Neidio i'r prif gynnwy

2026

02/07/26
Dr Caroline Jones yn cyrraedd rownd derfynol Gwobr Dysgwr y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae Dr Caroline Jones, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol a Phennaeth Seicoleg Plant ac Ymyriadau Seicolegol, wedi cael ei chydnabod fel un o’r  Dysgwyr Cymraeg gorau yng Nghymru ar ôl iddi gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol

30/06/26
Achubwr mynydd yn diolch i'r timau sydd wedi'i helpu i fedru dychwelyd i'r mynyddoedd unwaith eto

Mae achubwr mynydd gwirfoddol a oedd yn ofni y gallai anaf difrifol i'w goes ddod â'i allu i ymateb i alwadau am gymorth ar y mynyddoedd i ben, wedi canmol y timau arbenigol fu’n gyfrifol am y driniaeth i’w wella, ac sydd wedi’i alluogi i fedru gwirfoddoli unwaith eto.

29/06/26
Cyhoeddiad ynghylch arweinyddiaeth: Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid

Mae Russell Caldicott, ein Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid wedi bod yn llwyddiannus o ran cael rôl newydd fel y Prif Swyddog Cyllid yn Ysbyty Athrofaol Gogledd Canolbarth Lloegr

25/06/26
Bwrdd Iechyd yn ennill yng Ngwobrau Canser Moondance

Mae timau Bwrdd Iechyd o Oncoleg, Ffiseg Feddygol a Radiograffeg yn rhan o grŵp sydd wedi ennill gwobr fawreddog.

19/06/26
Dyfarnu OBE am Wasanaethau i Ofal Iechyd Menywod i'r Meddyg Ymgynghorol Dr Geeta Kumar  

Mae Dr Geeta Kumar OBE MD FRCOG SFFMLM FMWF, Alumni NICE, Obstretegydd Ymgynghorol a Gynaecolegydd, Arbenigwr Menopos ac Arweinydd Gwasanaethau Menywod yng Ngogledd Cymru, wedi cael ei phenodi'n Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) ar Restr Anrhydeddau Pen-blwydd ei Fawrhydi'r Brenin 2026, er mwyn cydnabod ei gwasanaethau rhagorol i iechyd menywod.  

16/06/26
Dean wrth law i helpu cadw'r ysbyty yn rhedeg

Nid dim ond meddygon a nyrsys sy’n cadw ein gwasanaethau’n rhedeg, felly mae’n addas ein bod yn cydnabod y bobl hynny y tu ôl i’r llen ar Ddiwrnod Ystadau a Chyfleusterau, 2026.

16/06/26
'Maen nhw bron yn ail rieni' – dyfarnwyd yr achrediad uchaf i'r gwasanaeth Newyddenedigol

Mae ein gwasanaeth Newyddenedigol wedi ennill achrediad lefel uchaf gan brosiect y Cenhedloedd Unedig gyda'r nod o roi'r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod.

12/06/26
Cwpan Cymru yn dod i Ysbyty Gwynedd wrth i gadeirydd clwb pêl-droed ddiolch i dîm yr Uned Dialysis

Mwynhaodd cleifion a staff Uned Dialysis Ysbyty Gwynedd ymweliad arbennig yn ddiweddar pan ddaeth Cadeirydd Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon, Paul Evans, â thlws Cwpan Cymru y clwb i’r uned.

12/06/26
Diwrnod Asesiadau Cymunedol yn dod â gofal iechyd yn nes at gartrefi cleifion mewn cymunedau gwledig

Fe wnaeth mwy na 100 o gleifion o bob cwr o Dde Gwynedd elwa o fynediad cyflymach at wasanaethau gofal iechyd arbenigol yn ein Diwrnod Asesiadau Cymunedol yn Nolgellau.

04/06/26
Partneriaeth newydd i hybu rhaglenni hunanreoli 'achubiaeth' ledled Cymru

Mae dyn a leihau ei lefel glwcos gwaed diabetes o 120 i 38 yn dilyn diagnosis ‘sioc’ wedi canmol cyrsiau hunanreoli i gleifion a’u gofalwyr fel ‘achubiaeth’.

