24 Mehefin 2026
Mae cleifion yng Ngogledd Cymru sy'n aros am lawdriniaeth ar y geg yn elwa o fynediad cyflymach at ofal diolch i ddull newydd sy'n helpu i leihau amseroedd aros a gwella profiad y claf.
Mae rhai llawdriniaethau ar y geg sy'n gofyn am anesthetig cyffredinol o brif theatrau'r ysbyty bellach yn cael eu cynnal yn Nhŷ Nerys, cyfleuster pwrpasol ar gyfer cleifion allanol sydd wedi’i leoli ar safle Ysbyty Glan Clwyd.
Mae'r newid hwn yn caniatáu trin mwy o gleifion mewn amgylchedd tawelach a mwy hamddenol, ac mae llai o risg bod llawdriniaethau'n cael eu canslo o ganlyniad i’r pwysau ar y prif theatrau gan wasanaethau ysbyty acíwt.
Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio ar gleifion y mae arnynt angen llawdriniaeth ar y geg o dan anesthetig cyffredinol gan gynnwys cleifion â dannedd sy'n anodd eu tynnu, cyflyrau meddygol cymhleth, neu bryder difrifol ynghylch gwaith deintyddol. Mae'n rhaid i gleifion fodloni meini prawf clinigol llym cyn cael eu trin yn Nhŷ Nerys. Mae'r rhain yn cynnwys adolygiad mewn Clinig Asesu Cyn Llawdriniaeth (POAC) a mynychu gyda dau hebryngwr ar ddiwrnod eu triniaeth i gynorthwyo â'u hadferiad ac i'w helpu adref ar ôl cael yr anesthetig.
Ymhlith y rhai sydd wedi elwa mae Natalie Marshall, o Fae Penrhyn, a gafodd dynnu cilddant yn yr uned yn ddiweddar.
Dywedodd: “Roedd cael fy nhriniaeth yn Nhŷ Nerys yn brofiad llawer gwell nag yr oeddwn wedi’i ddisgwyl. Roedd yn teimlo'n llawer mwy hamddenol ac anffurfiol na bod ar ward ysbyty, sy'n gallu ychwanegu at unrhyw bryder sydd gennych chi eisoes am y driniaeth.”
Dywedodd Mr Oliver Suckley, Deintydd sydd â diddordeb arbennig mewn llawdriniaeth y geg: “Rydym ni'n gwybod bod cleifion ledled Gogledd Cymru yn wynebu arosiadau hir am lawdriniaethau ar y geg, ac rydym yn gobeithio y bydd y fenter hon yn helpu i drin y cleifion hynny sydd wedi bod yn aros hiraf yn gynt.
“Mae adborth gan gleifion wedi bod yn hynod gadarnhaol ers i ni ddechrau cynnal triniaethau yn Nhŷ Nerys. Mae'r amgylchedd yn fwy addas i lawer o gleifion. Gan nad ydym ni'n gweithio ym mhrif adeilad yr ysbyty, mae llai o lawdriniaethau'n cael eu canslo oherwydd y pwysau ehangach ar y prif theatrau.
“Yn y pen draw, mae hyn yn golygu bod mwy o gleifion yn cael y driniaeth y mae ei hangen arnyn nhw yn gynt ac mae hefyd yn gwella eu profiad yn gyffredinol.”
Dywedodd Dr James Dougherty, Anesthetydd Ymgynghorol: "O safbwynt anesthetig, mae Tŷ Nerys yn lleoliad rhagorol ar gyfer y cleifion hynny a ddewiswyd yn ofalus i gael llawdriniaethau achos dydd.
"Cafodd y gwasanaeth ei ddatblygu â diogelwch cleifion wrth ei wraidd, ac mae prosesau asesu cadarn ar waith cyn y driniaeth a threfniadau cymorth priodol ar ôl rhyddhau. Drwy gynnig gofal yn y lleoliad hwn, gallwn ddarparu profiad o ansawdd uchel i gleifion a helpu i gynyddu'r capasiti ar gyfer gwasanaethau gofal wedi'u cynllunio."
Dywedodd Mr Aderemi Alalade, Cyfarwyddwr Meddygol y Gymuned Iechyd Integredig y Canol: “Dechreuais i a Mr Anil Kamisetty, Cyfarwyddwr Clinigol Llawfeddygaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, ddatblygu cynlluniau ar gyfer y fenter hon yn chwarter cyntaf y llynedd (2025) yn dilyn adroddiad GIRFT ac mewn ymateb i’r ôl-groniad sylweddol yr oeddem ni'n ei wynebu. Gan gydweithio'n agos â Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol, dan arweinyddiaeth Dr Raza Jaffery, fe wnaethom archwilio ffyrdd newydd o gydweithio i'n galluogi i weld cleifion yn gyflymach ac i helpu lleihau amseroedd aros.
“Ynghyd â chydweithwyr Atal a Rheoli Heintiau, y Clinig Asesu Cyn Llawdriniaeth (POAC), Theatrau, Nyrsio, Tîm Rheoli'r Ysbyty a'r Uned Derbyn ar Ddiwrnod y Llawdriniaeth (DOSA), rydym yn falch o fod wedi datblygu enghraifft ardderchog o gydweithio rhwng timau gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd. Ein huchelgais yw adeiladu ar y model hwn, gan wella gofal a chanlyniadau cleifion ymhellach, a chreu dull y gellir ei efelychu ar draws arbenigeddau eraill y Bwrdd Iechyd.”
Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Dyma enghraifft ardderchog o dimau'n cydweithio mewn ffyrdd arloesol i wella mynediad at ofal a lleihau amseroedd aros i gleifion ledled Gogledd Cymru."
"Er ein bod yn gwybod bod mwy o waith i'w wneud o hyd, rydym yn parhau i wneud cynnydd pwysig o ran lleihau'r arosiadau hiraf a chynyddu capasiti ar draws ystod o arbenigeddau. Mae mentrau fel hyn yn dangos sut y gallwn ddefnyddio ein cyfleusterau a'n harbenigedd mewn modd gwahanol i wella'r profiad i gleifion a'u helpu i gael eu triniaeth yn gynt.
"Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi llwyddo i leihau nifer y cleifion sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth wedi'i chynllunio gan 62.8 y cant, tra bod nifer y cleifion sy'n aros mwy na 52 wythnos am apwyntiad claf allanol cyntaf wedi gostwng gan fwy nag 80 y cant. Rydym yn parhau i ehangu capasiti drwy ystod o fesurau, gan gynnwys datblygu cyfleusterau newydd fel Canolfan Lawfeddygol Gogledd Cymru a mentrau wedi'u targedu a gynlluniwyd i fynd i'r afael â rhestrau aros.
"Mae pob claf sy'n aros am driniaeth yn bwysig i ni ac rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni gwelliannau cynaliadwy sy'n helpu mwy o bobl i dderbyn y gofal cywir, ar yr amser cywir, yn y lle cywir."
Mae'r symudiad yn rhan o raglen waith ehangach y Bwrdd Iechyd i leihau amseroedd aros, cynyddu capasiti gofal wedi'i gynllunio a gwella profiadau cleifion ledled Gogledd Cymru.