Mae Russell Caldicott, ein Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid wedi bod yn llwyddiannus o ran cael rôl newydd fel y Prif Swyddog Cyllid yn Ysbyty Athrofaol Gogledd Canolbarth Lloegr a bydd yn gadael y Bwrdd Iechyd ar ddechrau Hydref 2026.
Mae Russ wedi bod gyda ni am y tair blynedd ddiwethaf, gan ymuno â’r Bwrdd Iechyd yn ystod cyfnod arbennig o heriol. Er ein bod yn parhau i wynebu heriau, gwnaed cynnydd sylweddol o ran atgyfnerthu ein dulliau llywodraethu ariannol a gwella perfformiad yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae Russ wedi cyflawni rôl allweddol o ran llywio’r gwelliant hwnnw, ac rydym yn ddiolchgar am ei gyfraniad sylweddol at y sefydliad.
Hoffem ddiolch i Ross am ei arweinyddiaeth a’i ymrwymiad dros y tair blynedd ddiwethaf a dymunwn bob llwyddiant iddo yn ei rôl newydd.