Neidio i'r prif gynnwy

Mae brechiadau COVID-19 yn cychwyn ar gyfer staff Glan Clwyd

Mae dros 200 o staff risg uchel yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd yn cael eu brechiadau COVID-19.

Dechreuodd staff gael eu brechiadau ddoe, ac mae mwy o frechiadau wedi’u trefnu ar gyfer heddiw ac yfory.

Dywedodd June Davies, Nyrs Ymarferydd yn yr Adran Achosion Brys: “Rwyf wedi gweithio yma am 30 mlynedd, ac mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn waith caled iawn, ond mae’n dda gwybod ein bod gobeithio yn agosau at ddiwedd hyn i gyd.

“Mae’r system trefnu apwyntiad a chael eich gweld wedi gweithio’n dda iawn, ac mae gan bawb yr wyf wedi siarad â nhw deimlad da am y brechiad hwn.”

Dywedodd Ramil Cahilo, Uwch Brif Nyrs: “Cefais neges destun yn dweud fy mod yn gymwys i gael y brechiad ddydd Gwener ac fe drefnais apwyntiad ar unwaith.

"Rwy'n gyffrous am y peth. Mae cymaint o feddwl negyddol wedi bod am COVID, rwy'n falch o fod yn fyw ac yn  cael y cyfle i gael y brechiad. Rwy'n credu bod hyn yn newyddion da i bawb"

Dywedodd Dawn Stead, gweithiwr Gofal Iechyd ar yr Uned Feddygol dydd "Roeddwn i'n cysgodi o fis Mawrth hyd nes mis Awst, ac ers hynny rydw i wedi bod yn symud o amgylch i rolau nad ydynt yn delio â chleifion gan na allaf gael cyswllt â chleifion.

"Pan rydych chi wedi'ch hyfforddi i gymryd gwaed neu osod caniwla, mae'n anodd iawn bod yn yr ysbyty ond ddim yn gallu gwneud yr hyn rydych chi wedi'i hyfforddi i’w wneud. Rydw i wir eisiau mynd yn ôl i normal.

"Rwy'n unigolyn sy’n hoff o ddelio â phobl, felly ni allaf aros i ddychwelyd i'm rôl swydd iawn, a gobeithio y bydd y brechlyn hwn yn fy helpu i wneud hynny."