Neidio i'r prif gynnwy

Ail frechlyn COVID-19 wedi cael sêl bendith

A second COVID-19 vaccine has been given the go-ahead and its roll-out across Wales will start next week, the Health Minister has announced.

Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) bellach wedi awdurdodi brechlyn AstraZeneca Rhydychen fel un diogel ac effeithiol ar sail adolygiad arbenigol annibynnol manwl o dystiolaeth o dreialon clinigol ar raddfa fawr.

Mae Llywodraeth y DU wedi caffael brechlynnau ar ran y pedair gwlad ac mae tua 100m o'r rhain o frechlyn AstraZeneca Rhydychen, gyda Chymru'n cael ei dyraniad yn seiliedig ar boblogaeth.

Mae'r brechlyn hwn yn gofyn am ddau ddos 4 wythnos ar wahân.
Ddechrau mis Rhagfyr, brechlyn Pfizer BioNTech oedd y cyntaf i dderbyn cymeradwyaeth MHRA yn y DU. Mae 40 miliwn o ddosys o'r brechlyn ar gael i'w darparu ledled y DU.

Yn seiliedig ar system flaenoriaeth ledled y DU, mae brechlyn Pfizer BioNTech eisoes wedi dechrau cael ei roi i staff iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â phreswylwyr a staff cartrefi gofal a phobl dros 80 oed.

Yn wahanol i frechlyn Pfizer BioNTech, mae brechlyn AstraZeneca Rhydychen yn cael ei storio ar dymheredd oergell arferol. Mae hyn yn golygu mai ychydig o broblemau storio a chludo fydd ganddo, gan ei gwneud yn llawer haws i'w ddefnyddio mewn lleoliadau cymunedol fel cartrefi gofal a lleoliadau gofal sylfaenol fel meddygfeydd.  

Gofynnir i bobl beidio â ffonio eu meddyg teulu, eu fferyllfa neu eu hysbyty yn gofyn pryd byddant yn cael brechlyn. Pan fydd rhywun yn un o'r grwpiau sy'n gymwys i gael y brechlyn, cânt eu gwahodd i fynychu clinig pwrpasol a fydd wedi'i sefydlu i sicrhau diogelwch cleifion a diogelwch gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Efallai na fydd effeithiau'r brechlyn yn cael eu gweld yn genedlaethol am fisoedd lawer ac mae'r cyngor ar gadw Cymru'n ddiogel yn aros yr un fath i bawb; cael cyn lleied â phosib o gyswllt â phobl eraill, cadw pellter o 2 fetr oddi wrth eraill, golchi dwylo'n rheolaidd, gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen ac osgoi cyffwrdd ag arwynebau y mae eraill wedi cyffwrdd â nhw, os yw hynny’n bosib.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd:

Mae'r cyhoeddiad am gymeradwyo brechlyn AstraZeneca Rhydychen i’w ddefnyddio yn y DU yn gam sylweddol ymlaen ac yn gam rydym yn ei groesawu yn rhaglen frechu COVID.

“Rydym yn deall bod disgwyliadau uchel a chyffro am yr ail frechlyn yn cyrraedd ond bydd yn cymryd amser i gyrraedd pawb ac nid yw hwn yn ateb ar unwaith – ni fyddwn yn derbyn yr holl ddosys ar unwaith ac mae'n rhaid i ni fod yn realistig ynglŷn â graddfa a chyflymder y ddarpariaeth.

"Ni fyddwn yn gweld effaith y brechlyn am rai misoedd a bydd y pwysau ar y GIG yn parhau yn ystod y gaeaf hwn. Mae'n hanfodol o hyd ein bod ni i gyd yn parhau i chwarae ein rhan a dilyn y rheolau i warchod ein gilydd.

"I helpu'r GIG, arhoswch i gael eich gwahodd i gael eich brechu.

Dywedodd Cadeirydd Rhaglen Frechu COVID-19 Cymru, Dr Gillian Richardson:

Mae'r brechlyn wedi'i gymeradwyo fel un diogel ac effeithiol gan yr MHRA, yn seiliedig ar yr un safonau uchel ag a ddefnyddir gyda phob meddyginiaeth a brechlyn.

“Mae'n newyddion gwych bod yr ail frechlyn wedi bodloni’r safonau diogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd llym a nodwyd gan yr MHRA.

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cefnogi a Darparu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n cydlynu’n genedlaethol ymchwil ac astudiaethau sydd wedi’u sefydlu yng Nghymru:

Mae ein cymuned ymchwil yn gweithio'n galed i ddarparu'r dystiolaeth sydd ei hangen arnom i ymladd y pandemig hwn ac mae cymeradwyo brechlyn AstraZeneca Rhydychen yn gam pwysig ymlaen. Mae gennym ddau frechlyn pellach yn cael eu profi yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda mwy o dreialon i'w sefydlu yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

"Bydd yr ymchwil hwn, ochr yn ochr â'r astudiaethau COVID-19 eraill sy'n cael eu cynnal, yn ein helpu nid yn unig i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed ond hefyd i ddarparu'r gofal gorau posib i'r rhai sy'n mynd yn sâl.

"Rwy'n falch o'r rôl mae ein hymchwilwyr yng Nghymru wedi'i chwarae yn yr ymdrech hon ledled y DU a hoffwn ddiolch hefyd i'r cyfranogwyr sydd wedi gwirfoddoli. Gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Bydd deunyddiau hyfforddi sy'n benodol i’r brechlyn ar gael i frechwyr, yn unol â nodweddion brechlyn AstraZeneca Rhydychen.