27.08.2026
Fe wnaeth nain o Swydd Derby sydd â chyflwr methiant cronig y galon ganmol staff BIPBC ar ôl cael triniaeth yng Ngogledd Cymru, a ganiataodd iddi gael gwyliau arbennig gyda’i hwyrion a’i hwyresau.
Roedd Anita Wright, o Clay Cross yn Swydd Derby, yn dymuno ymweld â Gogledd Cymru i gael gwyliau gyda'i theulu - gan gynnwys ei hwyrion a’i hwyresau - yn gynharach eleni. Y maen tramgwydd oedd ei diagnosis yn cadarnhau methiant cronig y galon. Ar ôl profi pedwar digwyddiad cardiaidd, gweithredai ei chalon ar gapasiti o 25% yn unig.
Ni allai Anita deithio heb allu sicrhau y gallai barhau â’i thriniaeth, felly fe wnaeth y nyrs methiant y galon yn ei hardal leol weithredu i ddatrys y broblem. Fe wnaeth hi gysylltu â Wayne Tomlinson, Uwch Ymarferydd Nyrsio yn Ysbyty Glan Clwyd.
Cytunodd Wayne y gallai Anita barhau â'i thriniaethau mewnwythiennol (IV) yn yr ysbyty tra byddai yn yr ardal, gan ganiatáu iddi gael gwyliau arbennig gyda'i hwyrion a’i hwyresau. Aeth Anita i’n huned Gofal Brys ar yr Un Diwrnod (SDEC) i gael dwy driniaeth yn ystod ei gwyliau wythnos o hyd, ac fe wnaeth pob ymweliad bara o leiaf bedair awr.
Dywedodd Anita: “Roedd hynny’n amhrisiadwy i mi. Yn ystod cyfnod y Nadolig, roeddent wedi dweud na fyddwn i’n byw i weld mis Chwefror. Dywedais i, 'na, rydw i'n mynd i weld fy ŵyr bach yn troi'n ddwy oed'. Mae’n gyfle i greu atgofion iddo, oherwydd rwy’n gwybod bod gweddill fy amser yn brin.
“Rwy’n gwybod mai dyma hi. Rydym yn nesáu at y diwedd – ac rwyf wedi gallu mynd ar wyliau a gallu treulio rhywfaint o amser yn peidio â gorfod hel meddyliau am hynny.
"Do, bu’n rhaid i mi ymweld â’ch cyfleuster ddwywaith, ond nid oedd hynny’n rhywbeth anghyffredin i mi nac i fy nheulu. Ond roedd yn rhywbeth hollol amhrisiadwy, i fi ac i fy nheulu hefyd."
Cafodd Anita drawiad ar y galon am y tro cyntaf oddeutu 20 mlynedd yn ôl, y cyntaf o bedwar y mae hi wedi’u dioddef. Profwyd triniaethau amrywiol ond roeddent yn aneffeithiol a chafodd hyd yn oed ei hystyried i gael trawsblaniad calon ym Manceinion ond cafodd ei hysbysu na fyddai'n goroesi'r llawdriniaeth.
Fel y gall ddigwydd yn achos methiant y galon, dechreuodd hylif gronni oherwydd nid oedd ei chalon yn gweithio'n effeithiol. Ar ôl sawl triniaeth wahanol rhagnodwyd dos sylweddol o gyffur newydd iddi hi, ac mae hynny wedi ei helpu i ymdopi â'r cyflwr. Roedd hi’n rhan o gynllun peilot y driniaeth honno a gychwynnodd oddeutu 18 mis yn ôl.
Darllenwch fwy: Rowndiau ward rhithwir yn helpu cleifion i fynd adref yn gynt ar ôl eu llawdriniaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae'n golygu bod yn rhaid i Anita barhau i fynd i’w hysbyty lleol i gael trwythiad IV rheolaidd - am bedair awr, dair gwaith yr wythnos - i drin yr hylif a gronnir a achosir gan fethiant ei chalon. Ond mae hi'n ddiolchgar am bopeth y mae clinigwyr wedi'i wneud iddi.
Ychwanegodd Anita: "Achubodd Ysbyty Chesterfield fy mywyd a rhoddodd Ysbyty Clay Cross fy mywyd yn ôl i mi. Fe wnaeth y gwasanaeth a gefais gan Ysbyty Glan Clwyd ganiatáu i mi fynd i ar wyliau gyda fy wyrion a fy wyresau. Roedd hynny’n amhrisiadwy i mi.”
Dywedodd nyrs methiant y galon Anita, Mandy Duquemin: "A dweud y gwir, roeddwn yn disgwyl y câi fy nghais ei wrthod.
"Dyma un o'r enghreifftiau gorau o weithio ar y cyd er budd claf rydw i wedi'i weld yn ystod fy nghyfnod fel nyrs methiant y galon.
"Yn y GIG, rydym yn disgwyl gorfod wynebu biwrocratiaeth a rhwystrau rhag cael gofal oddi allan i ffiniau. Mae hon yn enghraifft fendigedig o ofal tosturiol sy'n haeddu cydnabyddiaeth."
Dywedodd Wayne Tomlinson, Nyrs Arweiniol Methiant y Galon yn Ysbyty Glan Clwyd: "Er mai fi oedd y prif gyswllt trwy e-bost, cydweithiodd sawl cydweithiwr yn ein tîm cardioleg ac yn yr uned SDEC i helpu i gynnig y driniaeth i Anita.
"Gan adleisio'r hyn a ddywedodd Mandy, rwy’n ddiolchgar i bawb a wnaeth helpu a chefnogi Anita, i ganiatáu iddi dreulio amser gwerthfawr gyda’i theulu yng Ngogledd Cymru."
Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr