Neidio i'r prif gynnwy

Bellach mae gan Ogledd Cymru 11 canolfan brofi COVID-19 sy'n gwasanaethu cymunedau ar draws y rhanbarth

Mae gan bob un o’r chwe sir yng Ngogledd Cymru o leiaf un safle profi erbyn hyn, sydd ar agor saith niwrnod yr wythnos a gyda rhai ohonynt ar agor rhwng 8am a 8pm.
Mae Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn annog pobl i drefnu apwyntiad yn eu canolfan brofi agosaf os oes ganddynt symptomau o COVID-19.  
Bu iddi hefyd gefnogi ymgyrch Helpu Ni, Helpu Chi Llywodraeth Cymru, gan annog y cyhoedd i gael mynediad at wasanaethau’r GIG yn gywir ac i beidio â mynd i’r adrannau achosion brys gydag anhwylderau a ellir eu trin gan Feddyg Teulu, Fferyllydd neu yn yr Uned Mân Anafiadau. 
Dywedodd, Teresa Owen: “Drwy gyflwyno canolfannau profi ar draws Gogledd Cymru rydym wedi gwella’r hygyrchedd a’i gwneud yn haws i breswylwyr sy’n pryderu efallai bod ganddynt y firws.
“Mae COVID-19 yn dal i gylchredeg yn ein cymunedau, felly mae’n hanfodol – yn enwedig dros fisoedd y gaeaf – fod unrhyw un sydd â symptomau yn hunan-ynysu ar unwaith ac yn trefnu apwyntiad i gael prawf.  
“Mae cyfleusterau ar gael i gael prawf drwy ffenestr y car neu gallwch alw heibio, ond maent ond ar agor i bobl sydd wedi trefnu apwyntiad o flaen llaw, sy’n gwisgo gorchudd wyneb ac sy’n dilyn y cyfarwyddiadau a roddir gan staff ar y safle.
“Rydym eisiau i bawb gael Nadolig mor ddiogel a normal â phosibl. Mae wedi bod yn flwyddyn heriol a gall bob un ohonom barhau i chwarae ein rhan drwy olchi ein dwylo, cadw pellter cymdeithasol a chadw at y cyfyngiadau COVID-19.”
Mae Unedau Profi Cymunedol (CTU), Unedau Profi Symudol (MTU), Safleoedd Profi Lleol (LTS) a Safleoedd Profi Rhanbarthol (RTS) ar gael yng Ngogledd Cymru. Maent yn cynnwys:

  • Tremadog: Canolfan brofi drwy ffenestr y car yn Ysbyty Alltwen, ar agor 8am-8pm saith niwrnod yr wythnos (CTU). 
  • Tywyn: Canolfan galw heibio a phrofi drwy ffenestr y car yn Rheilffordd Talyllyn, ar agor 9.30am-3.30pm saith niwrnod yr wythnos (MTU). 
  • Amlwch: Canolfan brofi drwy ffenestr y car a galw heibio ym maes parcio Noddfa, Stryd y Farchnad, Amlwch, ar agor 9am-4pm saith niwrnod yr wythnos (MTU).
  • Llangollen: Canolfan galw heibio a phrofi drwy ffenestr y car ym maes parcio Stryd y Farchnad, ar agor 9.30am-3.30pm saith niwrnod yr wythnos (MTU ac nid oes angen trefnu apwyntiad o flaen llaw).
  • Llanrwst: Canolfan galw heibio a phrofi drwy ffenestr y car ym maes parcio Plas yn Dre, ar agor 9.30am-3.30pm saith niwrnod yr wythnos (MTU).
  • Y Rhyl: Canolfan galw heibio ym maes parcio Quay Street, wrth ymyl Pont y Foryd, ar agor 8am-8pm saith niwrnod yr wythnos (LTS).
  • Cei Connah: Canolfan galw heibio yn y Neuadd Ddinesig, ar agor 8am-8pm saith niwrnod yr wythnos (LTS).
  • Bangor: Canolfan galw heibio ym maes parcio Stryd y Deon y Brifysgol, ar agor 8am-8pm saith niwrnod yr wythnos (LTS).
  • Wrecsam: Canolfan galw heibio yn y Neuadd Goffa, Bodhyfryd, ar agor 8am-8pm saith niwrnod yr wythnos (LTS).
  • Glannau Dyfrdwy: Canolfan brofi drwy ffenestr y car ar Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, ar agor 8am-8pm saith niwrnod yr wythnos (RTS).
  • Llandudno: Canolfan brofi drwy ffenestr y car ar Builder Street, ar agor 8am-8pm saith niwrnod yr wythnos (RTS). 

Mae symptomau o COVID-19 yn cynnwys peswch newydd parhaus, tymheredd uchel a methu arogli neu flasu neu golli eich synnwyr o arogl neu flas.  
Mae’r prawf yn cynnwys cymryd swab o du mewn i’ch trwyn a chefn eich gwddf, gan ddefnyddio ffon gotwm hir, a dylech gael canlyniad eich prawf o fewn 72 awr. 
Bydd olrhain cysylltiadau yn parhau drwy gydol cyfnod y Nadolig, felly efallai byddwn yn cysylltu ag unigolion dros benwythnosau a Gwyliau’r Banc. 
Am restr lawn o’r safleoedd profi Covid-19, oriau agor a gwybodaeth, ewch ar y wefan: www.bcuhb.nhs.wales/covid-19/book-a-covid-19-test.
I drefnu prawf, ffoniwch 119 neu ewch i: www.gov.wales/getting-tested-coronavirus-covid-19
Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch Helpu Ni, Helpu Chi, dilynwch yr hashnod #HelpuNiHelpuChi a #HelpUsHelpYou ar y cyfryngau cymdeithasol.