Neidio i'r prif gynnwy

Rowndiau ward rhithwir yn helpu cleifion i fynd adref yn gynt ar ôl eu llawdriniaeth

13 Awst 2026

 

Mae dull arloesol o gynnal rowndiau ward yn Ysbyty Abergele yn helpu cleifion orthopedig i gael adolygiad amserol gan feddyg ymgynghorol ar ôl eu llawdriniaeth a'u helpu i ddychwelyd adref yn ddiogel ac yn gynt.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r tîm orthopedig yn Ysbyty Abergele wedi bod yn defnyddio technoleg Attend Anywhere i gynnal rowndiau ward rhithwir. Mae'r dull hwn yn galluogi meddygon ymgynghorol i siarad yn uniongyrchol â chleifion ac adolygu eu hadferiad gan ddefnyddio gliniadur neu iPad ar y ward.

Mae'r dechnoleg, a ddefnyddir yn aml mewn ymgynghoriadau rhithwir gofal sylfaenol a chymunedol, yn caniatáu i gleifion weld a siarad â'u meddyg ymgynghorol y bore ar ôl eu llawdriniaeth, ac mae uwch nyrs brofiadol yn bresennol i gynnal yr asesiad clinigol.

Cyflwynwyd y dull pan ddechreuodd meddygon ymgynghorol orthopedig o Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd gynnal llawdriniaethau yn Ysbyty Abergele. Gan fod angen i Feddygon Ymgynghorol ddychwelyd i'w prif safle ysbyty ar gyfer rhestrau llawdriniaeth, clinigau ac ymrwymiadau clinigol eraill y diwrnod canlynol, mae rowndiau ward rhithwir yn sicrhau y gall cleifion barhau i dderbyn adolygiadau amserol gan eu llawfeddygon.

Mae Claire Bowen, Rheolwr Ward yn dweud bod y dull hwn yn gweithio'n arbennig o dda i gleifion a staff.

Dywedodd: “Mae ein cleifion yn gwerthfawrogi gallu gweld a siarad â’u meddyg ymgynghorol y diwrnod ar ôl eu llawdriniaeth. Mae'n rhoi'r sicrwydd fod eu llawfeddyg wedi gweld sut maen nhw'n gwella ac mae'n rhoi cyfle iddyn nhw i ofyn unrhyw gwestiynau.

“O’n safbwynt ni ar y ward, mae’n golygu nad ydyn ni’n aros i feddyg ymgynghorol deithio'n ôl i Abergele cyn y gellir rhyddhau'r claf. Bydd gennym ni liniadur neu iPad yma gyda'r claf, a gallwn gynnal yr asesiad gyda'n gilydd a sicrhau bod popeth yn ei le er mwyn iddyn nhw fynd adref yn ddiogel ar ôl iddyn nhw fodloni'r meini prawf rhyddhau.

“Rydyn ni wedi bod yn gwneud hyn ers tua dwy flynedd bellach ac mae wedi dod yn ffordd effeithiol iawn o weithio. Mae'n dda i'n cleifion, mae'n gwneud gwell defnydd o amser ein meddygon ymgynghorol a gall hefyd helpu atal oedi diangen wrth ryddhau cleifion.”

Mae'r tîm yn bwriadu parhau i ddefnyddio Attend Anywhere ac ehangu'r defnydd pan fydd gwasanaethau orthopedig yn trosglwyddo i Ganolfan Lawfeddygol Gogledd Cymru newydd yn Ysbyty Llandudno.

Ychwanegodd Claire: “Wrth i ni symud i Landudno, rydyn ni am gynyddu nifer y llawdriniaethau y gallwn eu cynnal fel achosion dydd, a gall y dechnoleg hon ein helpu ni gyda hynny.

“Hyd yn oed pan fydd y Meddygon Ymgynghorol wedi gadael yr ysbyty i ddychwelyd at eu hymrwymiadau clinigol eraill, gallwn barhau i siarad â nhw ac adolygu cleifion drwy gydol y dydd a gyda’r nos. Mae hynny'n rhoi mwy o gyfleoedd i ni ryddhau cleifion yn ddiogel ar yr un diwrnod yn hytrach na'u bod yn gorfod aros yn yr ysbyty dros nos.

"Yn y pen draw, y bwriad yw gwneud taith y claf drwy'r ysbyty mor llyfn â phosibl gan sicrhau eu bod yn gwbl ddiogel ac yn barod i fynd adref."

Dywedodd y Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol, Mr Oliver Blocker, sy'n gweithio yn Ysbyty Gwynedd: “Mae ein rownd ward rithwir yn caniatáu i lawfeddygon barhau â dyletswyddau clinigol hanfodol eraill, fel rhestrau llawdriniaeth a chlinigau, a pharhau i oruchwylio cleifion yn rheolaidd ar y ward. Mae'n ddefnydd llawer mwy effeithlon o amser meddygon ymgynghorol heb beryglu ansawdd na diogelwch gofal cleifion.

“Mae llwyddiant y rownd ward rithwir yn dibynnu’n fawr ar brofiad tîm y ward. Mae cael uwch nyrs brofiadol iawn fel Claire yn arwain yr asesiadau i gleifion yn golygu y gallwn fod yn hyderus bod pob agwedd ar gyflwr claf wedi'i ystyried, bod yr holl feini prawf rhyddhau wedi'u bodloni a bod unrhyw broblemau wedi'u nodi cyn i'r claf fynd adref.”