16.07.2026
Mae pobl ar draws Llannerch Banna a'r ardal gyfagos yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna wrth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr lansio ymgynghoriad cyhoeddus a fydd yn para 12 wythnos.
Mae'r ymgynghoriad, sy'n cael ei gynnal o 16 Gorffennaf tan 7 Hydref 2006, yn ceisio eich barn ar dri opsiwn posibl yn ymwneud â defnydd o'r ysbyty yn y dyfodol. Nid oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud, a bydd adborth a dderbynnir yn ystod yr ymgynghoriad yn helpu'r Bwrdd Iechyd i benderfynu pa opsiwn y dylid bwrw ymlaen ag ef.
Mae'r opsiynau wedi cael eu datblygu ar ôl sawl mis o ymgysylltu â chleifion, staff, trigolion lleol, sefydliadau parter a chynrychiolwyr cymunedol, lle cafodd ystod ehangach o syniadau eu hystyried cyn i'r tri opsiwn hyn gael eu nodi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae dogfennau'r ymgynghoriad yn esbonio pob opsiwn, y rhesymau pam mae'r newid yn cael ei ystyried a'r buddion a'r heriau posibl sy'n gysylltiedig â phob un.
Trwy gydol yr ymgynghoriad, bydd pobl yn gallu rhannu eu barn ar-lein, trwy'r post, e-bost neu mewn cyfres o ddigwyddiadau galw heibio i'r cyhoedd.
Dywedodd Paolo Tardivel, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Strategaeth a Chynllunio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
"Rydym yn gwybod bod Ysbyty Llannerch Banna yn ased lleol pwysig a bod ei ddyfodol yn wirioneddol bwysig i bobl. Rydym yn ymrwymedig i wrando ar safbwyntiau pawb sydd â diddordeb yn yr ysbyty cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.
"Rydym yn annog pobl i ddarllen y wybodaeth am yr ymgynghoriad, ystyried yr opsiynau ac i roi gwybod i ni am beth sydd pwysicaf iddynt hwy. Caiff pob ymateb ei ystyried yn ofalus cyn y bydd y Bwrdd Iechyd yn penderfynu ar y camau nesaf."
Mae dogfennau ymgynghori (yn Gymraeg ac yn Saesneg), gan gynnwys dogfen gryno, fersiwn Iaith Arwyddion Prydain a Hawdd ei Darllen, ar gael ar-lein ac yn yr ardal leol. Mae copïau printiedig ar gael ar gais hefyd.
Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i fynd i unrhyw rai o'r digwyddiadau galw heibio a ganlyn yn Neuadd Pentref Owrtyn:
Daw'r ymgynghoriad i ben am hanner nos ddydd Mercher 7 Hydref 2026.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i: Llunio Dyfodol Ysbyty Llannerch Banna