Neidio i'r prif gynnwy

Canolfannau brechu torfol i agor ar draws Gogledd Cymru yr wythnos hon

Bydd y Bwrdd Iechyd yn defnyddio tair canolfan frechu torfol yr wythnos hon fel bod modd i staff cartrefi gofal ar draws Gogledd Cymru dderbyn y brechlyn.

Caiff yr Ysbytai Enfys yng Nglannau Dyfrdwy, Llandudno a Bangor eu defnyddio o yfory er mwyn brechu bron i 2,000 o staff cartrefi gofal.

Dim ond pobl y mae'r Bwrdd Iechyd wedi cysylltu â nhw'n uniongyrchol fydd yn gallu cael y brechlyn, ac atgoffir pobl i beidio â throi i fyny heb apwyntiad.

Ar yr un pryd, bydd nifer fach o staff y rheng flaen sy'n gweithio mewn mannau risg fawr yn Ysbyty Gwynedd hefyd yn cael eu brechu.

Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus: “Rydym am allu brechu pobl sydd mewn perygl cyn gynted â phosibl, felly mae gallu defnyddio'r canolfannau brechu torfol hyn yn rhan hollbwysig o'n proses gyflwyno.

“Rydym yn gwybod bod hon yn gallu bod yn adeg ofidus ac rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y rheiny sy'n gymwys yn derbyn eu brechlyn yn eu tro wrth i ni dderbyn cyflenwadau. Byddwn yn parhau i dargedu'r bobl hynny sydd wedi cael eu blaenoriaethu gan y Cydbwyllgor Cenedlaethol ar Frechu ac Imiwneiddio.

“Mae'n bwysig bod pobl yn cofio nad oes angen iddynt gysylltu â'r Bwrdd Iechyd neu eu meddyg teulu i dderbyn y brechlyn. Byddwn yn cysylltu â phobl yn uniongyrchol pan ddaw eu tro a byddant yn derbyn yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gadw eu hapwyntiad.

“Hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd a'u dealltwriaeth, wrth i ni gyflwyno'r rhaglen frechu sylweddol hon."

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu a chymhwyster ar ein gwefan yma.