04/06/26
Dod yn Gyflogwr sy'n Gyfeillgar i Faethwyr

Ein hmrwymiad sefydliadol ffurfiol i ddod yn Bartner Maethu yng Nghymru ac yn Gyflogwr sy'n Gyfeillgar i Faethwyr.

26/05/26
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn dod â £45m i'r rhanbarth i gefnogi'r bobl sydd fwyaf agored i niwed

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (BPRhGC) wedi helpu i sicrhau buddsoddiad cyfalaf gwerth mwy na £45 miliwn i wella gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a thai ar draws y rhanbarth, gan gefnogi rhai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yng Ngogledd Cymru.

22/05/26
Dawnswraig yn dychwelyd i Ysbyty Gwynedd i ddiolch i'r staff flwyddyn ar ôl llawdriniaeth i osod clun newydd a newidiodd ei bywyd

Mae dychweliad cyflym claf i lefelau uchel o weithgarwch yn dilyn llawdriniaeth i osod clun newydd wedi tynnu sylw at fanteision posibl techneg lawfeddygol sy'n creu archoll mor fach â phosib sydd bellach yn cael ei chyflwyno ar gyfer cleifion dethol yn Ysbyty Gwynedd.

13/05/26
Partneriaeth nodedig i ddatblygu staff gofal iechyd ymhellach ac i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf

Mae Gogledd Cymru ar y trywydd i hyfforddi mwy o weithiwyr proffesiynol lleol nag erioed, wrth i Goleg Cambria a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ffurfio partneriaeth nodedig i drawsnewid sut mae'r rhanbarth yn recriwtio, hyfforddi a chadw staff ei weithlu gofal iechyd.

06/05/26
Lansio rhaglen ymchwil llosg y galon newydd yng Nghymru

Mae rhaglen ymchwil ledled y DU i wella gofal i bobl â llosg y galon, diffyg traul ac adlif asid wedi'i lansio yng Nghymru. Gwahoddir oedolion 55–79 oed sy'n profi symptomau rheolaidd i gymryd rhan.

22/04/26
Llawfeddyg yn cyrraedd carreg filltir gyda'i 100fed llawdriniaeth i osod ffêr newydd

Mae llawfeddyg yn Ysbyty Gwynedd wedi cyrraedd carreg filltir sylweddol ar ôl cwblhau ei 100fed llawdriniaeth i osod ffêr newydd yn llwyddiannus.

16/04/26
Cydnabod Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd am ymdrechion cynaladwyedd

Mae Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd wedi derbyn achrediad Efydd gan raglen GreenED y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng, i gydnabod yr ymrwymiad i leihau effaith amgylcheddol wrth gynnal safonau uchel o ofal cleifion.

07/04/26
Mae Ysbyty Glan Clwyd ac Uned Iechyd Meddwl Ablett wedi gweithredu system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) yn llwyddiannus.

Dyma'r trydydd tro i’r system gael ei gweithredu mewn safle acíwt o fewn y rhaglen mewn dim ond tri mis ac mae'n gam sylweddol ymlaen yn ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i foderneiddio rheoli meddyginiaethau a gwella diogelwch cleifion. 

02/04/26
Gwneud ffrindiau a chael pwrpas trwy wirfoddoli gyda Grŵp Garddio Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae Sue ac Evan sy'n gwirfoddoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn rhannu sut mae garddio wedi dod yn ffordd arbennig o wneud ffrindiau a chael pwrpas a thawelwch.

Cafodd Grŵp Garddio Ysbyty Maelor Wrecsam ei sefydlu i wella gerddi o amgylch Ysbyty Maelor Wrecsam er mwyn creu amgylchedd tawel i gleifion, ymwelwyr a staff.

01/04/26
Gofalu am eich iechyd y Pasg hwn

Hoffem atgoffa pobl i fod yn barod ac i'w helpu i gael mynediad at ofal a chymorth yn y lle mwyaf priodol os bydd ei angen dros Wyliau'r Pasg.