Neidio i'r prif gynnwy

Clinigau Rhithwir

Nawr rydym yn gallu cynnig rhai apwyntiadau drwy fideo.  Mae hyn yn golygu byddwch yn gallu cysylltu a’n staff iechyd proffesiynol drwy alwad fideo (tebyg i Skype neu FaceTime) gan ddefnyddio’ch cyfrifiadur, llechen neu ffôn clyfar.

I ddefnyddio Attend Anywhere, bydd arnoch angen:
  • Cysylltiad rhyngrwyd da.  Os ydych yn gallu gwylio fideo ar lein (e.e. YouTube), gellwch wneud galwad fideo. Os ydych yn cael unrhyw broblem, cliciwch yma ar gyfer yr arweiniad cywiro diffygion
  • Dylech ddefnyddio porwr gwe megis Google Chrome neu Safari, oherwydd ni wnaiff y gwasanaeth hwn weithio gydag Internet Explorer neu Microsoft Edge
  • Gwe-gamera, seinyddion a microffon sydd yn eich cyfrifiadur, gliniadur neu ddyfais symudol (ffôn clyfar neu lechen)
  • Ymgymryd â phrawf cyn eich apwyntiad.  Gwneir hyn i sicrhau bod eich dyfais a rhyngrwyd yn gweithio.  Defnyddiwch y ddyfais rydych yn bwriadu ei defnyddio yn ystod eich apwyntiad (h.y. eich ffôn clyfar, llechen neu gyfrifiadur). Gellwch wneud galwad brawf yma.

Cydsynio ar gyfer apwyntiadau fideo:

  • Drwy ymuno â’r alwad rydych yn cydsynio eich bod yn hapus i barhau â’r ymgynghoriad dros fideo - Os nad ydych eisiau cynnal eich ymgynghoriad dros fideo, cysylltwch â’r rhif ar eich llythyr apwyntiad
  • Bydd yr aelod staff gofal iechyd proffesiynol yn gwirio gyda chi eich bod yn hapus i barhau gyda’r fideo ar ddechrau’ch apwyntiad
  • Bydd gwybodaeth yn cael ei thrawsgrifio i’ch cofnod iechyd cleifion yn dilyn eich ymgynghoriad
  • Ni chedwir unrhyw wybodaeth na recordiadau ar system Attend Anywhere ac mae’n hollol ddiogel

Gwybodaeth bellach, gan gynnwys canllawiau a chefnogaeth: