Neidio i'r prif gynnwy

2026

08/10/26
O Ogledd Cymru i Fur Mawr Tsieina: Taith Kelly i gefnogi ymwybyddiaeth o ganser y fron

I nodi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron yr Hydref hwn, mae Kelly Duff, yn helpu i dynnu sylw at bwysigrwydd diagnosis cynnar ar ôl cymryd rhan mewn her arbennig i gefnogi ymwybyddiaeth o ganser y fron.

01/10/26
Digwyddiadau i ddathlu agor gwasanaethau gofal a chymorth newydd Sir y Fflint

Mae dau wasanaeth mawr newydd wedi’u dylunio i wella gofal, cymorth a chyfleoedd i breswylwyr Sir y Fflint wedi cael eu dathlu mewn digwyddiadau agor arbennig.

24/09/26
Prosiect 100 Stori: O Straeon i Newid System

Daeth Digwyddiad Dathlu Prosiect 100 Stori â phlant a phobl ifanc, teuluoedd, ymarferwyr, arweinwyr, academyddion a phartneriaid ledled Gogledd Cymru ynghyd i fyfyrio ar bŵer adrodd straeon fel offeryn ar gyfer newid.

21/09/26
Rhaglen ddogfen yn dangos effaith barhaol prosiect celfyddydau ar gleifion iechyd meddwl

Cafodd ffilm ddogfen newydd, sy'n cofnodi rhaglen gelfyddydau trawsnewidiol mewn uned iechyd meddwl ddiogel, ei dangos yn TAPE Cerdd a Ffilm Cymunedol, Bae Colwyn yn ddiweddar.

04/09/26
Meddyg yn Ysbyty Maelor Wrecsam y cyntaf yng Nghymru i dderbyn medal Rhagoriaeth mewn Addysgu

Mae Hyfforddai mewn Meddygaeth Acíwt wedi derbyn Medal John Munro am Ragoriaeth mewn Addysgu gan Goleg Brenhinol y Meddygon yng Nghaeredin (RCPE).

28/08/26
Dewch i weld y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael o fewn gwasanaethau canser: Diwrnod agored, 27 Medi 2026

Dyma wahoddiad i bobl ifanc sy'n ystyried eu hopsiynau gyrfa, a’r rhai sy'n chwilio am yrfa newydd, i gyfarfod agored yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru i weld y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael o fewn gofal canser.

27/08/26
Preswylydd o Wrecsam yn cefnogi treial prawf anadl newydd Cymru ar gyfer canser a laddodd ei mam

Mae preswylydd o Wrecsam, y bu farw ei mam 12 wythnos yn unig ar ôl diagnosis o ganser y pancreas, yn rhannu ei stori i gynorthwyo Ysbyty Maelor Wrecsam i dreialu prawf anadl cyntaf y byd ar gyfer y clefyd, sy'n agor yn y ddinas heddiw (27 Awst 2026).

27/08/26
'Roedd hynny'n amhrisiadwy i mi. Rwy'n gwybod mai dyma hi. Mae'n gyfle i greu atgofion'

Fe wnaeth nain o Swydd Derby sydd â chyflwr methiant cronig y galon ganmol staff BIPBC ar ôl cael triniaeth yng Ngogledd Cymru, a ganiataodd iddi gael gwyliau arbennig gyda’i hwyrion a’i hwyresau.

21/08/26
Achrediad Gwasanaethau Anesthesia Clinigol (ACSA) i Ysbyty Maelor Wrecsam am ofal cleifion o ansawdd uchel

Mae Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael ei achredu am y tro cyntaf o dan Achrediad Gwasanaethau Anesthesia Clinigol (ACSA) Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion (RCoA) sy'n dangos ymrwymiad yr ysbyty i ddiogelwch cleifion a rhagoriaeth gofal.

13/08/26
Rowndiau ward rhithwir yn helpu cleifion i fynd adref yn gynt ar ôl eu llawdriniaeth

Mae dull arloesol o gynnal rowndiau ward yn Ysbyty Abergele yn helpu cleifion orthopedig i gael adolygiad amserol gan feddyg ymgynghorol ar ôl eu llawdriniaeth a'u helpu i ddychwelyd adref yn ddiogel ac yn gynt.

12/08/26
Interniaid yn hawlio'r sylw mewn seremonïau graddio a gynhaliwyd ledled Gogledd Cymru

Mae cenhedlaeth newydd o bobl ifanc dalentog wedi graddio'n falch ar ôl cyflawni eu hinterniaeth 12 mis ac wedi cael eu tystysgrifau mewn seremonïau ledled Gogledd Cymru gyda'u teuluoedd.

03/08/26
Byddwch yn anturus yr haf hwn: Archwilio'r Tu Allan a helpu eich teulu i ffynnu

Mae teuluoedd yng Ngogledd Cymru yn cael eu hannog i fanteisio ar yr awyr agored yr haf hwn er mwyn darganfod y cyfoeth o anturiaethau sydd ar gael wrth garreg eu drws am ddim neu am gost isel trwy'r fenter Archwilio'r Tu Allan!

24/07/26
Dull newydd yn helpu cleifion i gael llawdriniaeth ar y geg yn gynt

Mae cleifion yng Ngogledd Cymru sy'n aros am lawdriniaeth ar y geg yn elwa o fynediad cyflymach at ofal diolch i ddull newydd sy'n helpu i leihau amseroedd aros a gwella profiad y claf.

16/07/26
Rydym yn lansio ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Mae'r ymgynghoriad, sy'n cael ei gynnal o 16 Gorffennaf tan 7 Hydref 2006, yn ceisio eich barn ar dri opsiwn posibl yn ymwneud â defnydd o'r ysbyty yn y dyfodol. Nid oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud, a bydd adborth a dderbynnir yn ystod yr ymgynghoriad yn helpu'r Bwrdd Iechyd i benderfynu pa opsiwn y dylid bwrw ymlaen ag ef.

02/07/26
Dr Caroline Jones yn cyrraedd rownd derfynol Gwobr Dysgwr y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae Dr Caroline Jones, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol a Phennaeth Seicoleg Plant ac Ymyriadau Seicolegol, wedi cael ei chydnabod fel un o’r  Dysgwyr Cymraeg gorau yng Nghymru ar ôl iddi gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol

30/06/26
Achubwr mynydd yn diolch i'r timau sydd wedi'i helpu i fedru dychwelyd i'r mynyddoedd unwaith eto

Mae achubwr mynydd gwirfoddol a oedd yn ofni y gallai anaf difrifol i'w goes ddod â'i allu i ymateb i alwadau am gymorth ar y mynyddoedd i ben, wedi canmol y timau arbenigol fu’n gyfrifol am y driniaeth i’w wella, ac sydd wedi’i alluogi i fedru gwirfoddoli unwaith eto.

29/06/26
Cyhoeddiad ynghylch arweinyddiaeth: Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid

Mae Russell Caldicott, ein Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid wedi bod yn llwyddiannus o ran cael rôl newydd fel y Prif Swyddog Cyllid yn Ysbyty Athrofaol Gogledd Canolbarth Lloegr

25/06/26
Bwrdd Iechyd yn ennill yng Ngwobrau Canser Moondance

Mae timau Bwrdd Iechyd o Oncoleg, Ffiseg Feddygol a Radiograffeg yn rhan o grŵp sydd wedi ennill gwobr fawreddog.

19/06/26
Dyfarnu OBE am Wasanaethau i Ofal Iechyd Menywod i'r Meddyg Ymgynghorol Dr Geeta Kumar  

Mae Dr Geeta Kumar OBE MD FRCOG SFFMLM FMWF, Alumni NICE, Obstretegydd Ymgynghorol a Gynaecolegydd, Arbenigwr Menopos ac Arweinydd Gwasanaethau Menywod yng Ngogledd Cymru, wedi cael ei phenodi'n Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) ar Restr Anrhydeddau Pen-blwydd ei Fawrhydi'r Brenin 2026, er mwyn cydnabod ei gwasanaethau rhagorol i iechyd menywod.  

16/06/26
Dean wrth law i helpu cadw'r ysbyty yn rhedeg

Nid dim ond meddygon a nyrsys sy’n cadw ein gwasanaethau’n rhedeg, felly mae’n addas ein bod yn cydnabod y bobl hynny y tu ôl i’r llen ar Ddiwrnod Ystadau a Chyfleusterau, 2026.