Neidio i'r prif gynnwy

Arweinydd Nyrsys Ardal yn ennill gwobr iechyd fawreddog y Deyrnas Unedig gyfan

Mae uwch nyrs sy'n arwain Nyrsys Ardal Abergele wedi ennill un o wobrau iechyd gorau’r Deyrnas Unedig gyfan.

Bu i Amanda Hughes, sy'n Arweinydd Tîm, ennill gwobr fawreddog Rheolwr Nyrsio’r Flwyddyn yng ngwobrau Gweithlu'r Nursing Times.

Disgrifiwyd Mandy fel "yr un i fynd ati" i helpu ei staff, a llwyddodd i gyrraedd y rhestr fer gan y beirniaid am ei gwaith diflino i gefnogi tîm Abergele dros y tair blynedd a hanner diwethaf.

Cafodd Mandy ei henwebu am y wobr gan Nichola Hughes, Pennaeth Nyrsio Dros Dro Gofal Cychwynnol a Chymunedol, a oedd yn canmol ei hagwedd rhagweithiol at hyfforddiant i fodloni'r her a gyflwynir gan COVID-19.

Dywedodd Nichola: "Mae gan Amanda gymaint o wybodaeth ac yn aml hi yw'r 'un y mae pobl yn mynd ati' yn gyntaf.  Mae Amanda bob amser yn rhoi staff yn gyntaf a hyd yn oed os nad yw'n gwybod yr ateb, bydd yn dod o hyd iddo.  

"Mae Amanda wedi bod yn gefnogaeth aruthrol i mi dros y ddwy flynedd diwethaf ac mae bob amser yn barod i fynd gam ymhellach i bobl.

"Mae ei thîm yn gydlynol, gweithgar ac yn grŵp hapus sy'n gweithio mor dda â'i gilydd. Dros y 12 mis diwethaf yn unig, mae staff wedi gwneud modiwlau Prifysgol mewn gofalu am gleifion ag anghenion cymhleth, rheoli Diabetes, gofalu am wlserau'r goes, cwnsela a'r Wobr Arfer Arbenigol Nyrsys Ardal.  Mae un Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd wedi cael cefnogaeth i gwblhau ei QCF Lefel 4 ac yn awr yn edrych ymlaen at ddechrau ei hyfforddiant nyrsio.

“Gyda COVID, roedd hi’n gwneud llawer o ymdrech i wneud yn siŵr bod yr hyfforddiant a'r sicrwydd ar gael i'r tîm cyfan hefyd, gan gynnal sesiynau pwrpasol ar offer diogelu personol (PPE) a'r canllawiau CPR newydd.

"Mae'r tîm cyfan yn llewyrchus dan arweinyddiaeth Mandy, ac ni allaf feddwl am neb sy'n haeddu'r wobr hon yn fwy na hi."

Dywedodd Mandy nad oedd hi’n disgwyl ennill a’i bod wrth ei bodd cael ei chydnabod â’r wobr.

Ychwanegodd: "Nid oeddwn yn disgwyl cael fy nghydnabod â’r wobr hon ac mae’n fraint ei hennill, ond ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb ymroddiad a gwaith caled ein holl dîm yn Abergele.

"Mae'r misoedd diwethaf gyda COVID-19 wedi bod yn anodd iawn i bawb, ond rwy'n falch iawn o'r tîm am gadw eu safonau mor uchel a pharhau i wneud eu gorau i'n cleifion."

Cynhaliwyd Gwobrau Gweithlu'r Nursing Times ar 2 Rhagfyr.  Mae'r gwobrau, sydd bellach yn eu trydedd flwyddyn, wedi’u dylunio i ddathlu popeth sy’n dda am y gweithlu nyrsio, gan dynnu sylw at arloesedd mewn rheoli a chynllunio sy’n cyfrannu at gynnal gweithlu sy’n addas i’r dyfodol.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at y gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud gan reolwyr nyrsio, ymddiriedolaethau a chyflogwyr ar draws y sector iechyd a gofal i recriwtio, cadw, ysbrydoli a meithrin staff nyrsio.