan Clwyd wedi creu cyfleusterau gwell a'r dechnoleg gyntaf o'i bath yng Nghymru.

Adran Radioleg yr ysbyty yw'r gyntaf yn y wlad i gael system CT Tarddiad Deuol, sy'n rhoi dos is o ymbelydredd i gleifion, ac sy'n fwy diogel i bobl sy'n cael sgan yn rheolaidd.

Mae gan y sganiwr newydd hefyd gamera is-goch sy'n gwella ansawdd y delweddau, a meddalwedd hyfforddi o bell. 

Roedd y gwaith yn cynnwys ailwampio'r cyfleusterau sy'n gysylltiedig â'r sganiwr, gan ddarparu ystafell newid newydd gydag en-suite er mwyn rhoi mwy o gyfforddusrwydd ac urddas i gleifion sy'n cael sgan.

Dywedodd Nicola Dobson, Prif Radiograffydd ar gyfer CT: "Mae ein gwaith mewn radioleg yn canolbwyntio ar risg yn erbyn budd.  Mae ymbelydredd yn amlwg yn niweidiol, felly mae gallu gweithio gyda dos is yn bwysig iawn.  Y lleiaf yw'r dos, y lleiaf yw'r risg.

"Rydym yn gweld llawer o gleifion canser sy'n cael sganiau'n rheolaidd, felly mae gallu cynnig sganiau arferol ar ddos is yn fantais amlwg.

"Mae ganddo hefyd gamera is-goch, sydd hefyd yn gwella ansawdd yr hyn rydym yn ei wneud.

"Mae'n rhaid i ni osod cleifion i gael y ddelwedd o ansawdd gorau gyda'r ymbelydredd lleiaf bosibl, ond gan fod llawer o bobl yn cynnal y sganiau, mae amrywiaeth bob amser.

"Mae gan hwn gamera awtomataidd sy'n ein galluogi i osod pobl yn yr un ffordd dros lawer o sganiau ar ddyddiadau gwahanol, sy'n gwella'r gallu i gymharu sganiau dros gyfnod o amser.

"Mae wedi ei deilwra i bob claf, fel eu bod bob amser wedi eu gosod yn yr un ffordd.”

"Mae gosod yn yr un ffordd hefyd yn helpu i leihau'r dos o ymbelydredd i'r claf bob tro.”

"Roedd urddas a phreifatrwydd y cleifion wrth wraidd yr holl brosiect, felly bydd cael ystafell adfer breifat, cyfleuster newid a thoiled en-suite yn gwneud dod i mewn am sgan yn brofiad llawer mwy pleserus i'n cleifion hefyd."

Mae'r sganiwr CT newydd hefyd yn galluogi'r adran i roi mwy o gefnogaeth i gydweithwyr Cardioleg. Mae'r offer newydd yn darparu delweddau cydraniad amserol uchel hefyd, sy'n gwella ansawdd monitro cleifion â chyfraddau calon uchel neu anwadal.

Dywedodd Nicola: "Arloesedd pwysig iawn yw ansawdd y delweddu ar sganiau calon.

"Mae ceisio delweddu calon sy'n curo, sy'n symud yn barhaus yn anodd iawn.

"Gall y sganiwr hwn dynnu llun o'r galon a'r rhydwelïau mewn un curiad calon, nid oeddem yn gallu gwneud hynny cyn hyn. Cyn hyn, byddem wedi gorfod defnyddio blocwyr beta i arafu cyfradd calon y claf i gael llun digon da, ond does dim angen hynny rŵan. 

"Felly rydym yn cael delweddau gwell ac ar gleifion na fyddem wedi gallu eu sganio cyn hyn, a llai o angen rhoi cyffuriau i'w gyflawni."

Darparwyd hyfforddiant o bell ar y sganiwr gan ddefnyddio meddalwedd wedi ei adeiladu iddo.

Bydd y sganiwr mwyaf newydd a blaengar yn yr ysbyty yn cael ei ddefnyddio'n bennaf ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol i helpu i wella effeithiolrwydd yr adran.