Rydym wedi ymrwymo’n ffurfiol fel sefydliad i ddod yn un o Bartneriaid Maethu Cymru ac yn Gyflogwr sy’n Cefnogi Maethu.
Mae'r ymrwymiad hwn yn cydnabod ac yn cryfhau'r cymorth sydd ar gael i weithwyr sy'n ofalwyr maeth i'w hwdurdod Lleol (Maethu Cymru). Mae hefyd yn cyfrannu at ymdrechion ehangach i gynyddu nifer y gofalwyr maeth ledled Gogledd Cymru, gan helpu i sicrhau y gall plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed aros yn eu cymunedau lleol.
Fel Cyflogwr sy’n Cefnogi Maethu, bydd y Bwrdd Iechyd yn creu'r amodau sy'n caniatáu i staff gamu ymlaen fel gofalwyr maeth, â chymorth gan bolisïau hyblyg a diwylliant sy'n gwerthfawrogi eu cyfraniad.
Addawodd aelodau'r bwrdd eu cefnogaeth yn ffurfiol yn ystod cyfarfod diweddar, pan gawsant gyfle i wrando ar gynrychiolwyr Maethu Cymru ac aelod o staff sydd wedi cael cymorth drwy'r broses faethu.
Dywedodd Dyfed Edwards, y Cadeirydd: "Fel un o'r cyflogwyr mwyaf yng Ngogledd Cymru, mae gennym rôl bwysig i'w chyflawni o ran cynorthwyo ein cymunedau.
"Mae dod yn Gyflogwr sy’n Cefnogi Maethu yn amlygu ein hymrwymiad i blant a phobl ifanc y mae arnynt angen cartrefi diogel a sefydlog, ac mae hefyd yn cynorthwyo ein staff i wneud gwahaniaeth gwirioneddol trwy faethu.
"Drwy gydweithio â Maethu Cymru, rydym yn helpu i ddiddymu rhwystrau a chreu amgylchedd ble gall maethu fod yn opsiwn realistig i'n gweithlu ac yn opsiwn a gefnogir gan y Bwrdd."
Gwefan Maethu Cymru/Foster Wales.