Neidio i'r prif gynnwy

2026

19/02/26
Katie yn Nosbarth Cyntaf y Nyrsys

Llwyddodd nyrs (y gyntaf yn ei theulu i astudio mewn prifysgol) i ragori yn ei hastudiaethau nyrsio a chael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf.

Roedd Katie Garner yn gynorthwyydd gofal iechyd (HCA) yn nhîm nyrsio cymunedol Prestatyn fwy na thair blynedd yn ôl. Dywedodd na wnaeth hi erioed ddychmygu y deuai’n nyrs a’i bod hi wedi teimlo na fyddai hi fyth yn ddigon da.

17/02/26
Diweddariad ar y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys

Diweddariad ar y gwaith parhaus i adolygu a gwella'r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS), yn dilyn trafodaethau diweddar ym Mhwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru (NWJCC) – Ionawr 2026.

11/02/26
Lansio system rhagnodi electronig newydd yn Ysbyty Gwynedd ac yn Uned Hergest

Mae cleifion yn Ysbyty Gwynedd ac yn Uned Hergest bellach yn elwa yn sgil system rhagnodi electronig newydd sy’n golygu bod prosesau rhoddi meddyginiaethau yn fwy diogel, yn gyflymach ac yn fwy effeithlon i gleifion ac i’r staff.

09/02/26
Gweinidog yn gweld sgiliau cyfathrebu ar waith yn ystod ymweliad ag Abergele

Bu Gweinidog o Senedd Cymru ar ymweliad â Gogledd Cymru ddoe, i weld sut rydym ni’n helpu pobl ifanc i gyfathrebu.

04/02/26
Gofal a chymorth yng Ngogledd Cymru – rhowch wybod i ni beth sy'n bwysig

Mae Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru yn darparu gwybodaeth am anghenion gofal a chymorth pobl yng Ngogledd Cymru ac anghenion cymorth gofalwyr.

04/02/26
Ap newydd yn helpu cleifion i wella'n gyflymach ar ôl cael pen-glin newydd yn Ysbyty Gwynedd

Mae ap newydd yn helpu cleifion i wella'n gyflymach ac yn fwy effeithiol yn dilyn llawdriniaeth i osod pen-glin newydd yn Ysbyty Gwynedd.

03/02/26
Cynorthwyo bywyd ar ôl strôc

Mae grŵp ymarfer corff arbenigol Bywyd Ar Ôl Strôc yng Nghaernarfon yn helpu i dynnu sylw at bwysigrwydd adsefydlu parhaus, gweithgarwch corfforol ac addysg i leihau’r risg o strôc arall a chynorthwyo adferiad hirdymor.

28/01/26
Gwasanaethau iechyd i elwa o gwrs newydd a fydd yn helpu i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o fferyllwyr yng Ngogledd Cymru

Heddiw, ymunodd y Bwrdd Iechyd â Phrifysgol Bangor i ddathlu lansiad ffurfiol ei Rhaglen Gradd Meistr Fferylliaeth (MPharm) yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru.

27/01/26
Enwebu cydweithrediad Gwasanaeth IVAS a thîm Cito ar gyfer gwobr genedlaethol ym maes gofal iechyd digidol yn y DU

Llongyfarchiadau i’n Gwasanaeth IVAS a’n cydweithwyr o’r tîm Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT), sydd wedi’u henwebu ar gyfer Gwobr Ddigidol HSJ yn dilyn eu llwyddiant diweddar yn cyrraedd rownd derfynol yng Ngwobrau GIG Cymru ym mis Tachwedd 2025.

22/01/26
Arolygiad diweddaraf Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd

Rydym yn croesawu canfyddiadau arolygiad diweddaraf Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru mewn perthynas ag Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd ac mae'n galonogol gweld yr adborth cadarnhaol yn cydnabod trugaredd, proffesiynoldeb ac ymroddiad ein staff.

22/01/26
Gwelliannau sylweddol yn yr amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol yng Ngogledd Cymru

Rydym wedi sicrhau gwelliannau sylweddol o ran cwtogi amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol cyntaf yng Ngogledd Cymru dros y 12 mis diwethaf...

13/01/26
Babanod a anwyd cyn amser yn elwa wrth i Rhian a'i chydweithwyr ennill gwobrau cenedlaethol

Mae uwch ymarferydd nyrsio newyddenedigol wedi helpu i arwain y tîm a enillodd ddwy wobr genedlaethol mawr eu bri, a hynny am wella cyfleoedd i fabanod a anwyd cyn amser.

Rhian Smith, sydd wedi'i lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd, oedd  nyrs arweiniol tîm Cymru gyfan ar brosiect PERIPrem Cymru (Rhagoriaeth Amenedigol i Leihau Anafiadau mewn Genedigaethau Cynamserol Cymru).

13/01/26
Cyflwynwyd system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) yn Ysbyty Maelor Wrecsam

Cyflwynwyd system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) yn Ysbyty Maelor Wrecsam y penwythnos hwn, yn dilyn ei gyflwyno'n llwyddiannus yn Uned Heddfan ym mis Rhagfyr, fel rhan o'r cynllun mabwysiadwyr cynnar.

08/01/26
Cynlluniau ar waith i gynorthwyo cleifion, staff a gwasanaethau dros y dyddiau nesaf

Yn sgil y rhagolygon am dywydd garw dros y dyddiau nesaf, rydym yn cynghori pobl i gadw’n iach a bod yn eithriadol o ofalus os byddant yn teithio i'r ysbyty i gael apwyntiad.

07/01/26
Datganiad: Nid oes angen gwisgo masgiau wyneb yn ein hysbytai mwyach

Yn dilyn gostyngiad yn nifer yr achosion o'r ffliw a salwch anadlol yn ein hysbytai, nid ydym bellach yn gofyn i gleifion, ymwelwyr a staff wisgo masgiau wyneb ar ein safleoedd.

06/01/26
Diolch i wirfoddolwyr yn y gymuned am gefnogi staff y GIG yn ystod tywydd garw'r gaeaf