Neidio i'r prif gynnwy

Dyfarnu OBE am Wasanaethau i Ofal Iechyd Menywod i'r Meddyg Ymgynghorol Dr Geeta Kumar  

Mae Dr Geeta Kumar OBE MD FRCOG SFFMLM FMWF, Alumni NICE, Obstretegydd Ymgynghorol a Gynaecolegydd, Arbenigwr Menopos ac Arweinydd Gwasanaethau Menywod yng Ngogledd Cymru, wedi cael ei phenodi'n Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) ar Restr Anrhydeddau Pen-blwydd ei Fawrhydi'r Brenin 2026, er mwyn cydnabod ei gwasanaethau rhagorol i iechyd menywod.  

Mae Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin yn cydnabod unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol at y gymdeithas trwy wasanaeth cyhoeddus, cyflawniadau proffesiynol, arloesi, neu waith gwirfoddol. Caiff OBE, sef un o anrhydeddau uchaf y Deyrnas Unedig, ei ddyfarnu i unigolion y mae eu gwaith wedi cael effaith sylweddol a pharhaus yn eu maes, sy'n fuddiol i gymunedau ac yn gwella rhagoriaeth ar draws y Deyrnas Unedig.  

Mae'r anrhydedd fawreddog hon yn cydnabod ymroddiad gydol oes Geeta i wella iechyd a lles menywod a merched. Mae Geeta, sy'n uchel ei pharch fel clinigydd, addysgwr, arweinydd ac eiriolwr cleifion, yn llais amlwg ym maes gofal iechyd menywod ers blynyddoedd lawer, gan hyrwyddo gwelliannau i arfer clinigol, profiad cleifion a chanlyniadau iechyd yng Nghymru ac ar draws y DU yn ehangach.  

Ochr yn ochr â'i rôl arwain yn yr bwrdd iechyd, bu Geeta yn gwasanaethu'n flaenorol fel Is-lywydd Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr (RCOG), lle bu'n arwain agenda ansawdd clinigol y Coleg. Roedd ei gwaith yn cynnwys goruchwylio'r broses o ddatblygu Canllawiau ‘Green-top’ RCOG, Papurau Effaith Wyddonol, ac adnoddau gwybodaeth cleifion sydd wedi'u cydnabod yn rhyngwladol. Mae'r cyhoeddiadau dylanwadol hyn yn parhau i fod yn sail i arfer clinigol ac maent yn gwella gofal ar gyfer menywod ledled y DU ac ym mhedwar ban byd.   

Yn ogystal â'i rolau arwain cenedlaethol, mae Geeta wedi bod yn eiriolwr angerddol dros iechyd menywod, gan weithio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, gwella safonau godi, a sicrhau bod anghenion a phrofiadau menywod yn parhau i fod yn ganolog i gynllunio a darparu gofal iechyd. Mae hi hefyd wedi cyflawni rôl sylweddol o ran rhoi cymorth i dimau ar draws gwasanaethau mamolaeth a gynaecoleg, mentora cenedlaethau'r dyfodol ym maes gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac yn helpu i lywio dyfodol gofal iechyd menywod.  

Gan drafod y dyfarniad, dywedodd Fiona Giraud, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Menywod: "Mae'n bleser gennym weld bod cyfraniad rhagorol Dr Geeta Kumar at iechyd menywod yn cael ei gydnabod ar Restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin. Trwy gydol ei gyrfa ddisglair, mae hi wedi dangos arweinyddiaeth, arbenigedd ac ymrwymiad eithriadol i wella bywydau menywod a merched. Mae ei dylanwad yn mynd ymhell y tu hwnt i'w harfer clinigol ei hun, ac mae ei gwaith wedi helpu i lywio gofal iechyd menywod ar lefelau lleol, cenedlaethol, a rhyngwladol. Mae'r anrhydedd yn gwbl haeddiannol."

Gan ymateb i'r dyfarniad, dywedodd Geeta: "Pleser o'r mwyaf yw derbyn yr anrhydedd hon ac rwy'n hynod ddiolchgar amdani. Rwyf wir yn credu nad yw unrhyw gyflawniad o'r fath byth yn un unigol; mae'n adlewyrchu cefnogaeth a chyfraniadau cymaint o bobl trwy gydol y daith hon.

"Hoffwn ddiolch o waelod calon i'm teulu, yn enwedig fy ngŵr Bid Kumar, sydd hefyd yn obstetregydd ymgynghorol a gynaecolegydd, am ei gefnogaeth, anogaeth ac amynedd di-ildio, i'n merch Dona, sy'n feddyg teulu newydd gymhwyso, a'i phartner Phil am eu cariad a'u cefnogaeth cyson. 

"Hoffwn i hefyd ddiolch i'm rhieni, fy mrodyr a'm chwiorydd, fy athrawon a'm mentoriaid sydd wedi llywio fy mywyd a'm gyrfa, yn ogystal â'm ffrindiau, cydweithwyr gan gynnwys staff meddygol, nyrsio, bydwreigiaeth, rheolwyr,  staff ysgrifenyddol a staff cymorth a grwpiau eirioli am eu cefnogaeth a'u hanogaeth amhrisiadwy.

"Rwy’n hynod ddiolchgar i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac i Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr am fy ngalluogi i ddilyn trywydd sydd mor agos at fy nghalon, sef gwella iechyd a lles merched a menywod. 

"Byddwn i hefyd yn hoffi cydnabod yr unigolyn a wnaeth fy enwebu ar gyfer yr anrhydedd hon, gan ddiolch yn ddiffuant iddo. Mae ei garedigrwydd a'i gred yn fy ngwaith yn golygu llawer i mi.

"Yn bwysicaf oll, rwyf am ddiolch i'm cleifion, sydd wedi cadw fy nhraed ar y ddaear ac sydd wedi fy ysbrydoli i. 

"Rwy'n derbyn yr anrhydedd hon ar ran pawb sydd wedi bod yn rhan o'm taith." 

Mae'r penodiad yn cydnabod gyrfa ryfeddol gydag ymroddiad i ragoriaeth glinigol, arweinyddiaeth, addysg, ac eirioli, ac mae'n dathlu'r effaith barhaus y mae Dr Kumar wedi'i chael ar wasanaethau gofal iechyd, arfer proffesiynol, ac ar les menywod a'u teuluoedd. Hoffai pawb longyfarch Dr Kumar yn wresog iawn ar y cyflawniad eithriadol a haeddiannol iawn hwn.